Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Os Ydy Dy Gymar yn Gwylio Pornograffi?

Beth Os Ydy Dy Gymar yn Gwylio Pornograffi?
  • “O’n i’n teimlo fel petai fy ngŵr wedi bod yn anffyddlon imi dro ar ôl tro.”

  • “O’n i wedi fy siomi ac yn teimlo’n hyll ac yn dda i ddim.”

  • “Do’n i ddim yn gallu siarad â neb am y peth. O’n i’n dioddef ar fy mhen fy hun.”

  • “O’n i’n teimlo nad oeddwn i’n bwysig i Jehofa.”

Mae’r sylwadau uchod yn dangos gymaint mae gwraig yn dioddef pan fydd ei gŵr yn edrych ar bornograffi. Ac os ydy ef wedi cuddio hyn am fisoedd neu flynyddoedd, efallai bydd hi’n teimlo nad ydy hi’n gallu ei drystio. Fel dywedodd un wraig, “Teimlais nad oeddwn i’n adnabod y dyn yma. Ydy e’n cuddio unrhyw beth arall?”

Mae’r erthygl hon wedi ei pharatoi ar gyfer gwraig sydd â gŵr sy’n gwylio pornograffi. a Mae’n trafod egwyddorion y Beibl a fydd yn rhoi cysur iddi, yn dangos bod Jehofa yn ei chefnogi hi, ac yn ei helpu hi i wella yn emosiynol ac yn ysbrydol. b

BETH GALL CYMAR DIEUOG EI WNEUD?

Er nad wyt ti’n gallu rheoli popeth mae dy ŵr yn ei wneud, mae ’na bethau y gelli di eu gwneud er mwyn cael mwy o heddwch meddwl. Ystyria’r canlynol.

Paid â beio dy hun. Efallai bydd gwraig yn rhoi’r bai arni hi ei hun pan fydd ei gŵr yn gwylio pornograffi. Roedd Alice c yn teimlo efallai nad oedd hi’n ddigon da. Meddyliodd, ‘Pam mae fy ngŵr yn dewis edrych ar ferched eraill yn fy lle i?’ Mae rhai gwragedd yn rhoi’r bai arnyn nhw eu hunain am eu hymateb, gan feddwl eu bod nhw’n gwneud y sefyllfa’n waeth. Mae Danielle yn dweud, “O’n i’n teimlo’n hynod o chwerw ac yn ddig iawn a bod hynny yn difetha ein priodas.”

Os wyt ti’n teimlo felly, cofia fod Jehofa yn gwybod nad wyt ti’n gyfrifol am weithredoedd dy ŵr. Mae Iago 1:14 yn dweud: “Mae pob un yn cael ei demtio trwy gael ei ddenu a’i hudo gan ei chwant ei hun.” (Rhuf. 14:12; Phil. 2:12) Yn hytrach na rhoi’r bai arnat ti, mae Jehofa yn ddiolchgar dy fod ti yn ei drystio Ef.—2 Cron. 16:9.

Os ydy gŵr yn gwylio pornograffi, dydy hynny ddim yn golygu nad yw ei wraig yn ddigon da, ac mae’n bwysig i wraig gofio hynny. Mae arbenigwyr ar y pwnc yn dweud bod pornograffi yn creu chwantau rhywiol a ffantasïau na all unrhyw ddynes eu bodloni.

Osgoi poeni’n ormodol. Dywedodd Catherine mai’r cwbl roedd hi’n gallu meddwl amdano oedd y ffaith bod ei gŵr yn gwylio pornograffi. Dywedodd Frances: “Dw i’n pryderu pan dw i ddim yn gwybod ble mae fy ngŵr. Dw i ar bigau’r drain drwy’r dydd.” Mae gwragedd eraill wedi dweud eu bod nhw’n teimlo cywilydd yng nghwmni Cristnogion eraill sydd efallai’n gwybod am broblem ei gŵr. Mae eraill eto wedi dweud eu bod nhw’n teimlo’n unig oherwydd nad yw neb yn deall eu sefyllfa.

Mae’n naturiol i deimlo felly. Ond bydd rhoi gormod o sylw i’r teimladau hynny yn gwneud pethau’n anoddach iti. Bydd canolbwyntio ar dy berthynas â Jehofa yn dy helpu di i ddal ati.—Salm 62:2; Eff. 6:10.

