Neidio i'r cynnwys

Seremoni Raddio Dosbarth 138 o Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower

Seremoni Raddio Dosbarth 138 o Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower

Ar 14 Mawrth 2015, fe raddiodd dosbarth 138 o Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower yng nghanolfan addysg Tystion Jehofa yn Patterson, Efrog Newydd. Gwelwyd y rhaglen yn fyw gan fwy na 14,000 o bobl, gan gynnwys rhai mewn nifer o leoliadau eraill a oedd yn gwylio drwy gyswllt fideo. Dechreuodd y rhaglen gyda rhagarweiniad cerddorol a oedd yn cyflwyno pedair cân newydd, ac yn nes ymlaen cafodd pawb gyfle i’w canu. a

Cadeirydd y rhaglen oedd Geoffrey Jackson, aelod o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa. Yn ei sylwadau agoriadol, fe anogodd y myfyrwyr i beidio â bod yn grintachlyd â’u gwybodaeth, ond i’w defnyddio er lles pobl eraill.​—2 Timotheus 2:2.

Fe wnaeth y Brawd Jackson drafod esiampl Moses. Am gyfnod, pabell Moses oedd y man canolog lle’r oedd cenedl Israel yn addoli Duw. Sut bynnag, pan godwyd y tabernacl, hwnnw a ddaeth yn ganolfan addoli i’r genedl. Yn ôl bob tebyg, doedd Moses ddim yn cael mynd i mewn i gysegr sancteiddiaf y tabernacl; dim ond yr archoffeiriaid oedd yn cael y fraint honno. Ond eto, nid oes unrhyw awgrym bod Moses wedi cwyno am y newid hwn. Yn hytrach, roedd yn driw i Aaron, ac yn ei gefnogi yn ei rôl newydd fel archoffeiriad. (Exodus 33:​7-​11; 40:34, 35) A oes gwers i ni? “Trysorwch eich breintiau, ond peidiwch byth â’u cadw nhw i chi’ch hun,” meddai’r Brawd Jackson.

“A Fydd Siffrwd Deilen yn Codi Ofn Arnoch?” Dyna oedd thema anerchiad a draddodwyd gan Kenneth Flodin, cynorthwywr i Bwyllgor Addysgu’r Corff Llywodraethol. Dywedodd y gallai’r myfyrwyr wynebu amgylchiadau heriol, megis erledigaeth neu sefyllfaoedd eraill a allai godi ofn arnyn nhw. Gan gyfeirio at ymadrodd yn Lefiticus 26:36, anogodd y myfyrwyr i ystyried sefyllfaoedd o’r fath, nid fel rhywbeth sy’n amhosibl ei oresgyn, ond fel dim mwy na deilen wedi ei chrino. Yna, aeth y Brawd Flodin yn ei flaen i adrodd hanes yr apostol Paul, a ddaliodd ati yn wyneb anawsterau oherwydd ei fod yn ymddiried yn Jehofa.​—2 Corinthiaid 1:​8, 10.

“Beth Rydych yn Ei Geisio?” Mark Sanderson, aelod o’r Corff Llywodraethol, a roddodd yr anerchiad nesaf ar y rhaglen. Trafododd yr egwyddor yn Diarhebion 13:12, sy’n dweud: “Mae gobaith sy’n cael ei ohirio yn torri’r galon.” (beibl.net) Mae llawer yn rhoi eu bryd ar fod yn gyfoethog neu’n enwog ac yna’n cael eu siomi pan na fyddan nhw’n medru cyflawni’r pethau hynny.

Adeg Iesu, roedd gan rai pobl ddisgwyliadau anghywir am Ioan Fedyddiwr. (Luc 7:​24-​28) Efallai roedden nhw’n disgwyl athronydd a fyddai’n eu hudo ag athrawiaethau haniaethol. Os felly, fe fyddan nhw wedi eu siomi, oherwydd neges gadarn y gwirionedd roedd Ioan yn ei dysgu. Efallai roedd eraill yn edrych am ddyn a oedd yn drawiadol yr olwg, ond roedd Ioan yn gwisgo’r un fath â phobl dlawd. Fodd bynnag, ni fyddai’r rhai a oedd yn chwilio am broffwyd wedi eu siomi, oherwydd roedd Ioan nid yn unig yn broffwyd, ond hefyd yn rhagflaenydd i’r Meseia!​—Ioan 1:​29.

