Neidio i'r cynnwys

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Galw eu Man Cyfarfod yn Eglwys?

Pam Nad Yw Tystion Jehofa yn Galw eu Man Cyfarfod yn Eglwys?

 Yn y Beibl, mae’r term Groeg a gyfieithir “eglwys” yn cyfeirio at grŵp o addolwyr, nid at yr adeilad y maen nhw’n cyfarfod ynddo.

 Nodwch yr esiampl hon: Pan ysgrifennodd yr apostol Paul at y Cristnogion yn Rhufain, anfonodd ei gyfarchion at Acwila a Priscila gan ychwanegu: “Fy nghyfarchion hefyd i’r eglwys sy’n ymgynnull yn eu tŷ.” (Rhufeiniaid 16:5) Doedd Paul ddim yn anfon ei gyfarchion at adeilad. Yn hytrach, cofio at bobl oedd ei fwriad​—y gynulleidfa oedd yn cwrdd yn y tŷ hwnnw. a

 Felly yn lle galw ein man addoli yn eglwys, defnyddiwn y term “Neuadd y Deyrnas.”

Pam “Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa”?

 Mae’r term yn briodol am nifer o resymau:

  •   Neuadd yw’r adeilad, rhywle i ymgynnull.

  •   Rydyn ni’n dod at ein gilydd i addoli Jehofa, Duw’r Beibl, ac i dystiolaethu amdano.​—Salm 83:18; Eseia 43:12.

  •   Rydyn ni’n cyfarfod i ddysgu am Deyrnas Dduw, teyrnas y siaradodd Iesu yn aml amdani.​—Mathew 6:9, 10; 24:14; Luc 4:43.

 Mae croeso cynnes i chi ymweld â Neuadd y Deyrnas yn eich ardal chi, er mwyn gweld sut mae Tystion Jehofa yn cynnal eu cyfarfodydd.