Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 1

Buddion Hunanreolaeth

Buddion Hunanreolaeth

BETH YW HUNANREOLAETH?

Mae hunanreolaeth yn cynnwys y gallu i

  • ohirio boddhad

  • osgoi bod yn fyrbwyll

  • cwblhau tasgau diflas

  • rhoi eraill yn gyntaf

PWYSIGRWYDD HUNANREOLAETH

Mae plant sy’n gallu rheoli eu hunain yn llwyddo i wrthsefyll temtasiwn, hyd yn oed pan fydd y temtasiwn yn apelio atyn nhw. Ar y llaw arall, bydd plant gyda llai o hunanreolaeth yn fwy tebygol o

  • wylltio’n hawdd

  • dioddef o iselder

  • ysmygu, goryfed, neu fod yn gaeth i gyffuriau

  • dewis deiet gwael

Yn ôl un astudiaeth roedd plant â mwy o hunanreolaeth yn llai tebygol o gael problemau iechyd neu drafferthion ariannol, ac yn fwy tebygol o barchu’r gyfraith fel oedolion. Oherwydd yr astudiaeth hon daeth yr Athro Angela Duckworth, o Brifysgol Pennsylvania, i’r casgliad hwn: “Efallai nad oes y fath beth â ‘gormod’ o hunanreolaeth.”

SUT I DDYSGU HUNANREOLAETH

Dywedwch “Na” a chadw ato.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’.”—Mathew 5:37.

Weithiau bydd plant yn ceisio tanseilio penderfyniadau’r rhieni drwy strancio—hyd yn oed yn gyhoeddus. Os bydd y rhiant yn ildio, dysga’r plentyn fod sgrechian yn gallu troi ‘na chei’ yn ‘cei.’

Ar y llaw arall, os bydd y rhiant yn dweud na heb ildio, bydd y plentyn yn dysgu ffaith sylfaenol—allwn ni ddim wastad gael yr hyn y dymunwn. “Yn eironig, mae pobl sy’n dysgu’r wers honno yn tueddu bod yn bobl hapusach,” meddai Dr David Walsh. “Dydy hi ddim yn garedig i ddysgu ein plant i ddisgwyl cael popeth maen nhw eisiau ar blât.” *

Bydd dweud na wrth eich plentyn nawr yn ei helpu i ddweud na wrtho’i hun pan fydd yn hŷn—er enghraifft, os caiff ei demtio i gymryd cyffuriau, cael rhyw cyn priodi, neu wneud unrhyw beth arall niweidiol.

Helpwch eich plant i ddeall y canlyniadau, y da a’r drwg.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae pobl yn medi beth maen nhw’n ei hau.”—Galatiaid 6:7.

Mae’ch plentyn angen deall bod canlyniadau i weithredoedd, ac felly bydd unrhyw ddiffyg hunanreolaeth yn medi canlyniadau annymunol. Er enghraifft, os bydd eich mab yn arfer colli ei dymer pan gaiff ei gythruddo, efallai bydd eraill yn tueddu i’w osgoi. Ar y llaw arall, os bydd yn meithrin y gallu i ffrwyno’i hun wrth gael ei bryfocio—neu ddisgwyl yn amyneddgar yn lle torri ar draws sgyrsiau pobl eraill—bydd pobl yn hoff o’i gwmni. Helpwch eich plentyn i ddeall y bydd ei fywyd yn debygol o fod yn well pan fydd yn ffrwyno ei hun.

Dysgwch eich plentyn i flaenoriaethu.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.”—Philipiaid 1:10.

Mae mwy i hunanreolaeth nag osgoi gwneud rhywbeth anghywir; mae’n cynnwys gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol, hyd yn oed pan nad ydyn ni’n mwynhau ei wneud. Mae’n bwysig i’ch plentyn ddysgu sut i flaenoriaethu’r pethau pwysicaf a’u gwneud yn gyntaf. Er enghraifft, dylai wneud ei waith cartref yn gyntaf a chwarae wedyn.

Gosodwch esiampl dda.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i’ch gilydd.”—Ioan 13:15.

Bydd eich plentyn yn gweld sut byddwch chi’n ymateb i sefyllfaoedd annifyr neu rwystredig. Dangoswch drwy eich esiampl fod pethau’n mynd yn well pan fydd gennyn ni hunanreolaeth. Er enghraifft, pan fydd eich plentyn yn gwneud rhywbeth drwg, ydych chi’n gwylltio neu ydych chi’n gallu cadw’ch pen?

^ Par. 20 O’r llyfr No: Why Kids—of All Ages—Need to Hear It and Ways Parents Can Say It.