Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut Mae Sicrhau Bod Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?

Sut Mae Sicrhau Bod Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?

Mae Jehofa yn Dduw “sy’n gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Gallwn siarad ag ef pryd bynnag a le bynnag y dymunwn, yn uchel neu’n ddistaw. Mae Jehofa yn dymuno inni siarad ag ef fel “Tad,” ac yn wir, ef ydy’r Tad gorau y gallwn ni ei gael. (Mathew 6:9) Mae Jehofa yn esbonio yn garedig sut i weddïo a chael gwrandawiad.

GWEDDÏWCH AR JEHOFA DDUW YN ENW IESU GRIST

“Beth bynnag a ofynnwch gan y Tad yn fy enw i, bydd ef yn ei roi ichwi.”—Ioan 16:23, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Mae geiriau Iesu yn dangos yn glir bod Jehofa am inni weddïo arno, nid drwy ddelwau, seintiau, angylion, neu hynafiaid, ond yn enw Iesu Grist. Drwy weddïo ar Dduw yn enw Iesu Grist, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd Iesu Grist. “Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi,” meddai Iesu.—Ioan 14:6.

SIARADWCH O’R GALON

“Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen.”—Salm 62:8.

Pan weddïwn ar Jehofa, dylen ni siarad fel y bydden ni’n siarad â thad cariadus. Yn lle darllen gweddi o lyfr neu adrodd gweddi o’n cof, dylen ni siarad ag ef yn barchus ac o’r galon.

GWEDDÏWCH YN UNOL AG EWYLLYS DUW

“Mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e.”1 Ioan 5:14.

Yn y Beibl, mae Jehofa Dduw yn esbonio beth a wnaiff droston ni a beth mae’n gofyn inni ei wneud drosto ef. Er mwyn i’n gweddïau fod yn dderbyniol i Dduw, mae angen inni weddïo’n “gyson â’i fwriad.” I wneud hynny, mae angen inni astudio’r Beibl i adnabod Duw yn well. Yna, bydd ein gweddïau yn ei blesio.

BETH GALLWN NI WEDDÏO AMDANO?

Gweddïwch am Eich Anghenion. Gallwn weddïo am anghenion bob dydd, sef bwyd, dillad, a chartref. Gallwn weddïo hefyd am ddoethineb, ac am nerth i ddyfalbarhau drwy dreialon. Gallwn weddïo am ffydd, am faddeuant, ac am help Duw.—Luc 11:3, 4, 13; Iago 1:5, 17.

Gweddïwch Dros Bobl Eraill. Mae rhieni yn hapus i weld plant yn caru ei gilydd. Mae Jehofa hefyd eisiau i’w blant garu ei gilydd. Peth da ydy gweddïo dros ein cymar, ein plant, ein teulu, a’n ffrindiau. Ysgrifennodd y disgybl Iago: “Gweddïwch dros eich gilydd.”—Iago 5:16.

Cofiwch Ddiolch i Dduw. Mae’r Beibl yn dweud bod y Creawdwr yn “rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor—i chi gael digon o fwyd, ac i’ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.” (Actau 14:17) Pan feddyliwn am yr holl bethau mae Duw wedi eu gwneud droston ni, byddwn ni eisiau diolch iddo mewn gweddi. Wrth gwrs, dylen ni hefyd ddangos ein bod ni’n ddiolchgar i Dduw drwy’r ffordd rydyn ni’n byw.—Colosiaid 3:15.

BYDDWCH YN AMYNEDDGAR A DALIWCH ATI

Ar adegau, efallai byddwn ni’n digalonni os nad ydyn ni’n cael ateb i’n gweddïau ar unwaith. A ddylen ni ddod i’r casgliad nad oes gan Dduw ddiddordeb ynon ni? Dim o gwbl! Ystyriwch y profiadau canlynol sy’n dangos pa mor bwysig ydy dal ati i weddïo.

Mae Steve, y soniwyd amdano yn yr erthygl agoriadol, yn cyfaddef: “Oni bai am weddi, byddwn i wedi colli pob gobaith flynyddoedd yn ôl.” Beth newidiodd? Dechreuodd astudio’r Beibl a dysgu bod angen gweddïo a dal ati i weddïo. “Dw i’n gweddïo i ddiolch i Dduw am yr holl gefnogaeth dw i wedi ei chael gan ffrindiau annwyl,” meddai Steve. “Dw i’n hapusach heddiw nag erioed.”

Beth am Jenny a oedd yn teimlo nad oedd hi’n ddigon da i Dduw wrando arni? Mae hi’n dweud, “Pan oeddwn i ar fy isaf, erfyniais ar Dduw am help i ddeall pam roeddwn i’n teimlo mor ddiwerth.” Sut roedd hynny yn ei helpu? “Trwy siarad â Duw, dw i wedi sylweddoli bod Jehofa yn fy ngharu, hyd yn oed pan mae fy nghalon yn mynnu nad ydw i’n ddigon da. Mae hynny wedi fy helpu i beidio â digalonni.” A’r canlyniad? “Mae gweddïo wedi fy helpu i weld Jehofa fel Duw, Tad a Ffrind cariadus sydd bob amser yn gefn imi os ydw i’n dal ati i geisio ei blesio.”

“Dw i’n sylweddoli mai fo ydy’r ateb gorau i’m gweddïau,” meddai Isabel pan wêl ei mab Gerard yn mwynhau bywyd er gwaethaf ei anabledd

Ystyriwch brofiad Isabel hefyd. Pan feichiogodd hi, dywedodd y meddygon y byddai’r plentyn yn cael ei eni ag anabledd difrifol. Roedd y newyddion yn ei llorio. Dywedodd rhai y dylai hi gael erthyliad. “Roeddwn i’n teimlo mod i’n mynd i farw o’r boen yn fy nghalon.” Beth a wnaeth hi? “Gweddïais drosodd a throsodd am gymorth,” meddai. Pan gafodd ei mab Gerard ei eni, roedd ganddo anableddau. Ydy Isabel yn credu bod Duw wedi ateb ei gweddïau? Ydy! Ym mha ffordd? “Pan welaf fy mab, sy’n 14 oed erbyn hyn, yn mwynhau bywyd er gwaethaf ei anabledd,” meddai Isabel, “dw i’n sylweddoli mai fo ydy’r ateb gorau i’m gweddïau, y fendith fwyaf mae Jehofa wedi ei rhoi i mi.”

Mae eu geiriau diffuant yn ein hatgoffa o eiriau’r salmydd: “Ti’n gwrando ar lais y rhai sy’n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD. Byddan nhw’n teimlo’n saff am dy fod ti’n gwrando arnyn nhw.” (Salm 10:17) Dyna resymau gwych dros ddal ati i weddïo!

Mae llawer o weddïau Iesu yn y Beibl. Yr un fwyaf enwog ydy’r un a ddysgodd i’w ddisgyblion. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r weddi honno?