Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

“Dw i Ddim Bellach yn Teimlo Mod i’n Gorfod Newid y Byd”

“Dw i Ddim Bellach yn Teimlo Mod i’n Gorfod Newid y Byd”
  • GANWYD: 1966

  • GWLAD ENEDIGOL: Y FFINDIR

  • HANES: YMGYRCHYDD CYMDEITHASOL

FY NGHEFNDIR:

Dw i wedi caru natur ers o’n i’n blentyn. Byddai fy nheulu yn aml yn mynd am dro i’r coedwigoedd a llynnoedd hardd o gwmpas fy ninas enedigol Jyväskylä, yng Nghanolbarth y Ffindir. Dw i wrth fy modd efo anifeiliaid hefyd. Pan o’n i’n blentyn o’n i eisiau rhoi mwythau i bob cath a chi o’n i’n dod ar ei draws! Wrth imi fynd yn hŷn, o’n i’n ypsetio o weld y ffordd oedd pobl yn aml yn cam-drin anifeiliaid. Ymhen amser, wnes i ymuno â mudiad hawliau anifeiliaid, lle wnes i gyfarfod pobl eraill o’r un meddwl.

Roedden ni’n ymgyrchu’n frwd dros hawliau anifeiliaid, gan ddosbarthu gwybodaeth a threfnu gorymdeithiau a phrotestiadau yn erbyn siopau ffwr a labordai profi ar anifeiliaid. Wnaethon ni hyd yn oed ffurfio mudiad newydd i amddiffyn anifeiliaid. Am ein bod ni’n aml yn cymryd camau radical i hybu’r achos, roedden ni’n aml mewn trwbl â’r awdurdodau. Ces i fy arestio a fy nwyn o flaen y llys sawl gwaith.

Yn ogystal â fy nghonsýrn dros anifeiliaid, o’n i’n poeni am broblemau eraill o gwmpas y byd. Yn y pen draw, o’n i’n rhan o sawl mudiad, gan gynnwys Amnest Rhyngwladol a Greenpeace. Wnes i roi fy egni i gyd i gefnogi eu gweithgareddau nhw. O’n i’n amddiffyn y tlawd, y newynog, a phobl eraill llai ffodus.

Ond fesul tipyn, des i i sylweddoli nad oeddwn i’n gallu newid y byd. Er bod y mudiadau hynny wedi llwyddo i ddatrys rhai problemau bach, roedd y problemau mawr i bob golwg ond yn mynd yn waeth. Roedd hi fel petai drygioni wedi llyncu’r byd i gyd a doedd neb yn malio dim. A doeddwn i ddim yn gallu gwneud dim amdano.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

A finnau’n teimlo’n gwbl ddiymadferth, dechreuais feddwl am Dduw a’r Beibl. Oeddwn i wedi astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa o’r blaen. Er mod i wedi gweld bod y Tystion yn garedig ac yn dangos diddordeb personol ynddo i, doeddwn i ddim yn barod i newid fy ffordd o fyw ar y pryd. Ond tro ’ma, roedd pethau’n wahanol.

Ces i hyd i fy Meibl a dechrau ei ddarllen. Wel, roedd yn eli i’m briwiau. Sylwais ar lawer o adnodau sy’n dysgu ni i drin anifeiliaid yn garedig. Er enghraifft, mae Diarhebion 12:10 yn dweud bod “pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid.” Des i hefyd i ddeall mai nid Duw sy’n achosi problemau’r byd. Yn hytrach, mae ein problemau wedi gwaethygu am fod y rhan fwyaf o bobl ddim yn dilyn ei arweiniad. Pan ddysgais am gariad ac amynedd Jehofa, creodd hynny argraff ddofn arna i.​—Salm 103:​8-​14.

Tua’r adeg yma, des i ar draws hysbyseb am y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? ac anfon i ffwrdd amdano. Yn fuan wedyn daeth cwpl priod i’r drws a chynnig astudiaeth Feiblaidd imi, a wnes i ei derbyn. Dechreuais hefyd fynd i’r cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas. O ganlyniad, mi wnaeth gwirionedd y Beibl ddechrau gwreiddio yn fy nghalon.

Diolch i’r Beibl o’n i’n gallu gwneud llawer o newidiadau. Mi wnes i roi’r gorau i ysmygu a goryfed. Wnes i ymdrech i dwtio fy hun a gwylio fy nhafod. Ac mi wnes i newid fy agwedd tuag at yr awdurdodau. (Rhufeiniaid 13:1) Wnes i hefyd gefnu ar fy mywyd anfoesol, rhywbeth o’n i wedi rhoi penrhyddid llwyr iddo o’r blaen.

Y newid anoddaf i mi oedd datblygu’r agwedd gywir tuag at fudiadau hawliau dynol ac anifeiliaid. Wnaeth hynny ddim digwydd dros nos. Ar y dechrau, o’n i’n teimlo y byddwn i’n bradychu’r mudiadau hynny petaswn i’n eu gadael. Ond des i i weld mai Teyrnas Dduw yw’r unig wir obaith ar gyfer ein byd. Penderfynais roi fy holl egni i gefnogi’r Deyrnas honno ac i helpu eraill i ddysgu amdani.​—Mathew 6:​33.

FY MENDITHION:

Fel ymgyrchydd, o’n i’n arfer rhannu pobl i ddau grŵp pendant​—pobl dda neu bobl ddrwg​—ac o’n i’n barod i weithredu yn erbyn y rhai o’n i’n eu hystyried yn ddrwg. Ond diolch i’r Beibl, does gen i ddim casineb cryf tuag at eraill bellach. Yn hytrach, dw i’n ceisio meithrin cariad Cristnogol tuag at bawb. (Mathew 5:​44) Un o’r ffyrdd dw i’n dangos y cariad hwn yw drwy rannu’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Dw i’n falch o weld sut mae’r gwaith adeiladol hwn yn hybu heddwch a hapusrwydd ac yn rhoi gobaith go iawn i bobl.

Dw i wedi cael heddwch meddwl o adael pethau yn nwylo Jehofa. Dw i’n gwbl sicr na fydd ein Creawdwr yn caniatáu i anifeiliaid a phobl gael eu cam-drin am byth, nac yn caniatáu i’n daear hardd gael ei dinistrio. I’r gwrthwyneb, drwy ei Deyrnas, mi fydd yn trwsio’r holl niwed sydd wedi cael ei wneud. (Eseia 11:​1-9) Mae’n dod â llawenydd mawr imi, nid yn unig i wybod y gwirioneddau hyn, ond hefyd i helpu eraill i roi ffydd ynddyn nhw. Dw i ddim bellach yn teimlo mod i’n gorfod newid y byd.