Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 5

Sut Fath o Brofiad Yw Mynd i Gyfarfod Cristnogol?

Sut Fath o Brofiad Yw Mynd i Gyfarfod Cristnogol?

Yr Ariannin

Sierra Leone

Gwlad Belg

Maleisia

Mae llawer wedi rhoi’r gorau i fynychu gwasanaethau crefyddol oherwydd nad ydyn nhw’n cael cysur nac arweiniad. Pam, felly, y dylech chi fynychu cyfarfodydd Cristnogol sydd wedi eu trefnu gan Dystion Jehofa? Beth gallwch chi ei ddisgwyl?

Cwmni pobl gariadus. Fe wnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf ffurfio cynulleidfaoedd a chynnal cyfarfodydd er mwyn addoli Duw, astudio’r Ysgrythurau, ac annog ei gilydd. (Hebreaid 10:24, 25) Oherwydd awyrgylch cynnes eu cyfarfodydd, roedden nhw’n teimlo’n hapus ymhlith gwir ffrindiau—eu brodyr ysbrydol. (2 Thesaloniaid 1:3; 3 Ioan 14) Rydyn ni’n dilyn yr un patrwm, ac yn teimlo’r un llawenydd.

Dysgu rhoi egwyddorion y Beibl ar waith. Fel yr oedd yn digwydd yn adeg y Beibl, mae dynion, merched, a phlant i gyd yn cyfarfod gyda’i gilydd. Mae athrawon cymwys yn defnyddio’r Beibl i’n helpu ni i ddeall sut gallwn ni roi egwyddorion y Beibl ar waith yn ein bywydau bob dydd. (Deuteronomium 31:12; Nehemeia 8:8) Gall pawb fynegi eu gobaith Cristnogol drwy gymryd rhan yn y trafodaethau a’r canu.—Hebreaid 10:23.

Cryfhau eich ffydd yn Nuw. Dywedodd yr apostol Paul wrth un o gynulleidfaoedd ei gyfnod ef: “Y mae hiraeth arnaf am eich gweld, er mwyn . . . [i mi] gael fy nghalonogi ynghyd â chwi trwy’r ffydd sy’n gyffredin i’r naill a’r llall ohonom.” (Rhufeiniaid 1:11, 12) Wrth gyfarfod yn rheolaidd â’n cyd-addolwyr, bydd ein ffydd yn cryfhau ac fe fyddwn ni’n fwy penderfynol o fyw bywyd Cristnogol.

Beth am ichi dderbyn y gwahoddiad hwn i fynychu’r cyfarfod nesaf a gweld y pethau hyn â’ch llygaid eich hun? Mae’r cyfarfodydd yn rhad ac am ddim—does dim casgliad, a bydd croeso cynnes ichi.

  • Pa batrwm rydyn ni’n ei ddilyn yn ein cyfarfodydd?

  • Pa les sy’n dod o fynychu cyfarfodydd Cristnogol?