Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Dydy Trais Ddim yn Feistr Arna i Bellach”

“Dydy Trais Ddim yn Feistr Arna i Bellach”
  • Ganwyd: 1956

  • Gwlad Enedigol: Canada

  • Hanes: Wedi ei siomi, llac ei foesau, a threisgar

FY NGHEFNDIR

 Ces i fy ngeni yn ninas Calgary yn Alberta, Canada. Pan o’n i’n blentyn bach, gwnaeth fy rhieni ysgaru, a gwnes i a fy mam symud i dŷ Nain a Taid. Oedden nhw’n caru Mam a minnau, ac o’n i’n blentyn hapus iawn. Hyd heddiw, mae gen i atgofion melys iawn o’r blynyddoedd heddychlon hynny.

 Pan o’n i’n saith, newidiodd fy mywyd er gwaeth pan wnaeth fy mam ailbriodi fy nhad, a gwnaethon ni symud i St. Louis, Missouri, yn yr Unol Daleithiau. Yn fuan iawn, wnes i ddarganfod y gallai fy nhad fod yn reit greulon. Er enghraifft, pan ddes i adref ar ôl fy niwrnod cyntaf yn fy ysgol newydd, cafodd o wybod fy mod i wedi cael fy mwlio a fy mod i heb gwffio’n ôl. Oedd o’n gandryll, a wnaeth o daro fi’n galetach na wnaeth y plant yn yr ysgol! Dysgais o hynny, a dechrau cwffio yn erbyn plant eraill pan o’n i ond yn saith oed.

 Trodd fy mam yn chwerw oherwydd tymer drwg fy nhad, a bydden nhw’n aml yn creu twrw mawr wrth ffraeo. Wnes i ddechrau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol pan o’n i’n 11 mlwydd oed. Des i’n fwy ac yn fwy ymosodol, a byddwn i’n aml yn cwffio ar y stryd. Erbyn imi raddio o’r ysgol uwchradd, oedd fy ffyrdd treisgar wedi fy newid i’n llwyr.

 Pan o’n i’n 18 oed, wnes i ymuno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau. Yno, wnes i ddysgu sut i ladd pobl. Ar ôl pum mlynedd, wnes i adael y fyddin i astudio seicoleg yn y gobaith o gael swydd gyda’r Biwro Ymchwilio Ffederal (FBI). Wnes i ddechrau fy addysg prifysgol yn yr Unol Daleithiau, ac yna parhau yng Nghanada ar ôl imi symud yn ôl yno.

 Tra o’n i yn y brifysgol, wnes i golli ffydd yn llwyr yn y ddynoliaeth. Roedd pobl i weld mor hunanol, roedd popeth yn y byd yn ymddangos yn wag, a doedd dim ateb i weld i broblemau’r ddynoliaeth. Wnes i roi’r gorau i obeithio y gallai pobl wneud y byd yn lle gwell.

 Oherwydd nad oedd gen i bwrpas yn fy mywyd, dechreuais ganolbwyntio ar alcohol, cyffuriau, arian, a rhyw. O’n i’n mynd o un parti i’r llall ac o un ddynes i’r nesaf. Gan deimlo’n rêl boi oherwydd fy hyfforddiant milwrol, o’n i’n cwffio’n aml. Oedd gen i fy syniad fy hun o beth oedd yn gyfiawn, a byddwn i’n herio unrhyw un o’n i’n meddwl oedd yn trin eraill yn annheg. Ond mewn gwirionedd, o’n i’n gadael i drais fy rheoli’n fwy byth.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Un diwrnod, pan o’n i a ffrind yn high ar gyffuriau yn seler y tŷ, oedden ni’n paratoi mariwana yn barod i’w werthu’n anghyfreithlon, a dyma fy ffrind yn gofyn imi a o’n i’n credu yn Nuw. Fy ateb oedd, “Os mai Duw sy’n gyfrifol am y dioddefaint yn y byd, dw i ddim eisiau dim i’w wneud efo fo!” Y diwrnod wedyn, y cyntaf yn fy swydd newydd, gofynnodd cyd-weithiwr a oedd yn un o Dystion Jehofa, “Wyt ti’n meddwl mai Duw sydd ar fai am y dioddefaint yn y byd?” Ces i fy synnu gan amseru ei gwestiwn, ac o’n i eisiau gwybod mwy. Dros y chwe mis nesaf, cawson ni lawer o sgyrsiau, a wnaeth o ddangos atebion o’r Beibl i rai o fy nghwestiynau mwyaf anodd am fywyd.