Esboniodd y Brawd Sanderson y wers drwy annog y myfyrwyr i geisio’r pethau cywir. Yn hytrach na cheisio bod yn geffyl blaen neu ddisgwyl cael eu trin yn bwysicach nag eraill, fe ddylen nhw ganolbwyntio ar ddefnyddio eu hyfforddiant i helpu eraill. Gallan nhw wneud hyn drwy rannu’r pethau y maen nhw wedi eu dysgu yn Gilead, drwy gryfhau ffydd eu brodyr a’u chwiorydd, a thrwy eu caru nhw. “Os ceisiwch fod yn was gostyngedig i’ch brodyr a’ch chwiorydd, a gwneud eich gorau i wneud ewyllys Jehofa,” meddai’r Brawd Sanderson, “chewch chi mo’ch siomi.”

“Rhowch Fwyd i’r Newynog.” Dyna oedd y thema a ddatblygwyd gan James Cauthon, un o’r hyfforddwyr yn yr Adran Ysgolion Theocrataidd. Dywedodd fod pawb yn dyheu am gael eu caru, eu cydnabod, a’u gwerthfawrogi. Roedd gan Iesu’r un anghenion, ac fe ddiwallwyd yr anghenion hynny wrth i Jehofa siarad yn garedig ag ef ar adeg ei fedyddio.​-Mathew 3:​16, 17.

Mae Jehofa wedi rhoi inni’r gallu i ddefnyddio geiriau i annog a chryfhau eraill, ac mae’n disgwyl inni wneud hynny. (Diarhebion 3:​27) “Dysgwch eich hunain i edrych am y gorau mewn eraill a byddwch bob amser yn gadarnhaol,” oedd anogaeth y Brawd Cauthon. Bydd canmoliaeth sy’n dod o’r galon yn helpu ein cyd-gredinwyr i wybod bod eu hymdrechion yn werth chweil.

“Yn Dda i’r Diferyn Olaf.” Traddodwyd yr anerchiad nesaf gan Mark Noumair, un o’r cynorthwywyr i’r Pwyllgor Addysgu. Cyfeiriodd y Brawd Noumair at esiampl yr Apostol Paul, ac anogodd y myfyrwyr i beidio â bodloni ar wneud cyn lleied o waith â phosibl. Fel Paul, os ydyn nhw’n eu tywallt eu hunain i’w gwaith, fe fyddan nhw’n hapus.​—Philipiaid 2:​17, 18.

Daliodd Paul ati, hyd yn oed yn wyneb anawsterau. Gweithiodd yn galed hyd at ddiwedd ei oes, hyd y diferyn olaf fel petai. Medrai ddweud yn ddidwyll “Yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i’r pen.” (2 Timotheus 4:​6, 7) Anogodd y Brawd Noumair y myfyrwyr i efelychu Paul drwy gefnogi gwaith y Deyrnas le bynnag maen nhw’n mynd.

Profiadau. Hyfforddwr arall yn ysgol Gilead, Michael Burnett, a gyflwynodd y rhan nesaf ar y rhaglen, lle’r oedd y myfyrwyr yn actio allan rhai o’r profiadau a gawson nhw yn ystod eu hamser yn Patterson.

Dro ar ôl tro, roedd y myfyrwyr wedi gweld canlyniadau da drwy fachu ar y cyfle i roi tystiolaeth ac i rannu’r gwirionedd â phobl yn “iaith y galon”​-sef eu mamiaith. Er enghraifft, clywodd un myfyriwr fod llawer o siaradwyr Sbaeneg yn yr ardal lle’r oedd yn mynd i bregethu. Felly, cyn cychwyn, fe ddefnyddiodd yr ap JW Language i ddysgu ychydig o eiriau Sbaeneg. Y diwrnod hwnnw, fe gwrddodd â dyn yn y stryd a oedd yn siarad Sbaeneg. Gan ddefnyddio’r ychydig eiriau oedd ganddo, dechreuodd sgwrs, ac yn y pen draw, roedd y dyn a phedwar aelod o’i deulu yn astudio’r Beibl.

Cyfweliadau. Nesaf, fe wnaeth William Turner, un o’r cynorthwywyr i Bwyllgor Gwasanaeth y Corff Llywodraethol, holi pedwar o’r myfyrwyr am eu profiadau cyn dod i Gilead, ac am yr hyfforddiant a gawson nhw yn ystod y cwrs.

Soniodd y myfyrwyr am bwyntiau yr oedden nhw wedi eu mwynhau yn ystod y cwrs. Er enghraifft, soniodd un am yr hyn yr oedd wedi ei ddysgu o’r hanes yn Luc pennod 10. Roedd y 70 a anfonwyd gan Iesu yn llawen oherwydd ffrwyth eu gweinidogaeth. Roedd Iesu hefyd yn hapus, ond pwysleisiodd mai’r prif reswm dros lawenhau oedd nid ffrwyth eu llafur, ond gwybod eu bod wedi plesio Jehofa. Mae hyn yn ein hatgoffa ni bod llawenydd yn dibynnu, nid ar ein hamgylchiadau, ond ar wneud ewyllys Jehofa.

