Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Greadyddion?

Ydy Tystion Jehofa yn Greadyddion?

 Nac ydyn. Mae Tystion Jehofa yn credu mai Duw a greodd bopeth. Ond, dydyn ni ddim yn credu yng nghreadaeth. Pam ddim? Oherwydd bod nifer o syniadau’r Creadyddion yn mynd yn groes i’r hyn y mae’r Beibl yn ei ddysgu. Ystyriwch y ddwy enghraifft ganlynol:

  1.   Maint y chwe diwrnod o greadigaeth. Mae rhai creadyddion yn honni y cafodd y greadigaeth ei chreu mewn chwe diwrnod llythrennol 24 awr. Ond gall y gair “dydd” gyfeirio at amser hirach o lawer.​—Genesis 2:4; Salm 90:4.

  2.   Oedran y ddaear. Mae rhai creadyddion yn dysgu bod y ddaear wedi ei chreu ond ychydig o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Ond, yn ôl y Beibl, cafodd y ddaear a’r bydysawd eu creu cyn y chwe diwrnod o greadigaeth. (Genesis 1:1) Am y rheswm hwnnw, nid yw Tystion Jehofa yn gwrthod tystiolaeth wyddonol sy’n awgrymu gall y ddaear fod yn filiynau o flynyddoedd oed.

 Er bod Tystion Jehofa yn credu mewn creadigaeth, nid ydyn ni’n gwrthod gwyddoniaeth. Rydyn ni’n credu bod gwyddoniaeth gywir a’r Beibl yn cyd-fynd.