Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Roedd fy Mywyd yn Mynd o Ddrwg i Waeth

Roedd fy Mywyd yn Mynd o Ddrwg i Waeth
  • GANWYD: 1952

  • GWLAD ENEDIGOL: YR UNOL DALEITHIAU

  • HANES: TYMER WYLLT

FY NGHEFNDIR:

Cefais fy magu yn Los Angeles, California, U.D.A, mewn sawl ardal oedd ag enw drwg am gyffuriau a gangiau. Roedd chwech o blant yn y teulu a fi oedd yr ail.

Roedd fy mam yn mynd â ni i’r eglwys efengylaidd. Ond yn fy arddegau, roeddwn i’n byw bywyd dwbl. Ar y Sul roeddwn i’n canu yn y côr ond am weddill yr wythnos, roeddwn i’n byw bywyd anfoesol, mynd i bartïon, ac yn cymryd cyffuriau.

Roeddwn i’n colli fy nhymer yn hawdd ac yn barod i godi unrhyw arf mewn ffeit. Doedd yr hyn a ddysgais yn yr eglwys ddim yn helpu. Roeddwn i’n arfer dweud, “Yr Arglwydd piau dial​—a fi yw ei arf!” Yn yr ysgol yn y 1960au, cefais fy ysbrydoli gan y Black Panthers, grŵp gwleidyddol milwriaethus a oedd yn ymladd dros hawliau sifil. Ymaelodais ag undeb myfyrwyr oedd â diddordeb mewn hawliau sifil. Trefnon ni nifer o brotestiadau oedd yn cau’r ysgol am gyfnod.

Ond doedd protestio ddim yn ddigon treisgar i mi. Felly, dechreuais gymryd rhan mewn troseddau casineb. Weithiau byddwn i’n mynd gyda ffrindiau i weld ffilmiau am ormes caethweision Affricanaidd yn yr Unol Daleithiau. Roedd yr anghyfiawnder yn ein gwylltio ni cymaint nes ein bod ni’n ymosod ar bobl ifanc groenwyn yn y sinema. Wedyn byddwn ni’n mynd allan i edrych am fwy o bobl wynion i’w ymosod arnyn nhw.

Erbyn i mi gyrraedd fy arddegau hwyr, roedd fy mrodyr a minnau’n troseddu’n gyson ac mewn helynt gyda’r awdurdodau. Ymunais â gang ddrwg-enwog yr oedd un o fy mrodyr eisoes yn aelod ohoni. Roedd fy mywyd yn mynd o ddrwg i waeth.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Roedd rhieni un o fy ffrindiau yn Dystion Jehofa. Gofynnon nhw i mi fynd i un o’u cyfarfodydd a chytunais. O’r dechrau, gallwn weld bod y Tystion yn wahanol. Roedd gan bawb Feibl ac yn ei ddefnyddio yn ystod y cyfarfodydd. Roedd hyd yn oed y bobl ifanc yn rhoi anerchiadau! Un peth a wnaeth argraff fawr arna i oedd gweld enw Jehofa yn y Beibl, a’i glywed yn cael ei ddefnyddio. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Roedd llawer o genhedloedd gwahanol yn y gynulleidfa, ond yn amlwg roedd pawb yn cyd-dynnu.

Yn y dechrau, doeddwn i ddim eisiau astudio’r Beibl gyda’r Tystion, ond roeddwn i’n hoffi mynd i’r cyfarfodydd. Un noson, tra mod i yn un o gyfarfodydd Tystion Jehofa, aeth grŵp o fy ffrindiau i gyngerdd. Yno, wnaethon nhw guro bachgen yn ei arddegau i farwolaeth am ei siaced ledr. Y diwrnod wedyn, roedden nhw’n brolio am ladd y bachgen. Yn y llys, roedden nhw hyd yn oed yn chwerthin am eu trosedd. Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddedfryd oes. Roeddwn i mor falch nad oeddwn i wedi mynd gyda nhw’r noson honno. Penderfynais newid fy mywyd a dechrau astudio’r Beibl.