Dywedodd y Brawd Turner fod geiriau Philipiaid 1:6 yn addas yn achos y myfyrwyr. Roedd Jehofa wedi ‘dechrau gwaith da’ ynddyn nhw ac fe fyddai’n parhau i’w cefnogi.

“Cadwch Eich Golwg ar Jehofa.” Rhoddwyd prif anerchiad y rhaglen gan aelod o’r Corff Llywodraethol, y Brawd Samuel Herd. Dywedodd ei fod yn amhosibl inni weld Jehofa â’n llygaid ein hunain. Felly sut mae’n bosibl inni gadw ein golwg arno?

Un ffordd y gallwn ei weld yw trwy edrych ar y pethau y mae wedi eu creu. Ond hefyd mae Jehofa wedi ‘goleuo llygaid ein deall.’ (Effesiaid 1:​18) Po fwyaf y darllenwn y Beibl, y mwyaf y dysgwn am Jehofa. A po fwyaf y dysgwn am Jehofa, yr agosaf ato y byddwn.

Mae astudio’r Efengylau yn arbennig o bwysig, oherwydd yng ngeiriau a gwaith Iesu, gwelwn ddarlun eglur o Jehofa. Roedd Iesu’n adlewyrchu cymeriad Jehofa mor agos, nes y gallai ddweud: “Y mae’r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.”​—Ioan 14:9.

Anogodd y Brawd Herd y gynulleidfa, nid yn unig i weld Jehofa ym mywyd Iesu, ond hefyd i efelychu’r hyn y maen nhw’n ei weld. Er enghraifft, fel yr oedd Iesu’n gweithio’n galed i fwydo pobl eraill, rydyn ni hefyd yn awyddus i rannu’r bwyd ysbrydol sydd gennyn ni.

Os cadwn ein golwg ar Jehofa, beth fydd y canlyniad? Gallwn fod yr un mor hyderus â’r Salmydd a ysgrifennodd: “Gosodais yr ARGLWYDD o’m blaen yn wastad; am ei fod ar fy neheulaw, ni’m symudir.”​—Salm 16:8.

Diweddglo. Ar ôl i’r myfyrwyr dderbyn eu tystysgrifau, darllenodd un ohonyn nhw lythyr o ddiolch ar ran y dosbarth. Wrth gloi’r rhaglen, dywedodd y Brawd Jackson na ddylai’r graddedigion deimlo bod rhaid iddyn nhw gyflwyno pethau newydd neu ddwys trwy’r amser. Ar y cyfan byddan nhw’n atgoffa’r brodyr a’r chwiorydd o’r hyn y maen nhw eisoes yn ei wybod. Pwysleisiodd y Brawd Jackson fod angen bod yn ostyngedig. Yn hytrach na thynnu sylw atyn nhw eu hunain, neu at yr hyfforddiant arbennig a gawson nhw yn Gilead, bydd y graddedigion eisiau cyfeirio pobl at y Beibl a’r cyhoeddiadau. Felly, yn hytrach na digalonni’r rhai na fyddan nhw byth yn cael cyfle i fynd i ysgol Gilead, bydd y graddedigion yn calonogi eraill drwy eu helpu nhw i elwa ar yr adnoddau ysbrydol sydd ar gael iddyn nhw. Roedd y rhaglen wedi codi calonnau pawb, ac roedden nhw i gyd yn benderfynol o wasanaethu eu brodyr a’u chwiorydd yn ffyddlon.

Freeman a Miriam Abbey

Joel Acebes

Arsen ac Alyona Airiiantc

Aynura Allahverdiyeva

Haja a Lalatiana Andriakaja

Dale a Sonia Clarke

Michael a Katrina Davies

Trent Edson

Aleksandr Fomin

Josué François

Juan Giovannelli

Mark a Jill Hollis

Daniel Jovanović

Hugues a Rachel Kabitshwa

Dong-in Kim

Yura Kucherenko

Robert a Samantha Li

Gilles a Christiane Mba

Kyaw a Hka Tawm Naing

Victor ac Ami Namba

Ebenezer a Sonnie Neal

David Nwagu

Meray Razzouk

Sóstenes ac Ely Rodrigues

Davy Sehoulia

Eki Soba

Simão Sona

Anja Van Looveren

Gwen Williams

K. Abdiel ac Armande Worou

a Roedd y rhai a oedd yn mynd i’r seremoni raddio wedi cael copïau o’r caneuon newydd o flaen llaw.

b Ni ddangosir pob gwlad ar y map.

c Ni restrir pob un o’r graddedigion.