Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU

Beth Os Yw Fy Mhlentyn yn Cael ei Fwlio?

Beth Os Yw Fy Mhlentyn yn Cael ei Fwlio?

 Mae dy fab yn dweud ei fod yn cael ei fwlio yn yr ysgol. Beth gallwch chi ei wneud? Mynnu bod yr ysgol yn cosbi’r bwli? Dysgu dy fab i daro’n ôl? Cyn ichi benderfynu, ystyriwch rai ffeithiau am fwlio. a

 Beth dylwn i ei wybod am fwlio?

 Beth yw bwlio? Bwlio yw’r weithred o bryfocio rhywun naill ai yn gorfforol neu yn emosiynol a hynny yn barhaol ac yn fwriadol. Felly nid yw bwlio yr un peth â galw enwau neu drin rhywun yn gas.

 Pam mae’n bwysig? Mae rhai yn defnyddio’r term “bwlio” i gyfeirio at unrhyw fath o ymddygiad sy’n peri gofid, ni waeth pa mor fach. Mae rhai rhieni yn gwneud môr a mynydd o bob un peth bach sy’n digwydd, ond nid yw hynny’n helpu’r plentyn i ddysgu datrys gwrthdaro, ac mae hynny’n sgìl y bydd ei angen arno gydol ei oes.

 Egwyddor o’r Beibl: “Paid gwylltio’n rhy sydyn.”​—Pregethwr 7:9.

 Y gwir yw: Tra bod angen ymyrryd weithiau, ar adegau eraill, mae’r sefyllfa yn gallu rhoi’r cyfle i’ch plentyn feithrin gwydnwch a dysgu sut i ddatrys problemau.​—Colosiaid 3:​13.

 Ond, beth os yw eich plentyn yn dweud ei fod yn cael ei bryfocio yn barhaol ac yn fwriadol?

 Sut gallaf helpu?

  •   Byddwch yn amyneddgar wrth wrando ar eich plentyn. Ceisiwch ddarganfod (1) beth sydd yn digwydd a (2) pam mae hyn yn digwydd. Peidiwch â dod i gasgliad cyn i chi gael hyd i’r ffeithiau i gyd. Gofynnwch i’ch hunain, ‘Oes ochr arall i’r stori?’ Er mwyn cael y manylion i gyd, efallai bydd rhaid siarad ag athrawon eich plentyn, neu â rhieni y plentyn arall.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae ateb rhywun yn ôl cyn gwrando arno yn beth dwl i’w wneud, ac yn dangos diffyg parch.”​—Diarhebion 18:13.

  •  Os ydy eich plentyn yn cael ei fwlio, helpwch ef i sylweddoli bod y ffordd mae’n ymateb yn gallu gwneud pethau naill ai’n waeth neu’n well. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud: “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.” (Diarhebion 15:1) Yn wir, mae talu drwg am ddrwg yn gwneud pethau’n waeth.

     Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch talu’r pwyth yn ôl.”​—1 Pedr 3:9.

  •   Esboniwch i’ch plentyn nad arwydd o wendid yw gwrthod talu drwg am ddrwg. I’r gwrthwyneb, mae’n dangos ei fod yn gryf gan ei fod yn gwrthod cael ei reoli gan rywun arall. Mewn ffordd, mae’n curo’r bwli heb droi yn fwli ei hun.

     Mae cofio hyn yn hynod o bwysig os ydy’r plentyn yn cael ei seiberfwlio, sef ei fwlio ar-lein. Mae ymuno mewn ffrae ar-lein yn rhoi tanwydd ar y tân ac yn gadael i’r bwli barhau. Gallai hyd yn oed agor y drws i rywun gyhuddo eich plentyn chi o fod yn fwli ei hun! Oherwydd hyn, weithiau yr ymateb gorau yw peidio ag ymateb​—mae’r dacteg hon yn fwy tebygol o stopio’r bwli a helpu eich plentyn i reoli’r sefyllfa.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae tân yn diffodd os nad oes coed i’w llosgi.”​—Diarhebion 26:20.

  •   Efallai bydd eich plentyn yn gallu osgoi y bobl sydd ag enw am fwlio a’r llefydd lle mae bwlio’n digwydd. Er enghraifft, os yw’n gwybod lle mae’n debygol o ddod ar draws person neu grŵp sydd am achosi helynt, gallai ddewis llwybr gwahanol er mwyn eu hosgoi.

     Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi; ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.”​—Diarhebion 22:3.

Efallai bydd rhaid siarad ag athrawon eich plentyn neu rieni y plentyn arall

 RHOWCH GYNNIG AR HYN: Helpwch eich plentyn i feddwl am y manteision a’r anfanteision o’r opsiynau sydd ganddo. Ystyriwch beth fyddai’n digwydd os bydd yn:

  •  Anwybyddu’r bwli

  •  Dweud wrth y bwli yn hyderus am beidio

  •  Siarad â’r athrawon

  •  Ceisio diarfogi’r bwli gan ddefnyddio cyfeillgarwch neu hiwmor

 P’un a ydy’r bwlio’n wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, mae pob sefyllfa yn unigryw. Felly gweithiwch gyda’ch plentyn i ddarganfod ffordd ymarferol o ddatrys y broblem. Gadewch iddo deimlo eich cefnogaeth wrth iddo ymdopi â’r sefyllfa anodd.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi ei eni i helpu mewn helbul.”​—Diarhebion 17:17.

a Yn yr erthygl hon byddwn yn cyfeirio at fab, ond mae’r egwyddorion yn berthnasol i ferch hefyd.