Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Yn yr amseroedd a fu, a fyddai rhywun yn debygol o fynd i gae dyn arall a hau chwyn yng nghanol y gwenith?

Mae copi 1468 o Grynhoad Iwstinian yn un o lawer o gofnodion sy’n rhoi manylion am faterion cyfreithiol yr oesoedd o’r blaen

YN MATHEW 13:24-26, mae Iesu’n dweud: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. Tra roedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i’r golwg hefyd.” (beibl.net) Mae amryw ysgrifenwyr wedi amau nad yw’r eglureb hon yn realistig, ond eto ceir hen ysgrifau cyfreithiol Rhufeinig sy’n awgrymu’n wahanol.

“Roedd dial ar rywun drwy hau efrau yn ei gae yn drosedd o dan y ddeddfwriaeth Rufeinig. Mae’r ffaith fod rhaid deddfu ynghylch y mater yn awgrymu nad oedd y math hwn o weithredu yn anghyffredin,” meddai un geiriadur Beiblaidd. Mae’r ysgolhaig cyfreithiol, Alastair Kerr, yn esbonio bod yr Ymerawdwr Rhufeinig Iwstinian wedi cyhoeddi ei Grynhoad yn y flwyddyn 533 OG, sef crynodeb o’r Gyfraith Rufeinig a dyfyniadau o arbenigwyr cyfreithiol cyfnod clasurol y gyfraith (oddeutu 100-250 OG). Yn ôl y gwaith hwn (Crynhoad, 9.2.27.14), gwnaeth yr arbenigwr cyfreithiol Ulpian gyfeirio at achos a gafodd ei glywed gan y gwladweinydd Rhufeinig Celsus yn yr ail ganrif. Roedd chwyn wedi eu hau yng nghae person arall, ac o ganlyniad i hynny, roedd y cnwd wedi ei ddifetha. Mae’r Crynhoad yn ystyried sut gallai’r gyfraith unioni’r cam a wnaethpwyd yn erbyn y perchennog, neu denant y fferm, er mwyn iddo gael iawndal gan y troseddwr am ei golled.

Mae’r ffaith fod drwgweithredu o’r fath wedi digwydd o fewn yr Ymerodraeth Rufeinig gynt yn awgrymu bod y sefyllfa a ddisgrifiodd Iesu yn gwbl realistig.

Faint o ryddid a roddodd Rhufain i’r awdurdodau Iddewig yn Jwdea yn y ganrif gyntaf?

YN YSTOD y cyfnod hwn, rheolwyd Jwdea gan y Rhufeiniaid, a gynrychiolwyd gan lywodraethwr a chanddo filwyr o dan ei orchymyn. Ei brif ddyletswydd oedd casglu trethi ar gyfer Rhufain a chadw heddwch a threfn. Y Rhufeiniaid hefyd oedd yn gyfrifol am atal unrhyw weithgareddau anghyfreithlon a chosbi unrhyw un a oedd yn achosi helynt. Fel arall, roedd y Rhufeiniaid yn fodlon gadael i arweinwyr lleol weinyddu’r dalaith o ddydd i ddydd.

Y Sanhedrin Iddewig yn cwrdd

Mewn materion a oedd yn ymwneud â chyfraith yr Iddewon, roedd y Sanhedrin yn gweithredu fel goruchaf lys a chyngor llywodraethol. Roedd is-lysoedd i’w cael ar hyd a lled Jwdea. Yn fwy na thebyg, roedd y rhan fwyaf o achosion sifil a throseddol yn cael eu clywed gan lysoedd o’r fath heb ymyrraeth gan y rheolwyr Rhufeinig. Fodd bynnag, nid oedd gan y llysoedd Iddewig yr awdurdod i ddienyddio troseddwyr—roedd y Rhufeiniaid, ar y cyfan, yn cadw’r hawl honno iddyn nhw eu hunain. Un eithriad adnabyddus oedd pan wnaeth aelodau’r Sanhedrin farnu Steffan a’i labyddio i farwolaeth.—Act. 6:8-15; 7:54-60.

Roedd gan y Sanhedrin Iddewig awdurdod eang. Ond eto, “y cyfyngiad mwyaf arno,” meddai’r ysgolhaig Emil Schürer, “oedd y ffaith fod y Rhufeiniaid yn gallu ymyrryd ar unrhyw adeg a gweithredu’n annibynnol, fel yr oedden nhw’n ei wneud mewn achosion o drosedd gwleidyddol.” Digwyddodd achos o’r fath o dan arolygiaeth y cadlywydd Clawdius Lysias, a arestiodd yr apostol Paul, dinesydd Rhufeinig.—Act. 23:26-30.