Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Heblaw am y Beibl, pa dystiolaeth sy’n dangos bod yr Israeliaid wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft?

Yn ôl y Beibl, ar ôl i’r Midianiaid gymryd Joseff i’r Aifft, symudodd Jacob a’i deulu o Ganaan i’r Aifft. Fe wnaethon nhw ymgartrefu yn ardal Gosen yr Aifft, yn Nelta Afon Nîl. (Gen. 47:1, 6) Roedd eu “disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw’n cael eu gweld fel bygythiad.” Felly, daeth yr Eifftiaid i ofni’r Israeliaid a chawson nhw eu gorfodi i fod yn gaethweision.—Ex. 1:7-14.

Mae rhai beirniaid cyfoes wedi gwawdio’r hanesyn Beiblaidd uchod, gan gyfeirio ato fel myth. Eto i gyd, mae tystiolaeth yn bodoli fod y Semitiaid * wedi bod yn gaethweision yn yr hen Aifft.

Er enghraifft, mae archaeolegwyr wedi datgloddio hen bentrefi yng ngogledd yr Aifft. Dywed Dr John Bimson fod ’na dystiolaeth o 20 neu fwy o aneddleoedd Semitaidd yn y rhan honno o ogledd yr Aifft. Ymhellach, dywed yr Eifftolegwr James K Hoffmeier: “Rhwng tua 1800 a 1540 COG, roedd yr Aifft yn lle deniadol i bobl Semitig eu hiaith ymfudo iddo o orllewin Asia.” Mae’n ychwanegu: “Mae’r cyfnod hwn yn cydredeg â’r ‘Cyfnod Patriarchaidd’ traddodiadol, ac felly yn cyd-fynd â’r amser a’r amgylchiadau a ddisgrifir yn Genesis.”

Cawn fwy o dystiolaeth o dde’r Aifft. Mae papyrws sy’n dyddio i’r Deyrnas Ganol (tua 2000–tua 1600 COG) yn cynnwys enwau caethweision oedd yn gweithio i deulu yn ne’r Aifft. Mae mwy na 40 o’r enwau hynny yn Semitig. Gweithiai’r caethweision, neu weision, hyn fel cogyddion, gwehyddion, a llafurwyr. Yn ôl Hoffmeier: “Gan fod mwy na phedwar deg o Semitiaid yn gweithio i un teulu yn y Thebaid [de’r Aifft], mae’n debygol fod nifer y Semitiaid ar draws yr Aifft, ac yn enwedig yn y Delta, yn sylweddol.”

Dywed yr archaeolegwr David Rohl fod rhai o enwau’r caethweision ar y rhestr fel petasen nhw’n “neidio’n syth allan o dudalennau’r Beibl.” Er enghraifft, mae’r dernynnau’n cynnwys enwau sy’n debyg i Issachar, Asher, a Shiffra. (Ex. 1:3, 4, 15) “Dyma dystiolaeth glir fod yr Israeliaid wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft,” meddai Rohl.

Dywed Dr Bimson: “Mae gan draddodiadau’r Beibl am gaethwasiaeth yn yr Aifft, ac am yr Exodus, sylfaen hanesyddol gadarn.”

^ Par. 4 Mae’r enw Semitiad yn tarddu o enw Shem, un o dri mab Noa. Yn ôl pob tebyg mae disgynyddion Shem yn cynnwys yr Elamiaid, yr Asyriaid, y Caldeaid cynnar, yr Hebreaid, y Syriaid, ac amryw o lwythau Arabia.