Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Help i’r Rhai Sy’n Dioddef Trais yn y Cartref

Help i’r Rhai Sy’n Dioddef Trais yn y Cartref

 Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, “Mae trais yn erbyn menywod wedi cyrraedd lefel epidemig ledled y byd. Mae angen gweithredu ar frys i’w atal.” Mae’r sefydliad hwnnw’n amcangyfrif bod bron 30 y cant “o fenywod sydd wedi bod mewn perthynas wedi dioddef trais, naill ai’n gorfforol neu’n rhywiol, neu’r ddau” gan eu partneriaid. Mewn adroddiad sy’n trafod un flwyddyn ddiweddar, mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod 137 o fenywod wedi marw ledled y byd o ganlyniad i drais gan eu partneriaid neu aelodau eraill o’r teulu. a

 Gall ystadegau ddangos pa mor fawr yw problem trais yn y cartref, ond dydyn nhw ddim yn dechrau cyfleu poen gorfforol ac emosiynol y rhai sy’n dioddef.

 Ydych chi’n dioddef trais yn y cartref? Neu’n adnabod rhywun sy’n dioddef? Os felly, ystyriwch y pwyntiau canlynol o’r Beibl i’ch helpu.

  Nid chi sydd ar fai am y trais

  Mae cymorth ar gael

  Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

  Bydd trais yn y cartref yn dod i ben

  Sut i helpu rhywun sy’n dioddef

 Nid chi sydd ar fai am y trais

 Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.”—Rhufeiniaid 14:12.

 Cofiwch hyn: Mae’r un sy’n eich cam-drin yn gyfrifol am ei ymddygiad.

 Os ydy eich partner yn rhoi’r bai arnoch chi am ei ymddygiad treisgar ef, ef sy’n anghywir. Mae gwragedd yn haeddu eu caru, nid eu cam-drin.—Colosiaid 3:19.

 Weithiau bydd problemau iechyd meddwl, agweddau yn y teulu, neu gamddefnyddio alcohol yn dylanwadu ar rywun sy’n cam-drin eraill. Er hynny, y mae’n atebol i Dduw am y ffordd y mae’n eich trin. Ac ef sy’n gyfrifol am newid ei ymddygiad.

 Mae cymorth ar gael

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cynlluniau’n . . . llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”—Diarhebion 15:22.

 Cofiwch hyn: Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel neu ddim yn gwybod beth i wneud, mae eraill yn gallu helpu.

 Pam mae angen help? Mae trais yn y cartref yn gymhleth. Wrth benderfynu beth i’w wneud gall fod yn anodd pwyso a mesur ffactorau fel:

  •   Eich diogelwch personol

  •   Lles eich plant

  •   Eich sefyllfa ariannol

  •   Eich cariad tuag at eich partner

  •   Eich awydd i achub y berthynas os bydd eich partner yn newid

 Mae’n hawdd drysu a theimlo bod y sefyllfa’n ormod ichi. Lle gallwch chi droi am help?

 Efallai bydd ffrind da neu aelod o’r teulu yn gallu rhoi cymorth ymarferol ac emosiynol ichi. Mae siarad â rhywun sy’n eich caru chi yn gallu gwneud byd o wahaniaeth.

 Mae llinellau cymorth i ddioddefwyr trais yn y cartref yn gallu cynnig cymorth ar unwaith. Bydd y rhai sy’n ateb y galwadau yn eich helpu i wneud cynllun diogelwch. Os bydd eich partner yn cydnabod y broblem ac eisiau newid, efallai bydd llinell gymorth yn gallu ei helpu ef i gymryd y camau cyntaf.

 Mae adnoddau brys eraill ar gael i’ch helpu os ydych chi mewn peryg, gan gynnwys meddygon, nyrsys a phobl broffesiynol eraill.

 Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

 Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r ARGLWYDD [Jehofa b] yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”

 Cofiwch hyn: Mae Duw yn addo eich helpu.

 Mae Jehofa yn gofalu amdanoch chi. (1 Pedr 5:7) Mae’n deall eich meddyliau a’ch teimladau. Mae’n gallu eich cysuro trwy ei Air, y Beibl. Ac mae’n gofyn ichi weddïo arno. Yn eich gweddïau, gofynnwch iddo roi ichi’r doethineb a’r nerth sydd eu hangen i ddelio â’ch sefyllfa.—Eseia 41:10.

 Bydd trais yn y cartref yn dod i ben

 Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pawb yn eistedd dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, heb angen bod ofn.”—Micha 4:4.

 Cofiwch hyn: Mae’r Beibl yn addo bod amser yn dod pan fydd pob cartref yn hafan.

 Dim ond Jehofa Dduw sydd â’r ateb parhaol i bob un o’n problemau. Mae’r Beibl yn addo: “Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.” (Datguddiad 21:4) Bryd hynny, bydd unrhyw atgofion cas yn diflannu a rhai da yn cymryd eu lle. (Eseia 65:17) Dyma’r dyfodol heddychlon mae’r Beibl yn ei gynnig ichi.

a Cyfeiria’r erthygl hon at yr un sy’n dioddef trais fel menyw, ond mae llawer o’r drafodaeth yn berthnasol hefyd i ddynion sy’n dioddef.

b Mae’r Beibl yn dangos mai Jehofa yw enw Duw.