Neidio i'r cynnwys

Oes Gan Dystion Jehofa Gyfieithiad eu Hunain o’r Beibl?

Oes Gan Dystion Jehofa Gyfieithiad eu Hunain o’r Beibl?

 Wrth astudio’r Beibl, mae Tystion Jehofa wedi defnyddio nifer o wahanol gyfieithiadau o’r Beibl. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o gael y New World Translation of the Holy Scriptures mewn nifer o ieithoedd oherwydd ei fod yn defnyddio enw Duw, mae’n fanwl gywir, ac mae’n eglur.

  •   Defnyddio Enw Duw. Mae rhai sydd wedi cyfieithu’r Beibl wedi methu rhoi clod i’r Awdur. Er enghraifft, mae un cyfieithiad o’r Beibl yn enwi dros 70 o bobl a oedd wedi cyfrannu rywfaint at y prosiect hwnnw. Ond mae’r Beibl hwnnw yn hepgor enw’r Awdur​—Jehofa Dduw​—yn gyfan gwbl!

     Ar y llaw arall, mae’r New World Translation yn adfer yr enw dwyfol filoedd o weithiau yn y mannau y mae’n ymddangos yn y testun gwreiddiol, ond mae enwau’r cyfieithwyr yn aros yn anhysbys.

  •   Yn Gywir. Nid yw pob cyfieithiad y Beibl yn trosglwyddo’r neges wreiddiol. Er enghraifft, yn Mathew 27:​40, mae un cyfieithiad yn darllen: “Tyrd i lawr o’r groes yna, os mai ti ydy Mab Duw go iawn!” Yn lle dweud “croes,” mae’r testun gwreiddiol yn defnyddio term sy’n golygu “stanc” neu “bren.” Efallai fod y cyfieithwyr wedi defnyddio’r gair “croes” oherwydd eu bod yn credu bod Iesu wedi marw ar groes. Ond dydy’r Beibl ddim yn cefnogi’r syniad hwnnw. Felly, mae’r New World Translation yn gywir wrth ddweud: “Os mab Duw wyt ti, tyrd i lawr o’r pren artaith!”

  •   Yn Eglur. Yn ogystal â bod yn gywir, dylai cyfieithiad da fod yn eglur ac yn hawdd ei ddeall. Ystyriwch enghraifft. Yn Mathew 5:3, defnyddiodd Iesu ymadrodd sy’n golygu’n llythrennol “y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd.” Gan ei fod yn anodd ei ddeall, mae’r New World Translation yn trosi’r ymadrodd mewn ffordd haws. Mae’n dweud “y rhai sy’n ymwybodol o’u hangen ysbrydol.”

 Felly, mae’r New World Translation yn defnyddio enw Duw, ac mae’n gywir ac yn eglur. Hefyd, mae’n rhagori mewn ffordd arall​—y mae ar gael am ddim! O ganlyniad, mae miliynau o bobl yn gallu darllen y Beibl yn eu mamiaith, hyd yn oed pobl dlawd.