Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y FFORDD I HAPUSRWYDD

Cariad

Cariad

MAE ANGEN CARIAD AR BOBL. Does yr un briodas, teulu, na chyfeillgarwch yn gallu ffynnu hebddo. Mae cariad yn hanfodol i iechyd meddwl a hapusrwydd person. Ond beth ydy “cariad”?

Nid cariad rhamantus sydd yma, er bod hwnnw’n bwysig wrth gwrs. Yr hyn sydd dan sylw ydy math rhagorach o gariad sy’n achosi i berson boeni am les pobl eraill, ac i osod hynny uwchlaw ei anghenion ei hun. Cariad yw hwn sy’n seiliedig ar egwyddorion duwiol ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes cynhesrwydd yn perthyn iddo.

Dyma un disgrifiad o’r math hwn o gariad: “Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio’i hun, nac yn llawn ohono’i hun. Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nac yn mynnu ei ffordd ei hun drwy’r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae’n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni—beth sy’n ei wneud e’n llawen ydy’r gwir. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; . . . bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati. Fydd cariad byth yn chwalu.”—1 Corinthiaid 13:4-8.

Mae cariad sydd “byth yn chwalu” yn para am byth. Yn wir, gall dyfu yn gryfach dros amser. Ac oherwydd ei fod yn amyneddgar, caredig, a maddeugar, mae’n “clymu’r cwbl yn berffaith gyda’i gilydd.” (Colosiaid 3:14) Felly, mae perthynas sydd wedi ei rhwymo â chariad o’r fath yn gadarn a hapus, er gwaethaf amherffeithrwydd yr unigolion. Er enghraifft, ystyriwch y briodas.

CARIAD SY’N “CLYMU’R CWBL YN BERFFAITH GYDA’I GILYDD”

Dysgodd Iesu Grist egwyddorion pwysig ynglŷn â phriodas. Er enghraifft, dywedodd: “‘Bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig, a bydd y ddau yn dod yn un.’ . . . Felly ddylai neb wahanu beth mae Duw wedi ei uno.” (Mathew 19:5, 6) Mae o leiaf ddwy egwyddor yn sefyll allan.

“BYDD Y DDAU YN DOD YN UN.” Y briodas ydy’r berthynas fwyaf agos y gall bodau dynol ei chael, ac mae cariad yn gallu ei hamddiffyn rhag anffyddlondeb—sef “dod yn un” gyda rhywun y tu allan i’r briodas. (1 Corinthiaid 6:16; Hebreaid 13:4) Mae’n anodd i gwpl drystio ei gilydd yn dilyn anffyddlondeb, a gall hynny chwalu’r briodas. Os oes ’na blant, mae’n bosib iddyn nhw gael eu niweidio’n emosiynol, cymaint felly fel eu bod nhw’n teimlo nad ydy eu rhieni yn eu caru nhw, gan wneud iddyn nhw deimlo’n fregus ac yn ddig.

“BETH MAE DUW WEDI EI UNO.” Perthynas gysegredig yw priodas. Mae cyplau sy’n parchu hynny yn ymdrechu i gryfhau eu priodas. Dydyn nhw ddim yn ceisio ffordd allan o’r briodas pan fydd problemau yn codi. Mae eu cariad yn gryf ac yn anodd ei dorri. Mae cariad o’r fath “bob amser yn amddiffyn,” ac yn ein helpu i ddatrys problemau ac i gadw heddwch yn y briodas.

Pan fydd rhieni yn dangos cariad hunanaberthol, mae’r plant yn y teulu yn elwa’n fawr iawn. Dywedodd un ferch ifanc o’r enw Jessica: “Roedd fy rhieni yn wir yn caru ac yn parchu ei gilydd. Pan ydw i’n gweld fy mam yn parchu fy nhad, yn enwedig wrth ddelio gyda ni’r plant, mae’n gwneud imi eisiau bod yr un fath â hi.”

Cariad ydy rhinwedd bennaf Duw. Yn wir, mae’r Beibl yn dweud: “Cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Nid yw’n syndod felly fod y Beibl yn dweud mai “Duw bendigedig” ydy Jehofa. (1 Timotheus 1:11) Byddwn ninnau hefyd yn cael ein bendithio pan fyddwn ni’n efelychu rhinweddau ein Creawdwr—yn enwedig ei gariad. Dywed Effesiaid 5:1, 2: “Felly dilynwch esiampl Duw, gan eich bod yn blant annwyl iddo. Dylech fyw bywydau llawn cariad.”