Neidio i'r cynnwys

Sut Mae Gwaith Tystion Jehofa yn Cael ei Ariannu?

Sut Mae Gwaith Tystion Jehofa yn Cael ei Ariannu?

 Mae ein gwaith byd-eang yn cael ei ariannu’n bennaf drwy gyfraniadau gwirfoddol unigolion sydd yn Dystion Jehofa. a Mae blychau ar gyfer cyfraniadau i’w cael yn ein haddoldai ac mae rhestr o ffyrdd eraill o gyfrannu i’w gweld ar ein tudalen Cyfraniadau. Mae nifer o opsiynau ar gael fel y gellir dewis cyfrannu at ein gwaith byd-eang, at dreuliau lleol, neu at y ddau.

 Nid oes disgwyl i Dystion Jehofa dalu degwm neu gyfrannu unrhyw swm penodol neu ganran o’u hincwm. (2 Corinthiaid 9:7) Nid ydyn ni byth yn gwneud casgliad; mae mynediad am ddim i’n cyfarfodydd, ac nid yw ein gweinidogion yn codi tâl am unrhyw fedydd, angladd, priodas neu wasanaeth crefyddol arall. Nid ydyn ni’n codi arian drwy gynnal boreau coffi, ffeiriau sborion, gemau bingo, carnifalau, ciniawau, rafflau neu ddigwyddiadau tebyg eraill, nac yn mynd ar ofyn pobl am gyfraniadau. Nid yw gwybodaeth am gyfranwyr byth yn cael ei rhannu na’i chyhoeddi. (Mathew 6:2-4) Nid yw ein gwefannau na’n cyhoeddiadau yn cynnwys hysbysebion sy’n creu incwm.

 Mae pob cynulleidfa o Dystion Jehofa yn darparu adroddiad ariannol misol yn y cyfarfodydd, ac mae’r cyfarfodydd hyn ar agor i’r cyhoedd. Caiff cyfrifon pob cynulleidfa eu harchwilio’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfraniadau’n cael eu defnyddio’n briodol.—2 Corinthiaid 8:20, 21.

Ffyrdd i Gyfrannu

  •   Blychau cyfraniadau: Gellir rhoi cyfraniadau ar ffurf arian parod neu sieciau yn y blychau cyfraniadau mewn Neuaddau’r Deyrnas, Neuaddau Cynulliad, a lleoliadau eraill lle cynhelir cyfarfodydd.

  •   Cyfraniadau ar-lein: Mewn llawer o wledydd, gellir defnyddio’r dudalen “Cyfrannu at Dystion Jehofa” i roi cyfraniadau â cherdyn credyd, cerdyn debyd, trosglwyddiad banc neu ddulliau electronig eraill. b Mae rhai Tystion yn dewis ‘rhoi arian o’r neilltu’ bob mis drwy drefnu i gyfrannu’n rheolaidd gan ddefnyddio un o’r dulliau hyn.—1 Corinthiaid 16:2.

  •   Cynllunio rhoddion: Mae rhai ffyrdd o gyfrannu yn gofyn am gynllunio ymlaen llaw a/neu gyngor cyfreithiol. Mewn rhai gwledydd, mae cynllunio rhoddion ymlaen llaw yn cynnig manteision o ran treth. Mae llawer wedi ei gweld hi’n fuddiol i ddysgu mwy am sut i drefnu rhoddion yn ystod eu bywydau neu ar ôl iddyn nhw farw. Cysylltwch â swyddfa gangen leol Tystion Jehofa am fwy o fanylion os hoffech wneud cyfraniad sy’n ymwneud â:

    •   chyfrifon banc

    •   polisïau yswiriant neu gynlluniau pensiwn

    •   eiddo tiriog

    •   stociau a bondiau

    •   ewyllysiau ac ymddiriedolaethau

 Am fwy o wybodaeth am y ffyrdd y gallwch gyfrannu yn eich gwlad chi, gweler y dudalen “Cyfrannu at Dystion Jehofa.”

a Mae rhai nad ydyn nhw’n Dystion Jehofa hefyd yn hapus i gefnogi ein gwaith.

b Gweler y fideo Tutorial for Making Donations Electronically am fwy o wybodaeth.