 Doedd fy nyweddi, oedd yn byw gyda mi ar y pryd, ddim eisiau imi sôn am yr hyn o’n i’n ei ddysgu. Un dydd Sul, wnes i ddweud wrthi fy mod i wedi gwahodd y Tystion i’n tŷ i astudio’r Beibl gyda ni. Y diwrnod wedyn, des i yn ôl o’r gwaith i weld ei bod hi wedi cymryd popeth o’r tŷ a fy ngadael i. Es i tu allan a chrio. Wnes i hefyd weddïo ar Dduw ac erfyn arno am help. Dyna oedd y tro cyntaf imi ddefnyddio enw personol Duw, Jehofa, mewn gweddi.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

 Ddeuddydd wedyn, ces i fy astudiaeth Feiblaidd gyntaf gyda’r Tystion, cwpl priod. Ar ôl iddyn nhw adael, wnes i barhau i ddarllen y llyfr You Can Live Forever in Paradise on Earth, a’i orffen y noson honno. a Gwnaeth yr hyn a ddysgais am Jehofa Dduw a’i Fab, Iesu Grist, gyrraedd fy nghalon. Gwelais fod Jehofa yn dosturiol, a’i fod yn ei frifo i’n gweld ni’n dioddef. (Eseia 63:9) Yn fwy na dim, ces i fy nghyffwrdd gan gariad Duw tuag ata i a gan yr aberth a wnaeth ei Fab drosto i. (1 Ioan 4:10) Des i i’r casgliad fod Jehofa wedi bod yn amyneddgar â mi oherwydd “does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd.” (2 Pedr 3:9) O’n i’n teimlo bod Jehofa eisiau imi fod yn ffrind iddo.—Ioan 6:44.

 Wnes i ddechrau mynd i gyfarfodydd y gynulleidfa yr wythnos honno. Oedd gen i wallt hir a chlustlysau, a dweud y gwir o’n i’n edrych braidd yn frawychus, ond wnaeth y Tystion fy nhrin i fel aelod o’r teulu oedden nhw heb ei weld erstalwm. Oedden nhw’n ymddwyn fel gwir Gristnogion. O’n i’n teimlo fel petaswn i’n ôl adref gyda Nain a Taid, ond mewn awyrgylch mwy hyfryd byth.

 Yn fuan, dechreuodd y pethau o’n i’n eu dysgu o’r Beibl newid fy mywyd. Wnes i dorri fy ngwallt, stopio gwneud unrhyw beth sy’n anfoesol yn rhywiol, a stopio camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. (1 Corinthiaid 6:9, 10; 11:14) O’n i eisiau plesio Jehofa. Felly pan fyddwn i’n dysgu bod rhywbeth o’n i’n ei wneud yn mynd yn groes i’w safonau, fyddwn i byth yn esgusodi fy ymddygiad drwg. Yn hytrach, roedd fel cyllell i ’nghalon. Byddwn i’n dweud wrtho fi fy hun, ‘alla i ddim ymddwyn fel hyn ddim mwy.’ A heb oedi, byddwn i’n trio newid fy ffordd o feddwl ac ymddwyn. O ganlyniad, doedd hi ddim yn hir nes imi ddechrau teimlo’r buddion o wneud pethau ffordd Jehofa. Ar Orffennaf 29, 1989—chwe mis ar ôl fy astudiaeth Feiblaidd gyntaf—ces i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

FY MENDITHION

 Mae’r Beibl wedi helpu i drawsnewid fy mhersonoliaeth. Yn y gorffennol, byddwn i’n ymateb mewn ffordd dreisgar pan fyddai rhywun yn fy herio. Ond nawr dw i’n gweithio’n galed “i fyw mewn heddwch gyda phawb.” (Rhufeiniaid 12:18) Fedra i ddim cymryd y clod am hyn, ond dw i’n diolch i Jehofa am y grym sydd yn ei Air a’i ysbryd glân i drawsffurfio.—Galatiaid 5:22, 23; Hebreaid 4:12.

 Yn hytrach na bod yn gaeth i gyffuriau, trais, a chwantau anfoesol, dw i bellach yn ymdrechu i blesio Jehofa Dduw ac i roi fy ngorau iddo. Mae hynny’n cynnwys helpu eraill i ddod i’w adnabod. Ychydig o flynyddoedd ar ôl imi gael fy medyddio, wnes i symud i wlad arall i bregethu lle’r oedd yr angen yn fwy. Dros y blynyddoedd, dw i wedi cael y llawenydd o ddysgu llawer o bobl, ac o weld sut mae’r Beibl wedi gwella eu bywydau nhwthau hefyd. Dw i hefyd wrth fy modd fod fy mam wedi dod yn un o Dystion Jehofa—yn rhannol oherwydd y newidiadau positif a welodd hi yn fy agwedd a fy ymddygiad i.

 Ym 1999, yn El Salfador, wnes i raddio o beth sy’n cael ei alw erbyn hyn yn Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas. Gwnaeth yr ysgol honno fy hyfforddi a fy mharatoi ar gyfer cymryd y blaen yn y gwaith pregethu ac i ddysgu a bugeilio yn y gynulleidfa. Yn hwyrach ymlaen y flwyddyn honno, wnes i briodi fy ngwraig annwyl, Eugenia. Rydyn ni’n gwasanaethu gyda’n gilydd fel arloeswyr llawn-amser yn Gwatemala.

 Bellach, yn hytrach na chael fy siomi gan fywyd, dw i’n hapus dros ben. Mae rhoi dysgeidiaethau’r Beibl ar waith wedi fy rhyddhau rhag anfoesoldeb rhywiol a thrais ac wedi rhoi bywyd llawn gwir gariad a heddwch imi.

a Erbyn hyn, mae Tystion Jehofa yn aml yn defnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!