Un peth all dy helpu di ydy darllen a meddwl am ferched yn y Beibl a aeth trwy gyfnodau anodd ond a gafodd gysur drwy droi at Jehofa mewn gweddi. Doedd Jehofa ddim yn cael gwared ar eu problemau bob tro, ond fe roddodd heddwch iddyn nhw. Roedd Hanna, er enghraifft, wedi “torri ei chalon” oherwydd ei sefyllfa. Ond ar ôl iddi weddïo’n hir ar Jehofa, cafodd hi heddwch meddwl er nad oedd hi’n gwybod beth oedd am ddigwydd yn y dyfodol.—1 Sam. 1:10, 12, 18; 2 Cor. 1:3, 4.

Efallai bydd rhaid i ŵr a’i wraig fynd at yr henuriaid am help

Gofynna i’r henuriaid am help. Gallan nhw fod “fel cysgod rhag y gwynt, a lloches rhag y storm.” (Esei. 32:2) Ac os wyt ti eisiau siarad â chwaer yn gyfrinachol i gael cysur, efallai gallan nhw awgrymu rhywun.—Diar. 17:17.

ELLI DI EI HELPU?

A elli di helpu dy ŵr i drechu ei arfer o wylio pornograffi? Efallai. Mae’r Beibl yn dweud bod “dau gyda’i gilydd yn well nag un” wrth ddatrys problem neu frwydro yn erbyn gelyn pwerus. (Preg. 4:9-12) Pan fydd cwpl yn gweithio gyda’i gilydd i dorri’n rhydd o afael pornograffi, mae ymchwil yn dangos eu bod nhw’n cael canlyniadau da a’u bod nhw’n gallu trystio ei gilydd unwaith eto.

Wrth gwrs, mae’n dibynnu ar barodrwydd dy gymar i weithio’n galed ac i stopio gwylio pornograffi. A ydy ef wedi erfyn ar Jehofa am nerth ac wedi gofyn am help gan yr henuriaid? (2 Cor. 4:7; Iago 5:14, 15) A ydy ef wedi creu cynllun er mwyn osgoi temtasiwn—er enghraifft, lleihau ei ddefnydd o ddyfeisiau electronig ac osgoi sefyllfaoedd all gynnig temtasiwn? (Diar. 27:12) A ydy ef yn barod i dderbyn dy help ac i fod yn gwbl onest gyda ti? Os felly, efallai byddi di’n gallu ei helpu.

Sut? Dyma esiampl. Fe wnaeth Felicia briodi Ethan oedd wedi bod yn gaeth i bornograffi ers iddo fod yn blentyn. Mae Felicia yn creu awyrgylch lle gall Ethan siarad yn agored â hi am ei awydd i edrych ar bornograffi. Mae Ethan yn esbonio: “Dw i’n siarad yn onest ac yn agored gyda fy ngwraig. Mae hi’n gariadus ac yn fy helpu i osod terfynau ar bethau fel defnyddio’r rhyngrwyd, ac mae hi’n gofyn imi yn aml sut mae pethau’n mynd.” Wrth gwrs, mae awydd Ethan i edrych ar bornograffi yn brifo Felicia, ond mae hi’n dweud: “Dydy dal dig ddim yn helpu Ethan i dorri’n rhydd o’r arfer drwg hwn. Ar ôl inni siarad am ei broblemau, mae’n barod i weithio gyda mi i ddod dros fy mhoen fy hun.”

Gall y fath sgyrsiau, nid yn unig helpu gŵr i osgoi gwylio pornograffi, ond hefyd helpu ei wraig i’w drystio eto. Wedi’r cwbl, pan fydd gŵr yn agored am ei dueddiadau, am beth mae’n ei wneud, ac am ble mae’n mynd, does dim byd i’w guddio.

