Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | RHIENI

Dysgu Plant i Fod yn Ostyngedig

Dysgu Plant i Fod yn Ostyngedig

YR HER

  • Mae eich mab yn meddwl ei fod yn gwybod y cwbl—ac yntau ond yn ddeg oed!

  • Mae’n disgwyl i bawb roi triniaeth arbennig iddo.

‘Beth sy’n bod arno?’ rydych chi’n ei ofyn. ‘Dw i eisiau iddo deimlo’n dda amdano’i hun—ond nid i feddwl ei fod yn well na phawb arall!’

A yw hi’n bosib dysgu plentyn i fod yn ostyngedig heb danseilio ei hunan-werth?

BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?

Yn ystod y degawdau diwethaf, roedd rhieni yn cael eu hannog i ildio i ddymuniadau eu plant; i’w canmol nhw i’r cymylau, hyd yn oed os nad oedden nhw haeddu’r ganmoliaeth; i ddal yn ôl rhag cywiro a disgyblu. Y syniad oedd bod plant sy’n teimlo eu bod nhw’n sbesial yn mynd i dyfu i fyny gyda digon o hunan-barch. Ond beth mae’r canlyniadau yn ei ddangos? Mae’r llyfr Generation Me yn dweud: “Yn hytrach na meithrin plant sy’n gytbwys ac yn hapus, mae’r mudiad hunan-barch wedi creu byddin o blant narsisaidd.”

Dydy plant sydd wedi cael eu canmol i’r eithaf ddim yn tyfu i fyny i fod yn barod ar gyfer siomedigaethau, beirniadaeth, ac ambell fethiant. Oherwydd eu bod nhw wedi cael eu dysgu i ganolbwyntio ar eu dymuniadau eu hunain, maen nhw’n ei chael hi’n anodd ffurfio perthynas â phobl eraill sy’n para. O ganlyniad, mae llawer ohonyn nhw’n dioddef o orbryder ac iselder.

Mae plant yn datblygu gwir hunan-werth, nid drwy glywed pa mor arbennig ydyn nhw drwy’r amser, ond drwy gyflawni pethau’n llwyddiannus. Mae gwneud hynny’n gofyn am fwy na chredu ynddyn nhw eu hunain yn unig. Mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu, ymarfer, a hogi sgiliau penodol yn ofalus. (Diarhebion 22:29) Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw feddwl am anghenion pobl eraill. (1 Corinthiaid 10:24) Mae hyn i gyd yn gofyn am ostyngeiddrwydd.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Canmol pan fyddan nhw’n ei wir haeddu. Os ydy eich merch yn cael marciau da mewn prawf yn yr ysgol, rhowch ganmoliaeth iddi. Os ydy hi’n cael marciau isel, peidiwch â rhoi’r bai yn syth ar yr athro. Ni fyddai hynny’n helpu eich merch i ddysgu gostyngeiddrwydd. Yn hytrach, helpwch hi i weld sut y gallai hi wneud yn well y tro nesaf. Call fyddai neilltuo canmoliaeth ar gyfer gwir lwyddiannau.

Cywiro pan fydd angen. Dydy hynny ddim yn golygu y dylech chi feirniadu eich plentyn am bob camgymeriad. (Colosiaid 3:21) Ond, dylai camgymeriadau difrifol gael eu cywiro. Gellir dweud union yr un peth am agweddau anghywir. Neu, fel arall, mae’r agweddau hyn yn bwrw gwreiddiau dwfn.

Er enghraifft, dychmygwch fod eich mab yn tueddu brolio. Heb ei gywiro, gallai ddod i feddwl gormod ohono’i hun a’i chael hi’n anodd cadw ffrindiau. Felly, esboniwch i’ch plentyn fod brolio yn gwneud iddo edrych yn ddrwg ac yn gallu codi cywilydd arno. (Diarhebion 27:2) Esboniwch hefyd nad yw person sydd ag agwedd gytbwys tuag ato ef ei hun yn teimlo ei fod yn gorfod sôn wrth bawb am ei ddoniau. Wrth ei gywiro mewn ffordd gariadus, byddwch chi’n ei ddysgu i fod yn ostyngedig a hynny heb niweidio ei hunan-barch.—Egwyddor Feiblaidd: Mathew 23:12.

Paratoi eich plentyn ar gyfer bywyd go iawn. Gall ildio i bob dymuniad y plentyn achosi iddo deimlo bod ganddo’r hawl i gael pob dim. Er enghraifft, os ydy eich plentyn eisiau rhywbeth na allwch chi ei fforddio, eglurwch wrtho pa mor bwysig yw peidio â gwario gormod. Os ydych chi’n gorfod canslo trip neu wyliau, gallwch chi esbonio bod siomedigaethau yn rhan o fywyd gan drafod hefyd sut rydych chithau yn delio gyda siomedigaethau o’r fath. Yn hytrach na gwarchod eich plant rhag pob anhawster, sicrhewch eu bod nhw’n barod ar gyfer yr anawsterau y byddan nhw’n eu hwynebu fel oedolion.—Egwyddor Feiblaidd: Diarhebion 29:21.

Annog haelioni. Mae angen profi i’ch plentyn fod “rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Actau 20:35) Sut felly? Gyda’ch gilydd, gallech chi lunio rhestr o bobl sydd angen help gyda siopa, cludiant, neu waith trwsio. Yna, ewch â’ch plentyn gyda chi pan fyddwch chi’n rhoi cymorth i’r rhai hyn. Gwnewch yn siŵr fod eich plentyn yn gweld eich llawenydd chi wrth ichi ofalu am anghenion pobl eraill. Trwy wneud hyn, byddwch yn dysgu gostyngeiddrwydd i’ch plentyn yn y ffordd fwyaf pwerus—drwy eich esiampl.—Egwyddor Feiblaidd: Luc 6:38.