Ar ôl profi cymaint o ragfarn hiliol, roedd yr hyn a welais ymhlith y Tystion yn syfrdanol. Er enghraifft, pan oedd rhaid i un o’r Tystion gwyn fynd dramor, gadawodd ei blant yng ngofal teulu du. Hefyd, rhoddodd teulu gwyn gartref i fachgen du oedd angen rhywle i fyw. Roeddwn i’n sicr bod Tystion Jehofa yn ffitio disgrifiad Iesu yn Ioan 13:35: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” Roeddwn i’n gwybod mai brawdoliaeth go iawn oedd hon.

Drwy astudio’r Beibl, sylweddolais fod angen i mi newid fy ffordd o feddwl yn llwyr, nid yn unig drwy beidio â bod yn dreisgar, ond hefyd drwy fod yn sicr mai dyna’r ffordd orau o fyw. (Rhufeiniaid 12:2) Yn araf deg, newidiais fy mywyd, ac yn Ionawr 1974 cefais fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

Roedd rhaid i mi newid fy ffordd o feddwl yn llwyr, nid yn unig drwy beidio â bod yn dreisgar, ond hefyd drwy fod yn sicr mai dyna’r ffordd orau o fwy

Hyd yn oed ar ôl i mi gael fy medyddio, roedd rhaid i mi ddal ati i reoli fy nhymer. Er enghraifft, un tro pan oeddwn i’n mynd o dŷ i dŷ yn y weinidogaeth, wnaeth rhywun ddwyn radio fy nghar. Rhedais ar ei ôl ond cyn i mi ei ddal, gollyngodd y radio a rhedeg i ffwrdd. Pan esboniais i’r lleill sut cefais fy radio yn ôl, gofynnodd un o’r henuriaid i mi, “Stephen, beth fyddet ti wedi’i wneud pe bait ti wedi ei ddal?” Roedd ei gwestiwn yn gwneud i mi feddwl, a sylweddoli bod angen i mi ddal ati i fod yn heddychlon.

Ym mis Hydref 1974, dechreuais arloesi’n llawn amser. Yn nes ymlaen, cefais y fraint o wirfoddoli ym mhencadlys Tystion Jehofa yn Brooklyn, Efrog Newydd. Ym 1978, es i yn ôl i Los Angeles i ofalu am fy mam, a oedd yn sâl. Ddwy flynedd wedyn, priodais â fy ngwraig annwyl, Aarhonda. Roedd hi’n gefn mawr i mi wrth inni ofalu am fy mam nes iddi farw. Ymhen amser, wnaeth Aarhonda a minnau fynd i Ysgol Gilead a chael ein haseinio i Panama a dyna lle rydyn ni’n gwasanaethu fel cenhadon hyd heddiw.

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi wynebu llawer o sefyllfaoedd a allai fod wedi troi’n dreisgar. Rydw i wedi dysgu naill ai i gerdded i ffwrdd, neu i dawelu’r sefyllfa. Mae llawer o bobl, gan gynnwys fy ngwraig, wedi fy nghanmol i am y ffordd rydw i wedi ymateb. Rydw i hyd yn oed wedi synnu fy hun! Ond nid fi sy’n haeddu’r clod am y newidiadau yn fy mhersonoliaeth. I mi, mae hyn yn profi bod y Beibl yn gallu newid pobl yn llwyr.—Hebreaid 4:12.

FY MENDITHION:

Mae’r Beibl wedi rhoi pwrpas i fy mywyd ac wedi fy helpu i fod yn ddyn heddychlon. Yn lle rhoi curfa i bobl, rydw i’n ceisio eu helpu nhw i ddod i adnabod Duw. Roeddwn i hyd yn oed yn astudio’r Beibl gyda dyn a fu’n elyn i mi yn yr ysgol! Ar ôl iddo gael ei fedyddio, roedden ni’n rhannu ystafell am gyfnod. Hyd yn hyn, mae fy ngwraig a minnau wedi helpu dros 80 o bobl i ddod yn Dystion Jehofa drwy astudio’r Beibl.

Rydw i mor ddiolchgar i Jehofa am roi bywyd ystyrlon a hapus i mi, a llawer o ffrindiau da.