Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 4

Sut i Fod yn Gyfrifol

Sut i Fod yn Gyfrifol

BETH MAE BOD YN GYFRIFOL YN EI GYNNWYS?

Mae pobl gyfrifol yn ddibynadwy. Maen nhw’n mynd ati’n syth i wneud eu tasgau a’u gorffen yn brydlon.

Gall hyd yn oed plentyn ifanc iawn ddechrau dysgu bod yn gyfrifol. “Mae gan blentyn y gallu i gydweithio erbyn pymtheg mis oed, ac erbyn deunaw mis oed, mae ganddo’r awydd i helpu,” meddai’r llyfr Parenting Without Borders. “Mewn llawer i ddiwylliant, mae rhieni yn dechrau dangos i’w plant sut gallan nhw helpu yn y tŷ pan fydd eu plant rhwng pump a saith oed. Er eu bod yn ifanc, gall plant lwyddo i wneud nifer o dasgau.”

PWYSIGRWYDD BOD YN GYFRIFOL

Mae “plant bwmerang” yn disgrifio oedolion ifanc sy’n gadael y cartref i fyw ar eu pennau eu hunain dim ond i ddod yn ôl at Mam a Dad pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Weithiau bydd hyn yn digwydd oherwydd na chafodd y person ifanc erioed ei ddysgu i drin arian, i gadw tŷ, nac i fod yn gyfrifol yn eu bywyd pob dydd.

Felly, bydd yn well i baratoi eich plant ar gyfer bod yn oedolyn cyfrifol. “Dydych chi ddim eisiau iddyn nhw fod yn ddibynnol arnoch chi nes iddyn nhw droi’n ddeunaw ac yna eu gollwng nhw i’r byd go iawn,” meddai’r llyfr How to Raise an Adult.

SUT I DDYSGU BOD YN GYFRIFOL

Rhowch dasgau iddyn nhw.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae elw i bob gwaith caled.”—Diarhebion 14:23.

Mae plant ifanc yn awyddus i weithio ochr yn ochr â’u rhieni. Gallwch fanteisio ar y reddf hon drwy aseinio gwaith o gwmpas y tŷ iddyn nhw.

Mae rhai rhieni yn gyndyn o wneud hynny, gan resymu bod eu plant yn wynebu tomen o waith cartref bob dydd, felly pam ychwanegu at eu baich?

Sut bynnag, mae plant sy’n gwneud gwaith tŷ yn fwy tebygol o lwyddo yn yr ysgol, gan fod gwaith o’r fath yn eu dysgu i dderbyn aseiniadau a gorffen tasgau. At hynny, noda’r llyfr Parenting Without Borders, “os nad ydyn ni’n gadael i’n plant ein helpu ni pan fyddan nhw’n ifanc ac eisiau helpu, byddan nhw’n cael yr argraff nad yw helpu eraill yn bwysig . . . Byddan nhw hefyd yn disgwyl i bopeth gael ei wneud drostyn nhw.”

Yn ôl y dyfyniad, mae gwneud tasgau yn hyfforddi plant i helpu eraill yn hytrach na bod yn hunanol, ac i roi yn lle cymryd. Mae tasgau yn helpu plant i sylweddoli bod ganddyn nhw rôl bwysig yn y teulu, a chyfrifoldeb tuag at y rôl honno.

Helpwch eich plant i fod yn atebol am eu camgymeriadau.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Gwrando ar gyngor, a bydd barod i dderbyn cerydd, a byddi’n ddoeth yn y diwedd.”—Diarhebion 19:20.

Pan fydd eich plant yn gwneud camgymeriadau, er enghraifft, petai eich mab neu ferch yn torri eiddo rhywun ar ddamwain, ffrwynwch yr awydd i guddio’r hyn a ddigwyddodd. Mae gan blant y gallu i dderbyn y canlyniadau—yn yr achos hwn, ymddiheuro ac efallai hyd yn oed gwneud yn iawn am yr hyn a dorrwyd.

Bydd cyfaddef eich camgymeriadau a’ch methiannau yn dysgu eich plant

  • i fod yn onest a chyfaddef eu beiau

  • i osgoi rhoi’r bai ar eraill

  • i osgoi gwneud esgusodion

  • i ymddiheuro, pan fo’n briodol