Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

E+/taseffski/via Getty Images (Stock photo. Posed by model.)

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn Gwaethygu—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn Gwaethygu—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar ddydd Llun, Chwefror 13, 2023, gwnaeth y Centers for Disease Control and Prevention (CDC) yn yr Unol Daleithiau ryddhau adroddiad am iechyd meddwl y rhai sydd yn eu harddegau yn yr UDA. Dywedodd fod 40 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd yn dioddef tristwch ac anobaith parhaol.

 Dywedodd Dr. Kathleen Ethier, cyfarwyddwraig Division of Adolescent and School Health (DASH) y CDC: “Er ein bod ni wedi gweld iechyd meddwl pobl ifanc yn gwaethygu dros y 10 mlynedd diwethaf, mae iechyd meddwl merched sydd yn eu harddegau yn waeth byth. Mae llawer yn meddwl am eu lladd eu hunain, neu hyd yn oed yn ceisio gwneud hynny.”

 Dywedodd yr adroddiad:

  •   Mae mwy nag 1 ym mhob 10 o ferched yn eu harddegau (14 y cant) wedi cael eu gorfodi i gael rhyw heb iddyn nhw gytuno. “Mae hyn yn wirioneddol ddychrynllyd” meddai Dr. Ethier. “Allan o bob 10 merched ifanc rydych chi’n eu hadnabod, mae o leiaf un, efallai mwy, wedi cael eu treisio.”

  •   Mae bron 1 ym mhob 3 o ferched yn eu harddegau (30 y cant) wedi meddwl o ddifri am eu lladd eu hunain.

  •   Mae bron 3 ym mhob 5 o ferched yn eu harddegau (57 y cant) yn teimlo tristwch a digalondid parhaol.

 Mae’r ystadegau hyn yn dorcalonnus. Dylai tyfu fyny fod yn adeg lawen a hapus. Beth gall helpu pobl ifanc i ddelio â’r straen maen nhw’n ei wynebu heddiw? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Mae’r Beibl yn cynnig help ymarferol

 Mae’r Beibl yn realistig wrth ddisgrifio’r straen rydyn ni’n ei wynebu heddiw. Mae’n dweud ein bod ni’n byw mewn ’sefyllfa hynod o anodd a pheryglus.’ (2 Timotheus 3:1-5) Sut bynnag, mae’r Beibl wastad wedi rhoi cyngor sy’n helpu miliynau o bobl yn eu harddegau i ymdopi er gwaethaf yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Ystyriwch yr erthyglau canlynol sy’n seiliedig ar y Beibl.

 Help ar gyfer pobl ifanc sy’n delio â theimladau hunanladdol

 Help ar gyfer pobl ifanc sy’n delio ag iselder, tristwch, neu deimladau negyddol

 Help ar gyfer pobl ifanc sy’n delio â bwlio neu seiberfwlio

 Help ar gyfer pobl ifanc sy’n delio ag aflonyddwch ac ymosodiad rhywiol

Mae’r Beibl yn cynnig cyngor ymarferol i rieni

 Mae’r Beibl hefyd yn cynnig cymorth i rieni, fel eu bod nhw’n gallu helpu eu plant i ddelio â heriau bywyd. Ystyriwch yr erthyglau canlynol sy’n seiliedig ar y Beibl.