Neidio i'r cynnwys

Pam Mae Tystion Jehofa yn Gwrthod Mynd i Ryfel?

Pam Mae Tystion Jehofa yn Gwrthod Mynd i Ryfel?

 Nid yw Tystion Jehofa yn mynd i ryfel am y rhesymau canlynol:

  1.   Ufudd-dod i Dduw. Mae’r Beibl yn dweud y byddai gweision Duw yn “curo eu cleddyfau yn sychau” a ddim “yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel mwyach.”—Eseia 2:4.

  2.   Ufudd-dod i Iesu. Dywedodd Iesu wrth yr apostol Pedr: “Cadw dy gleddyf! . . . Bydd pawb sy’n trin y cleddyf yn cael eu lladd â’r cleddyf.” (Mathew 26:52) Dangosodd Iesu na fyddai ei ddilynwyr yn codi arfau rhyfel.

     Dywedodd Iesu na fydd ei ddisgyblion yn “perthyn i’r byd,” ac maen nhw’n ufudd i’r gorchymyn hwnnw drwy aros yn hollol niwtral mewn materion gwleidyddol. (Ioan 17:16) Nid ydyn nhw’n protestio yn erbyn gweithgareddau milwrol nac yn ymyrryd â phenderfyniadau’r rhai sy’n dewis bod yn rhan o’r fyddin.

  3.   Cariad at eraill. Rhoddodd Iesu orchymyn i’w ddisgyblion i ‘garu ei gilydd.’ (Ioan 13:34, 35) Bydden nhw’n sefydlu brawdoliaeth ryngwladol lle na fyddai unrhyw un yn rhyfela yn erbyn ei frawd na’i chwaer.—1 Ioan 3:10-12.

  4.   Esiamplau’r Cristnogion cynnar. Mae’r Encyclopedia of Religion and War yn dweud: “Roedd dilynwyr cyntaf Iesu yn ymwrthod â rhyfel a gwasanaeth milwrol gan gydnabod na fyddai mynd i ryfel yn cyd-fynd ag egwyddor Iesu inni garu ein gelynion.” Yn yr un modd, dywedodd diwinydd Almaeneg Peter Meinhold am ddaliadau disgyblion cynnar Iesu: “Nid oedd bod yn Gristion ac yn filwr yn cyd-fynd, maen nhw’n hollol groes i’w gilydd.”

Dylanwad da ar y gymuned

 Mae Tystion Jehofa yn drigolion gwerthfawr yn y gymuned ac nid ydyn nhw’n fygythiad i ddiogelwch unrhyw wlad. Rydyn ni’n parchu awdurdod y llywodraeth ac yn byw yn unol â’r gorchmynion canlynol o’r Beibl:

  •   “Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth.”—Rhufeiniaid 13:1.

  •   “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a’r hyn biau Duw i Dduw.”—Mathew 22:21.

 Felly, rydyn ni’n ufudd i’r gyfraith, yn talu ein trethi, ac yn cydweithredu â threfniadau’r llywodraeth i wasanaethu’r cyhoedd.