Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Sect neu Enwad Americanaidd?

Ydy Tystion Jehofa yn Sect neu Enwad Americanaidd?

 Mae ein pencadlys wedi ei sefydlu yn yr Unol Daleithiau. Ond, dydyn ni ddim yn sect neu enwad Americanaidd am y rhesymau canlynol:

  •   Mae rhai yn diffinio sect fel grŵp sydd wedi torri o grefydd sefydledig. Dydy Tystion Jehofa ddim wedi torri allan o unrhyw grefydd. Yn lle hynny, teimlwn ein bod ni wedi ail-sefydlu’r ffurf o Gristnogaeth a gafodd ei hymarfer yn y ganrif gyntaf.

  •   Mae Tystion Jehofa yn weithgar yn eu gweinidogaeth mewn mwy na 230 o wledydd. Lle bynnag rydyn ni’n byw, Jehofa Dduw a Iesu Grist sy’n dod yn gyntaf yn ein bywydau, nid llywodraeth Americanaidd nac unrhyw lywodraeth arall.—Ioan 15:19; 17:15, 16.

  •   Sylfaen ein holl ddysgeidiaethau yw’r Beibl, nid gwaith rhyw arweinydd crefyddol yn yr Unol Daleithiau.​—1 Thesaloniaid 2:13.

  •   Rydyn ni’n dilyn Iesu Grist, nid unrhyw arweinydd dynol.​—Mathew 23:8-10.