Wyt ti’n credu dy fod ti’n gallu helpu dy ŵr mewn ffordd debyg? Os felly, beth am ddarllen a thrafod yr erthygl hon gyda’ch gilydd gyda’r bwriad o ddeall teimladau eich gilydd. Bydd ef eisiau rhoi’r gorau i bornograffi a rhoi sail iti ei drystio. Yn hytrach nag ymateb yn flin i dy deimladau, dylai wneud ymdrech i ddeall sut mae’r broblem yn effeithio arnat ti. Byddi di eisiau ei gefnogi a rhoi cyfle iddo ennill dy dryst unwaith eto. Bydd rhaid i’r ddau ohonoch chi ddysgu beth sy’n achosi i bobl ildio i bornograffi, a sut maen nhw’n gallu dod dros y broblem. d

Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gwylltio wrth geisio siarad am y broblem, ystyriwch ofyn i henuriad arwain y trafodaethau—henuriad rydych chi’ch dau yn ei drystio. Cofia y gall gymryd cryn dipyn o amser i adfer tryst hyd yn oed ar ôl i dy gymar dorri’n rhydd o bornograffi. Paid â rhoi’r ffidil yn y to. Edrycha am bethau bach sy’n gwella yn dy berthynas. Gydag amser ac amynedd bydd dy briodas yn dod yn gryf unwaith eto.—Preg. 7:8; 1 Cor. 13:4.

BETH OS YDY EF YN DAL I WYLIO PORNOGRAFFI?

Os bydd dy ŵr yn llithro’n ôl ar ôl osgoi pornograffi am beth amser, ydy hynny’n golygu ei fod yn ddiedifar neu fod y sefyllfa yn anobeithiol? Ddim o gwbl. Os ydy ef wedi bod yn gaeth i bornograffi, efallai bydd y frwydr yn para am weddill ei oes. Gallai hyd yn oed llithro’n ôl ar ôl blynyddoedd o’i osgoi. Er mwyn osgoi hynny yn y dyfodol, efallai bydd angen iddo ddal ati i osod terfynau hyd yn oed ar ôl i’r broblem edrych fel ei bod wedi cael ei datrys. (Diar. 28:14; Math. 5:29; 1 Cor. 10:12) Bydd rhaid iddo feithrin agwedd feddyliol newydd a dysgu “casáu drygioni,” sy’n cynnwys pornograffi yn ogystal ag arferion aflan tebyg fel mastyrbio. (Eff. 4:23; Salm 97:10; Rhuf. 12:9) Os ydy ef yn barod i weithio’n galed i wneud hyn, bydd yn bosib iddo lwyddo. e

Canolbwyntia ar dy berthynas â Jehofa

Ond beth os nad oes gan dy gymar unrhyw ddiddordeb mewn trechu ei broblem? Byddai’n naturiol iti fod yn siomedig ac yn ddig a theimlo dy fod ti wedi cael dy fradychu. Ceisia dawelwch meddwl drwy adael y mater yn nwylo Jehofa. (1 Pedr 5:7) Parha i agosáu at Jehofa drwy astudio, gweddïo, a myfyrio. Wrth wneud hynny, cofia y bydd Jehofa yn agosáu atat ti hefyd. Fel mae’n dweud yn Eseia 57:15, mae Jehofa “gyda’r rhai gostyngedig sydd wedi’u sathru,” ac mae eisiau iddyn nhw fod yn hapus eto. Gwna dy orau i fod yn Gristion da. Gofynna am help gan yr henuriaid a dal ati i obeithio y bydd dy ŵr yn newid ei agwedd yn y dyfodol.—Rhuf. 2:4; 2 Pedr 3:9.

a Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n sôn am ŵr sy’n gwylio pornograffi. Ond bydd llawer o’r egwyddorion yn helpu gŵr sydd â gwraig sy’n gwylio pornograffi.

b Nid yw gwylio pornograffi yn rhoi sail i ysgariad Ysgrythurol.—Math. 19:9.

c Newidiwyd yr enwau.

d Gelli di ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar jw.org ac yn ein cyhoeddiadau. Er enghraifft, gweler yr erthygl “Pornography Can Shatter Your Marriage” ar jw.org; “Sut i Amddiffyn ein Hunain Rhag un o Faglau Satan” yn y Tŵr Gwylio, Mehefin, 2019, tt. 26-30; a “Pornograffi—Yn Ddiniwed neu’n Wenwynig?” yn y Tŵr Gwylio, Awst 1, 2013.

e Oherwydd bod pornograffi mor anodd torri’n rhydd ohono, mae rhai cyplau wedi penderfynu cael help proffesiynol yn ogystal â chael cymorth ysbrydol gan yr henuriaid.