Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Diogelwch Menywod—Safbwynt y Beibl

Diogelwch Menywod—Safbwynt y Beibl

 Mae miliynau o fenywod a merched ledled y byd wedi cael eu cam-drin. Ydych chi’n un ohonyn nhw? Gwelwch pam mae eich diogelwch yn bwysig i Dduw, a beth y mae’n mynd i’w wneud am y gamdriniaeth y mae menywod yn ei dioddef.

 “Pan o’n i’n blentyn, roedd fy mrawd yn fy ngham-drin yn gorfforol ac yn eiriol bob dydd. Ar ôl imi briodi, roedd fy mam-yng-nghyfraith yn parhau i ymosod arna i. Roedd hi a fy nhad-yng-nghyfraith yn fy nhrin i fel caethwas. Ro’n i’n meddwl am ladd fy hun.”—Madhu, a India.

 “Mae trais yn erbyn menywod yn gyffredin ym mhob rhan o’r byd,” yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n amcangyfrif bod un ym mhob tair menyw yn cael ei cham-drin yn gorfforol neu’n rhywiol rywbryd yn ystod eu bywydau.

 Os dyna sydd wedi digwydd i chi, efallai fyddwch chi ddim yn teimlo’n ddiogel yn unrhyw le, gan ofni y bydd rhywun yn eich cam-drin yn eiriol, yn gorfforol, neu’n rhywiol. Ar ôl wynebu trais a chamdriniaeth oherwydd eich bod chi’n fenyw, efallai byddwch yn credu nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn gweld menywod yn bwysig. Ond ydy menywod yn bwysig i Dduw?

Mae’r Beibl yn dangos bod diogelwch menywod yn bwysig i Dduw

Beth yw safbwynt Duw tuag at fenywod?

 Adnod: “Yn wryw a benyw y creodd [Duw] nhw.”—Genesis 1:27.

 Ystyr: Creodd Duw ddynion a menywod. Yn ei olwg ef, mae’r ddau yn haeddu parch. Ar ben hynny, y mae’n disgwyl i ŵr “garu ei wraig fel y mae’n ei garu ei hun,” heb geisio ei rheoli, ac yn sicr nid drwy ddefnyddio geiriau cas a thrais. (Effesiaid 5:33; Colosiaid 3:19) Yn amlwg, mae diogelwch menywod yn bwysig i Dduw.

 “Yn blentyn, ces i fy ngham-drin yn rhywiol gan aelodau fy nheulu. Pan o’n i’n 17 oed, dywedodd fy nghyflogwr y byddwn i’n colli fy swydd os nad o’n i’n cael rhyw gydag ef. Fel oedolyn, dw i wedi cael fy mychanu gan fy ngŵr, fy rhieni, a fy nghymdogion. Ond ymhen amser, dysgais am Jehofa, b y Creawdwr. Y mae ef yn parchu menywod. Dw i’n gwybod ei fod yn fy ngharu ac yn meddwl fy mod i’n werthfawr.”—Maria, Yr Ariannin.

Beth gallwch chi ei wneud i ddechrau adfer eich iechyd emosiynol?

 Adnod: “Mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.”—Diarhebion 18:24.

 Ystyr: Bydd ffrind go iawn yn gefn ichi. Siaradwch am eich teimladau gyda ffrind dibynadwy os bydd hynny yn help.

 “Cefais fy ngham-drin yn rhywiol ond ddywedais i’r un gair wrth neb am ugain mlynedd. O ganlyniad, ro’n i’n anhapus, yn bryderus ac yn isel fy ysbryd. Ond pan siaradais gyda rhywun oedd yn fodlon gwrando, roedd y rhyddhad yn anhygoel.”—Elif, Türkiye.

 Adnod: “[Bwriwch] eich holl bryder arno ef, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.

 Ystyr: Bydd Duw yn gwrando’n astud pan fyddwch chi’n gweddïo. (Salm 55:22; 65:2) Oherwydd ei fod yn eich caru chi, y mae’n gallu eich helpu chi i weld pa mor werthfawr ydych chi.

 “Roedd dysgu am Jehofa yn dechrau iacháu’r boen emosiynol ofnadwy roeddwn i wedi ei dioddef. Nawr galla i weddïo ar Dduw a dweud wrtho am fy nheimladau. Y mae fel ffrind sy’n deall yn union sut dw i’n teimlo.”—Ana, Belîs.

A fydd Duw yn rhoi terfyn ar gamdriniaeth menywod?

 Adnod: “O ARGLWYDD . . . byddi’n rhoi cyfiawnder i’r amddifad a’r rhai sy’n cael eu sathru; byddi’n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.”—Salm 10:​17, 18.

 Ystyr: Yn fuan, bydd Duw yn cael gwared ar bob anghyfiawnder, gan gynnwys creulondeb wrth fenywod a thrais yn eu herbyn.

 “Mae dod i wybod bod Jehofa yn mynd i stopio camdriniaeth menywod a merched wedi bod yn eli i’r briw. Mae wedi rhoi tawelwch meddwl imi.”—Roberta, Mecsico.

 Os hoffech chi ddysgu mwy am sut mae’r Beibl yn rhoi gobaith, pam gallwch chi ddibynnu ar ei addewidion, a sut mae Tystion Jehofa yn cynnig cymorth o’r Beibl heddiw, gofynnwch i rywun alw draw. Mae’n rhad ac am ddim.

 Lawrlwytho’r erthygl mewn fformat hawdd ei argraffu.

a Newidiwyd yr enwau.

b Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:​18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?