Neidio i'r cynnwys

Os Gweddïaf ar Dduw a Fydd Ef yn Fy Helpu?

Os Gweddïaf ar Dduw a Fydd Ef yn Fy Helpu?

Ateb y Beibl

 Bydd, mae Duw yn helpu’r rhai sy’n gwir ofyn am bethau sydd yn unol â’i ewyllys. Hyd yn oed os ydych chi erioed wedi gweddïo o’r blaen, gall esiamplau rhai o’r Beibl a weddïodd, “Duw, helpa fi,” eich calonogi chi. Er enghraifft:

  •   “Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw; achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.”—Salm 109:26.

  •   “Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn; O Dduw, brysia ata i!”—Salm 70:5.

 Wrth gwrs, roedd gan ysgrifennydd y geiriau hynny ffydd gref yn Nuw. Ond eto, mae Duw yn gwrando ar bawb sy’n dod ato gyda’r agwedd gywir, fel “y rhai sydd wedi torri eu calonnau” neu “sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18.

 Does dim rhaid i chi boeni bod Duw mor bell i ffwrdd nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb yn eich problemau. Mae’r Beibl yn dweud: “Er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae’n gofalu am y gwylaidd; ac mae’n gwybod o bell am y balch.” (Salm 138:6) Yn wir, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion un tro: “Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!” (Mathew 10:30) Mae Duw yn gweld pethau amdanoch chi nad ydych chi wedi sylwi eich hun. Gymaint mwy, felly, bydd ef yn gwrando os gweddïwch am ei help gyda’ch pryderon!—1Pedr 5:7.