Neidio i'r cynnwys

Pryd Dechreuodd Duw Greu’r Bydysawd?

Pryd Dechreuodd Duw Greu’r Bydysawd?

Ateb y Beibl

 Nid yw’r Beibl yn dweud pryd dechreuodd Duw greu’r bydysawd, na faint o amser a gymerodd. Y cyfan mae’n ei ddweud yw: “Ar y dechrau cyntaf, dyma Duw yn creu y bydysawd a’r ddaear.” (Genesis 1:1) Nid yw’r Beibl yn dweud pryd yn union oedd y “dechrau cyntaf” hwn. Sut bynnag, yn ôl trefn y digwyddiadau a restrir yn Genesis, fe ddigwyddodd cyn chwe chyfnod neu chwe “diwrnod” y creu.

 Ai diwrnodau 24 awr oedd chwe diwrnod y creu?

 Nage. Yn y Beibl mae’r gair “diwrnod” a “dydd” yn gallu cyfeirio at wahanol gyfnodau, gan ddibynnu ar y cyd-destun. Er enghraifft, mae un rhan o’r hanes yn cyfeirio at gyfnod cyfan y creu fel un dydd.—Genesis 2:4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

 Beth ddigwyddodd yn ystod chwe diwrnod y creu?

 Trawsnewidiodd Duw y ddaear o fod yn “anhrefn gwag” i fod yn blaned oedd yn addas ar gyfer bywyd. (Genesis 1:2) Wedyn creodd fywyd ar y ddaear. Mae’r Beibl yn disgrifio chwe grŵp o bethau a ddigwyddodd yn ystod dyddiau neu gyfnodau’r creu.

  •  Diwrnod 1: Gwnaeth Duw i oleuni gyrraedd wyneb y ddaear fel bod y gwahaniaeth rhwng dydd a nos yn amlwg.—Genesis 1:3-5.

  •  Diwrnod 2: Lluniodd Duw ffurfafen neu ‘gromen o aer’ rhwng y dŵr ar y ddaear a’r dŵr yn yr atmosffer uwchben wyneb y ddaear.—Genesis 1:6-8.

  •  Diwrnod 3: Gwnaeth Duw i dir sych ymddangos. Creodd y planhigion hefyd.—Genesis 1:9-13.

  •  Diwrnod 4: Gwnaeth Duw i’r haul, y lleuad a’r sêr ddod yn weladwy o wyneb y ddaear.—Genesis 1:14-19.

  •  Diwrnod 5: Creodd Duw anifeiliaid sy’n byw yn y dŵr ac anifeiliaid sy’n hedfan.—Genesis 1:20-23.

  •  Diwrnod 6: Creodd Duw anifeiliaid tir a bodau dynol.—Genesis 1:24-31.

 Ar ôl y chweched diwrnod, gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith creadigol.—Genesis 2:1, 2.

 A yw’r hanes yn Genesis yn wyddonol gywir?

 Nid yw hanes y creu yn y Beibl yn honni ei fod yn esboniad gwyddonol manwl. Yn hytrach, mae’n disgrifio’r creu mewn ffordd sy’n gwneud trefn sylfaenol y digwyddiadau yn ddealladwy, hyd yn oed i bobl yn amser y Beibl. Nid yw hanes y creu yn anghytuno â’r ffeithiau gwyddonol. Ysgrifenna’r astroffisegydd Robert Jastrow: “Mae’r manylion yn wahanol, ond yn ei hanfod mae seryddiaeth a Genesis yn dweud yr un hanes; fe wnaeth y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at fodolaeth dyn ddechrau’n sydyn ac yn bendant ar un adeg benodol.”

 Pryd crëwyd yr haul, y lleuad a’r sêr?

 Roedd yr haul, y lleuad a’r sêr eisoes yn rhan o’r “bydysawd” a grëwyd “ar y dechrau cyntaf.” (Genesis 1:1) Sut bynnag, mae’n ymddangos nad oedd y goleuni yn treiddio i wyneb y ddaear gan fod yr atmosffer mor drwchus. (Genesis 1:2) Felly er bod golau gwasgarog i’w weld ar y diwrnod cyntaf, nid oedd modd adnabod ei darddiad. Ar y pedwerydd diwrnod, ymddengys fod yr atmosffer wedi clirio. Drwy ddweud bod yr haul, y lleuad a’r sêr bellach yn ‘goleuo’r ddaear,’ mae’r Beibl yn disgrifio’r olygfa o safbwynt rhywun sy’n sefyll ar y ddaear.—Genesis 1:17.

 Beth yw oedran y ddaear, yn ôl y Beibl?

 Nid yw’r Beibl yn dweud beth yw oedran y ddaear. Datganiad syml Genesis 1:1 yw bod dechreuad i’r bydysawd, gan gynnwys y ddaear. Nid yw hyn yn anghytuno ag egwyddorion gwyddonol nac amcangyfrifon gwyddonwyr ynglŷn ag oedran y ddaear.