Ysbrydolrwydd
Fel y gwelon ni yn yr erthygl gyntaf, mae llawer o bobl yn dweud mai llyfr sanctaidd ydy’r Beibl. Mae darllen y Beibl a rhoi ei gyngor ar waith wedi eu helpu i glosio at Dduw a deall bod ’na ystyr i’w bywydau.
Mae’r Beibl yn cysylltu ysbrydolrwydd ag agweddau pobl a’u ffyrdd o fyw. (Jwdas 18, 19) Yn wahanol iawn i bobl sy’n gwrthod safonau Duw, mae pobl sydd ag agwedd ysbrydol yn eu gwerthfawrogi.—Effesiaid 5:1.
GOBAITH
EGWYDDOR O’R BEIBL: “Os wyt ti’n un i golli hyder dan bwysau, mae gen ti angen mwy o nerth.”—Diarhebion 24:10.
BETH MAE’N EI OLYGU? Gall digalondid wneud inni deimlo’n rhy wan i wynebu problemau bywyd. Ond, gall gobaith roi inni galon lew er mwyn dal ati. Gallwn ni gael cysur o gydnabod mai dros dro yn unig yw’r mwyafrif o’n problemau; yn wir, efallai y daw rhywbeth da ar ôl i’r sefyllfa anodd fynd heibio.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD? Meddyliwch am y pethau da fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn lle pryderu am yr hyn a all ddigwydd neu aros am yr amgylchiadau perffaith, gweithredwch. Wrth gwrs, er gwaethaf ein hymdrechion, “mae damweiniau’n gallu digwydd.” (Pregethwr 9:11) Ond mewn gwirionedd, bydd pethau yn aml yn well nag oedden ni’n eu disgwyl. Mae’r Beibl yn esbonio hyn gan ddefnyddio eglureb am ffermio: “Hau dy had yn y bore, a phaid segura gyda’r nos; wyddost ti ddim pa un fydd yn llwyddo—y naill neu’r llall, neu’r ddau fel ei gilydd.”—Pregethwr 11:6.
ATEBION I’R CWESTIYNAU MAWR
EGWYDDOR O’R BEIBL: “Rho imi ddeall . . . Dy air yw gwirionedd.”—Salm 119:144, 160, BCND.
BETH MAE’N EI OLYGU? Mae’r Beibl yn rhoi’r atebion i’r cwestiynau mae bron i bawb yn eu codi. Er enghraifft, mae’n ateb cwestiynau fel:
-
O le rydyn ni’n dod?
-
Pam rydyn ni yma?
-
Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn marw?
-
Ai’r bywyd hwn yw’r cyfan sydd?
Mae dysgu atebion y Beibl i gwestiynau fel y rhain wedi helpu miliynau o bobl o gwmpas y ddaear i wella eu bywydau.
BETH ALLWCH CHI EI WNEUD? Dysgwch am ddysgeidiaethau’r Beibl. Gofynnwch i Dystion Jehofa am help i ddeall y Beibl. Ewch i’n gwefan, jw.org, neu mynychwch un o’n cyfarfodydd sy’n agored i bawb—mae’r mynediad am ddim.
EGWYDDORION ERAILL O’R BEIBL
BYDDWCH YN YMWYBODOL O’CH ANGEN YSBRYDOL.
“Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd.”—MATHEW 5:3, BCND.
DYSGWCH FWY AM DDUW’R BEIBL.
‘Ceisio dod o hyd i Dduw, ac estyn allan a’i gael. A dydy e ddim yn bell oddi wrthon ni.’—ACTAU 17:27.
DARLLENWCH Y BEIBL A MYFYRIWCH AR EI NEGES.
Y mae’n “cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos. . . . Beth bynnag a wna, fe lwydda.”—SALM 1:2, 3, BCND.