Neidio i'r cynnwys

Mae Hi’n Dyfalbarhau er Gwaethaf Trasiedi Bersonol

Mae Hi’n Dyfalbarhau er Gwaethaf Trasiedi Bersonol

 Un bore ym 1997, gwnaeth Virginia, sy’n un o Dystion Jehofa, deimlo poen ofnadwy yng nghefn ei phen. Gwnaeth ei gŵr fynd â hi yn syth i’r ysbyty, a’r noson honno gwnaeth hi syrthio i mewn i goma. Gwnaeth hi ddeffro bythefnos wedyn ar beiriant anadlu yn y ward gofal dwys. Roedd hi wedi ei pharlysu. Ac yn y dyddiau cyntaf, doedd hi ddim yn gallu cofio unrhyw beth, ddim hyd yn oed pwy oedd hi! O fewn dim, roedd ei bywyd wedi newid yn gyfan gwbl; doedd hi ddim bellach yn iach ac yn llawn egni. Hyd heddiw, mae hi’n dioddef o syndrom dan glo, sy’n golygu er ei bod hi wedi ei pharlysu, mae hi’n gallu gweld a chlywed, agor a chau ei llygaid, a symud ei phen. Ond dydy hi ddim yn gallu siarad na bwyta.

 Gadewch i Virginia dweud ei hanes. “Roedd yr atgofion yn dod yn ôl fesul tipyn. A’r mwyaf o’n i’n cofio, y mwyaf o’n i’n gweddïo. Do’n i ddim eisiau marw; roedd gen i fab ifanc. Beth fyddai’n ei wneud heb fam? Oedd rhaid imi fod yn ddewr, felly wnes i drio cofio gymaint o adnodau ag y gallwn i.

 “Ces i adael y ward gofal dwys o’r diwedd, ond ces i ddim mynd adref eto. Am y chwe mis nesaf, es i o un ysbyty i’r llall, a hyd yn oed i ganolfan adfer am gyfnod. Roedd y parlys wedi cydio’n dynn, a doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw beth drosto i fy hun. O’n i mor ddigalon am fy mod i’n teimlo’n dda i ddim i eraill, ac i Jehofa. Ar ben hynny, o’n i dal yn poeni am fy mod i ddim yn gallu gofalu am fy mab.

 “Wnes i ddechrau darllen profiadau Tystion eraill oedd yn yr un sefyllfa â fi. O’n i’n rhyfeddu gymaint oedden nhw’n gallu gwneud i Jehofa. Felly wnes i drio meithrin agwedd bositif a chanolbwyntio ar beth o’n i’n gallu ei wneud. Doedd gen i ddim llawer o amser i bethau ysbrydol gynt, ond rŵan, oedd gen i drwy’r dydd, bob dydd. Felly, yn hytrach na suddo o dan y don, wnes i ganolbwyntio ar wasanaethu Jehofa.

 “Er mwyn gwneud hynny, wnes i ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Mae’r dechnoleg yn wych, oherwydd oll dw i’n gorfod wneud er mwyn teipio ydy symud fy mhen. A dyna sut dw i’n gallu astudio’r Beibl ac ysgrifennu llythyrau ac e-byst. Mae’n cymryd lot o egni, ond mae’n werth o am fy mod i’n gallu rhannu fy ngobaith ag eraill. Ond pan dw i’n siarad wyneb yn wyneb â phobl, ‘dyn ni’n defnyddio cerdyn efo’r wyddor arno. Mae’r person arall yn pwyntio at lythrennau fesul un. Pan maen nhw’n pwyntio at y llythyren anghywir, dw i’n agor fy llygaid yn fawr. Pan maen nhw’n pwyntio at yr un cywir, dw i’n cau fy llygaid. ‘Dyn ni’n ailadrodd y broses honno er mwyn creu geiriau neu frawddegau. Mae rhai o’r chwiorydd sydd yma’n aml, yn gyfarwydd iawn â’r system hon bellach, ac yn gallu dyfalu beth dw i am ddweud. Weithiau maen nhw’n dyfalu’r gair anghywir, ond pan fydd hynny’n digwydd ‘dyn ni’n gweld yr ochr ddoniol!

Cyfathrebu gan ddefnyddio cerdyn â’r wyddor arno

 “Dw i wrth fy modd yn treulio amser â fy mrodyr a chwiorydd. A gan fy mod i’n gallu gwrando ar y cyfarfodydd dros fideo-gynadledda, a hyd yn oed cyfrannu drwy deipio fy atebion a gofyn i rywun eu darllen nhw allan, dw i’n teimlo fel rhan o’r gynulleidfa. Dw i hefyd yn edrych ymlaen bob mis at wylio rhaglenni JW Broadcasting efo grŵp bach o Dystion. a

 “Ar ôl ymdopi â syndrom dan glo am 23 mlynedd, alla i ddim peidio â digalonni bob hyn a hyn. Ond pan dw i’n teimlo’n drist, dw i’n cael y nerth i ddal ati drwy weddïo, drwy dreulio amser efo fy nheulu ysbrydol, a thrwy gadw’n brysur yng ngwasanaeth Jehofa. Dw i hefyd yn trio fy ngorau glas i fod yn esiampl dda ar gyfer fy mab, Alessandro. Gyda help y gynulleidfa, dw i wedi bod yn arloesi’n gynorthwyol am dros chwe mlynedd. O’n i’n arfer poeni’n arw am fy mab, ond bellach mae’n gwasanaethu fel henuriad, ac mae ef a’i wraig yn arloesi’n llawn amser.

 “Dw i’n aml yn meddwl am sut bydd fy mywyd yn y baradwys. Mae ’na gymaint o bethau dw i eisiau eu gwneud. Yn gyntaf, dw i eisiau siarad am Jehofa â’n llais fy hun. Dw i eisiau cerdded drwy gefn gwlad, ac ar hyd afonydd, dim ond er mwyn gweld yr holl hyfrydwch. Ac wrth gwrs, gan fy mod i’n Eidales, mae bwyd yn chwarae rhan fawr yn fy mywyd i. Ond am yr ugain mlynedd diwethaf, dw i ond wedi cael bwyd drwy diwb. Felly dw i’n ysu am bigo afal o’r goeden a brathu i mewn iddo, neu i baratoi a bwyta fy hoff fwydydd, gan gynnwys pitsa!

 “Dw i’n hollol sicr bod y byd newydd bron yma, ac mae dychmygu’r pethau hyfryd sydd i ddod yn rhoi llawenydd go iawn imi. Felly, er fy mod i’n dioddef yn y system hon, mae’r ‘gobaith sicr y cawn ein hachub’ yn amddiffyn fy meddwl. (1 Thesaloniaid 5:8) A dw i’n dal yn dynn ar addewid Jehofa am ‘fywyd go iawn’ o dan ei Deyrnas.”—1 Timotheus 6:19; Mathew 6:9, 10.

a Cewch hyd i adran JW Broadcasting ar jw.org.