Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Roi?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Roi?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn annog rhoi o’ch gwirfodd gyda rhesymau cywir. Mae’n dangos bod rhoi o’r fath o les i’r derbyniwr yn ogystal â’r rhoddwr. (Diarhebion 11:25; Luc 6:​38) Esboniodd Iesu sut i fod yn hapus drwy ddweud: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”​—Actau 20:35.

 Pa fath o roi sy’n plesio Duw?

 Mae rhoi yn gwneud lles os yw’n dod o’ch gwirfodd. Dywed y Beibl: “Dylai pob un ohonoch chi roi o’i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau arnoch chi. Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.”​—2 Corinthiaid 9:7.

 Mae Duw yn ystyried rhoi o’r galon fel rhan o grefydd bur. (Iago 1:​27) Mae person sy’n hael wrth helpu’r rhai mewn angen yn cyd-weithio â Duw, sydd yn ystyried y fath haelioni fel benthyciad iddo ef. (Diarhebion 19:17) Mae’r Beibl yn dysgu y bydd Duw ei hun yn talu’n ôl i’r rhoddwr.​—Luc 14:12-​14.

 Pa fath o roi sydd ddim yn plesio Duw?

 Os yw’n tarddu o gymhellion hunanol. Er enghraifft:

  •   Er mwyn creu argraff.​—Mathew 6:2.

  •   Er mwyn derbyn rhywbeth yn eich tro.​—Luc 14:12-14.

  •   Er mwyn ennill iachawdwriaeth.​—Salm 49:6, 7.

 Os yw’n cefnogi gweithgareddau neu arferion y mae Duw yn eu condemnio. Er enghraifft, ni ddylen ni roi arian i rywun iddyn nhw gael gamblo neu iddyn nhw gamdrin cyffuriau neu alcohol. (1 Corinthiaid 6:​9, 10; 2 Corinthiaid 7:1) Hefyd, nid yw’n gywir i roi i rywun sydd â’r gallu i gynnal ei hun yn arianol ond sy’n gwrthod gwneud.​—2 Thesaloniaid 3:​10.

 Os yw’n mynd yn erbyn cyfrifoldebau teuluol. Mae’r Beibl yn dysgu bod rhaid i benteulu ofalu am anghenion ei deulu. (1 Timotheus 5:8) Nid yw’n iawn i benteulu roi cymaint i eraill nes i’w deulu ei hun golli allan neu ddioddef. Yn debyg i hyn, condemniodd Iesu rai a oedd yn gwrthod gofalu am eu rhieni oedrannus, oherwydd eu bod nhw’n honni fod eu holl eiddo “wedi ei gyflwyno’n rhodd i Dduw.”​—Marc 7:​9-​13.