Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Iechyd Corfforol

Iechyd Corfforol

Nid llyfr meddygol yw’r Beibl. Ond eto, mae’n cynnwys egwyddorion a all ein helpu ni i gadw’n iach. Ystyriwch rai a all wella eich iechyd corfforol.

GOFALWCH AM EICH CORFF

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dydy pobl ddim yn casáu eu cyrff eu hunain—maen nhw’n eu bwydo nhw a gofalu amdanyn nhw.”—Effesiaid 5:29.

BETH MAE’N EI OLYGU? Mae’r egwyddor Feiblaidd hon yn ein hannog i edrych ar ôl ein hiechyd corfforol. Dangosodd un adroddiad fod gan lawer o bobl broblemau iechyd oherwydd eu ffordd o fyw. Felly, gall dewisiadau da arwain at iechyd gwell.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Bwyta’n Iach. Sicrhewch fod gennych chi ddeiet da drwy fwyta bwyd iachus ac yfed digon o ddŵr.

  • Cadw’n Heini. Os ydych yn hen neu’n ifanc, yn sâl neu’n anabl, gall ceisio cadw’n heini wella eich iechyd. Er bod teulu, ffrindiau, a meddygon yn gallu eich helpu i lunio rhaglen ymarfer corff, chi eich hun sy’n gorfod ei dilyn!

  • Cael Digon o Gwsg. Mae diffyg cwsg dros gyfnod hir yn gallu arwain at afiechydon difrifol. Dydy llawer o bobl ddim yn cael digon o gwsg oherwydd eu dewisiadau. Ond, drwy ddewis cael digon o gwsg, rydych yn dewis cael bywyd gwell.

OSGOWCH ARFERION NIWEIDIOL

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Gadewch i ni lanhau’n hunain o unrhyw beth allai’n gwneud ni’n aflan.”—2 Corinthiaid 7:1.

BETH MAE’N EI OLYGU? Bydd gennyn ni iechyd gwell pan nad ydyn ni’n halogi ein cyrff drwy ddefnyddio sylweddau niweidiol fel tybaco, sy’n achosi salwch a marwolaeth.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD? Gosodwch ddyddiad i roi’r gorau iddi, a’i farcio yn eich dyddiadur. Y diwrnod cyn hynny, taflwch bob un sigarét, blwch llwch, ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud ag ysmygu i’r bin. Osgowch lefydd lle mae eraill yn ysmygu. Gadewch i’ch teulu a’ch ffrindiau wybod am eich penderfyniad.

EGWYDDORION ERAILL O’R BEIBL

Gallwch ofyn i Dystion Jehofa yn eich ardal eich helpu i gael hyd i fersiwn printiedig o’r Beibl yn eich iaith chi

PARCHWCH FYWYD.

“Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.”—DEUTERONOMIUM 22:8.

RHEOLWCH EICH TYMER.

“Mae rheoli’ch tymer yn beth call iawn i’w wneud; ond mae colli’ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl.”—DIARHEBION 14:29.

PEIDIWCH Â GORFWYTA.

“Paid cael gormod i’w wneud gyda’r rhai sy’n . . . stwffio eu hunain hefo bwyd.”—DIARHEBION 23:20.