Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Cawson Nhw Hyd i’r “Perl Arbennig o Werthfawr”

Cawson Nhw Hyd i’r “Perl Arbennig o Werthfawr”

 Dysgodd Iesu y bydd Teyrnas Dduw yn datrys problemau dynolryw i gyd. (Mathew 6:10) Yn Mathew 13:44-46, rhoddodd ddwy eglureb i ddangos pa mor werthfawr yw’r gwir am Deyrnas Dduw:

  •   Roedd dyn yn gweithio mewn cae ac yn gwbl annisgwyl daeth ar draws trysor cuddiedig.

  •   Daeth masnachwr teithiol oedd yn chwilio am berlau gwych ar draws perl gwerthfawr iawn.

 Roedd y ddau ddyn yn fodlon gwerthu’r cwbl oedd ganddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu bod yn berchennog ar y trysor. Mae’r dynion hyn yn cynrychioli pobl sy’n gwerthfawrogi’r Deyrnas gymaint eu bod nhw’n gwneud aberthau mawr er mwyn cael ei bendithion. (Luc 18:29, 30) Yn y fideo hwn, cewch weld stori dau unigolyn sydd yn debyg i’r dynion yn namhegion Iesu.