Neidio i'r cynnwys

MEDI 13, 2023
MECSICO

Rhyddhau Pedwar Llyfr Cyntaf Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Isel Almaeneg

Rhyddhau Pedwar Llyfr Cyntaf Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol yn Isel Almaeneg

Ar 25 Awst, 2023, cafodd pedwar llyfr cyntaf Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol eu rhyddhau yn Isel Almaeneg gan y Brawd Robert Batko, sydd yn aelod o Bwyllgor y Gangen Canolbarth America. Cafodd y cyhoeddiad groeso cynnes gan y 355 o bobl oedd yn bresennol ar ddiwrnod cyntaf y Gynhadledd Ranbarthol a gynhaliwyd yn yr iaith Isel Almaeneg, yn Cuauhtémoc, Chihuahua, Mecsico. Roedd y pedair Efengyl ar gael yn syth mewn fformat digidol a fformat sain. Ar ben hynny, cafodd copïau printiedig o Y Beibl—Y Newyddion Da yn ôl Mathew eu dosbarthu. Bydd y tair Efengyl arall ar gael mewn print pan gaiff Cyfieithiad y Byd Newydd o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol ei ryddhau yn ei gyfanrwydd yn Isel Almaeneg. Mae’r Isel Almaeneg yn cael ei siarad mewn ardaloedd ledled Gogledd a De America, gyda nifer mawr o siaradwyr ym Mecsico.

Y swyddfa gyfieithu ar gyfer Isel Almaeneg yn Cuauhtémoc, Chihuahua, Mecsico

Mae manteision y cyfieithiad newydd hwn eisoes yn amlwg. Dywedodd un brawd: “Does dim dyfynodau o gwbl yn y Beibl rydyn ni’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd, felly mae’n anodd iawn gwybod pwy sy’n siarad ac â phwy. Mae deall y cyfieithiad hwn yn haws o lawer.”

Rydyn ni’n llawenhau gyda’n brodyr a chwiorydd sy’n siarad Isel Almaeneg, ac rydyn ni’n hyderus y bydd y cyfieithiad newydd yn helpu llawer o bobl eraill i gael “gwybodaeth gywir am y gwir.”—1 Timotheus 2:3, 4.