Neidio i'r cynnwys

Ai Chwalu Teuluoedd y Mae Tystion Jehofa, Neu eu Cynorthwyo a’u Cryfhau?

Ai Chwalu Teuluoedd y Mae Tystion Jehofa, Neu eu Cynorthwyo a’u Cryfhau?

 Rydyn ni, Tystion Jehofa, yn gweithio i atgyfnerthu teuluoedd ein hunain, a rhai ein cymdogion. Mae gennyn ni barch at Dduw fel Lluniwr y teulu. (Genesis 2:​21-​24; Effesiaid 3:​14, 15) Trwy’r Beibl mae ef yn dysgu egwyddorion sydd wedi helpu pobl ledled y byd i gael priodasau sydd yn gryf ac yn hapus.

Dyma Sut Mae Tystion Jehofa yn Hyrwyddo Teuluoedd Sydd yn Gryf

 Rydyn ni’n gwneud ein gorau i ddilyn cyngor y Beibl oherwydd mae’n ein helpu ni i fod yn well gwŷr, yn well gwragedd, ac yn well rhieni. (Diarhebion 31:10-​31; Effesiaid 5:22–​6:4; 1 Timotheus 5:8) Mae hyd yn oed teuluoedd sydd yn gymysg o ran crefydd yn llwyddo o gymhwyso doethineb y Beibl. (1 Pedr 3:​1, 2) Ystyriwch sylwadau rhai nad ydyn nhw’n Dystion, a’u profiadau o weld cymar yn dod yn un o Dystion Jehofa:

  •   “Chwe blynedd lawn cweryla a rhwystredigaeth cawson ni gyda’n gilydd yn gyntaf. Ond wedi iddi ddod yn un o Dystion Jehofa, daeth Ivete yn fwy cariadus ac yn fwy amyneddgar. Newidiadau y gwnaeth hi sydd wedi achub ein priodas.”​—Clauir, o Frasil.

  •   “Pan ddechreuodd fy ngŵr Chansa astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa wnes i ei wrthwynebu, oherwydd roeddwn i’n credu mai chwalu teuluoedd oedden nhw. Ers hynny, rydw i wedi dod i ddeall bod y Beibl, mewn gwirionedd, wedi helpu ein priodas.”​—Agness, o Sambia.

 Yn ein gweinidogaeth rydyn ni’n dangos i’n cymdogion sut i roi doethineb Beiblaidd ar waith, fel y gallan nhw

Ydy newid crefydd yn achosi ffraeon mewn priodas?

 Rhaid cyfaddef, ar adegau y mae. Cymerwch fel enghraifft un adroddiad o 1998 gan y cwmni ymchwil Sofres. Fe ddarganfyddon nhw fod trafferthion difrifol yn bod mewn 1 allan o 20 o briodasau lle roedd un cymar yn Dyst a hwnnw wedi newid ei grefydd.

 Rhagfynegodd Iesu y byddai adegau o strach yn y teulu i’w ddilynwyr triw. (Mathew 10:32-​36) Nododd yr hanesydd Will Durant am agwedd yr Ymerodraeth Rufeinig, “Cyhuddwyd y grefydd Gristnogol o chwalu’r cartref,” a a dyna yw’r cyhuddiad yn erbyn rhai o Dystion Jehofa heddiw. Felly, ydy hyn yn golygu mae’r Tyst sydd yn achosi’r anghydfod?

Llys Hawliau Dynol Ewrop

 Yn dyfarnu ar y cyhuddiad bod Tystion Jehofa yn chwalu teuluoedd, medd Llys Hawliau Dynol Ewrop am aelodau o’r teulu nad ydyn nhw’n Dystion, eu bod nhw yn aml yn achosi cynnen am iddyn nhw “wrthod derbyn na pharchu rhyddid crefyddol eu perthynas i fynegi ac i ymarfer ei grefydd ef neu hi.” Ychwanegodd y Llys: “Y mae’r sefyllfa hon yn gyffredin i bob priodas gymysg ac nid yw Tystion Jehofa yn eithriadau.” b Hyd yn oed lle maen nhw’n wynebu rhai sy’n gwrthod eu hawl i ddilyn crefydd wahanol, mae Tystion Jehofa yn ymdrechu i ddilyn cyngor y Beibl: “Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. . . . Os yw’n bosibl, ac os yw’n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb.”​—Rhufeiniaid 12:17, 18.

Pam bod Tystion Jehofa yn credu y dylen nhw briodi o fewn eu crefydd yn unig?

 Mae’r Tystion yn dilyn cyfarwyddyd y Beibl i briodi “yn yr Arglwydd,” sef i briodi person sy’n rhannu’r un ffydd. (1 Corinthiaid 7:​39) Mae’n orchymyn o’r Beibl sydd hefyd yn ymarferol. Er enghraifft, medd erthygl o 2010 yn y Journal of Marriage and Family fod “cyplau sydd yn rhannu’r un daliadau, credoau, ac ymarferion crefyddol” yn dueddol o fwynhau perthnasau o ansawdd well. c

 Ond nid yw’r Tystion yn annog y rhai sy’n perthyn i’w crefydd i wahanu oddi wrth briod nad yw’n Dyst. Medd y Beibl: “Os bydd gan Gristion wraig ddi-gred, a hithau’n cytuno i fyw gydag ef, ni ddylai ei hysgaru. Ac os bydd gan wraig ŵr di-gred, ac yntau’n cytuno i fyw gyda hi, ni ddylai ysgaru ei gŵr.” (1 Corinthiaid 7:​12, 13) Mae Tystion Jehofa yn cadw’r gorchymyn hwn.

a Gweler Caesar and Christ, tudalen 647.

b Gweler y dyfarniad a roddwyd yn yr achos Jehovah’s Witnesses of Moscow and Others v. Russia, tudalennau 26-​27, paragraff 111.

c Gweler Journal of Marriage and Family, Cyfrol 72, Rhif 4, (Awst 2010), tudalen 963.