Neidio i'r cynnwys

Beth Ddigwyddodd i Dystion Jehofa Adeg yr Holocost?

Beth Ddigwyddodd i Dystion Jehofa Adeg yr Holocost?

 Bu farw tua 1,500 o Dystion Jehofa adeg yr holocost, allan o ryw 35,000 o Dystion oedd yn byw yn yr Almaen a gwledydd wedi eu meddiannu gan y Natsïaid. Nid yw’n adnabyddus ym mhob sefyllfa beth achosodd iddyn nhw farw. Gan fod ymchwil yn dal i fynd ymlaen, efallai bydd ffigyrau a manylion eraill yn cael eu diweddaru mewn amser.

 Sut buon nhw farw?

  • Gilotîn a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid

      Dienyddiadau: Cafodd yn agos i 400 o Dystion eu dienyddio yn yr Almaen a gwledydd wedi eu meddiannu gan y Natsïaid. Cafodd y mwyafrif o ddioddefwyr eu rhoi ar dreial mewn llys, eu dedfrydu i farwolaeth, a chael eu dienyddio â gilotîn. Cafodd eraill eu saethu neu eu crogi heb dreial ffurfiol mewn llys.

  •   Amodau carchariad erchyll: Bu farw dros 1,000 o Dystion mewn gwersylloedd crynhoi Natsïaidd a charchardai. Buon nhw farw un ai oherwydd iddyn nhw gael eu gorfodi i weithio’n rhy galed, neu o ganlyniad i artaith, newyn, yr oerni, salwch, neu ddiffyg gofal meddygol. Fel canlyniad o’r driniaeth greulon, bu farw eraill yn fuan ar ôl eu rhyddhad ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

  •   Achosion eraill: Cafodd rhai Tystion eu lladd mewn siambrau nwy, o dan arbrofion meddygol, neu ar ôl cael pigiad marwol.

 Pam y cafon nhw eu herlid?

 Cafodd Tystion Jehofa eu herlid oherwydd iddyn nhw lynu at ddysgeidiaethau’r Beibl. Pan fynnodd y llywodraeth Natsïaidd fod y Tystion i wneud pethau roedd y Beibl yn eu gwahardd, gwrthododd y Tystion gydymffurfio. Dewison nhw “ufuddhau i Dduw, dim i ddynion.” (Actau 5:29) Ystyriwch ddwy esiampl lle gwnaethon nhw’r dewis hwnnw.

  1.   Aros yn wleidyddol niwtral. Fel mae’r Tystion heddiw ym mhob gwlad, roedd y Tystion Jehofa oedd yn byw o dan awdurdod Natsïaidd yn niwtral mewn materion gwleidyddol. (Ioan 18:36) Felly, gwrthodon nhw

  2.   Ymarfer eu ffydd. Er iddyn nhw gael eu gwahardd rhag ymarfer eu ffydd, roedd Tystion Jehofa yn parhau i

 Mae’r Athro Robert Gerwarth yn dod i’r casgliad mai’r Tystion oedd “yr unig grŵp yn y Drydedd Reich i ddod o dan erledigaeth ar sail eu credoau crefyddol yn unig.” a Daeth eu cyd-garcharorion yn y gwersyll crynhoi i edmygu Tystion Jehofa oherwydd eu safiad cadarn. Sylwodd un carcharor o Awstria: “Nid ydyn nhw’n mynd i ryfel. Gwell fyddai ganddyn nhw gael eu lladd nac i ladd rhywun arall.”

 Ble buon nhw farw?

  •   Gwersylloedd crynhoi: Bu farw’r nifer mwyaf o Dystion Jehofa mewn gwersylloedd crynhoi. Cawson nhw eu carcharu mewn gwersylloedd fel Auschwitz, Buchenwald, Dachau, Flossenbürg, Mauthausen, Neuengamme, Niederhagen, Ravensbrück, a Sachsenhausen. Yn Sachsenhausen yn unig, mae tua 200 o farwolaethau Tystion Jehofa wedi cael eu gwireddu.

  •   Carchardai: Cafodd rhai Tystion eu poenydio i farwolaeth mewn carchardai. Bu farw eraill oherwydd yr anafiadau a roddwyd iddyn nhw o dan gwestiynu.

  •   Mannau dienyddio: Cafodd Tystion Jehofa eu dienyddio rhan amlaf yng ngharchardai Berlin-Plötzensee, Brandenburg, a Halle/Saale. Yn ychwanegol i hynny, mae ’na gofnodion o Dystion Jehofa yn cael eu dienyddio mewn 70 o leoliadau eraill.

 Rhai a gafodd eu dienyddio

  •  Enw: Helene Gotthold

     Man ei dienyddiad: Plötzensee (Berlin)

     Cafodd Helene, gwraig briod â dau o blant, ei harestio sawl gwaith. Ym 1937 cafodd ei cham-drin mor ddrwg wrth iddi gael ei chwestiynu nes iddi golli babi yn ei chroth. Ar 8 Rhagfyr 1944 cafodd ei dienyddio â gilotîn yng ngharchar Plötzensee, Berlin.

  •  Enw: Gerhard Liebold

     Man ei ddienyddiad: Brandenburg

     Cafodd Gerhard, gŵr ifanc dau ddeg mlwydd oed, ei ddienyddio ar 6 Mai 1943, dwy flynedd ar ôl i’w dad gael ei ddienyddio yn yr un carchar. Yn ei lythyr ffarwel at ei deulu a’i ddarpar wraig, ysgrifennodd: “Heb nerth yr Arglwydd, ni fyddwn wedi gallu troedio’r llwybr hwn.”

  •  Enw: Rudolf Auschner

     Man ei ddienyddiad: Halle/Saale

     17 mlwydd oed yn unig oedd Rudolf pan gafodd ei ddienyddio ar 22 Medi 1944. Yn ei lythyr ffarwel i’w fam, ysgrifennodd: “Mae llawer o frodyr wedi troedio’r llwybr hwn, ac felly wnaf fi.”

a Hitler’s Hangman: The Life of Heydrich, tudalen 105.