Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

Ar ôl i’r Plant Adael y Nyth

Ar ôl i’r Plant Adael y Nyth

YR HER

Yn aml, mae cyplau priod yn wynebu eu her fwyaf ar ôl i’w plant dyfu i fyny a gadael y cartref. Ar ôl i’r plant adael y nyth gall y rhieni deimlo fel pobl ddiarth. “Rwy’n cynghori llawer o bobl sydd ddim yn gwybod sut i ailgysylltu â’u cymar,” meddai M. Gary Neuman, arbenigwr ar y teulu. “Nawr bod y plant wedi mynd, does ganddyn nhw fawr ddim i siarad amdano nac i’w rannu gyda’i gilydd.” *

Ydy hynny’n disgrifio eich priodas chi? Os felly, mae hi’n bosib ichi fod ar y trywydd iawn unwaith eto. Ond, yn gyntaf, ystyriwch rai pethau sydd efallai wedi achosi’r pellter rhyngoch chi a’ch cymar.

PAM MAE’N DIGWYDD?

Am flynyddoedd, y plant oedd yn dod gyntaf. Yn llawn bwriadau da, mae llawer o rieni yn rhoi anghenion eu plant o flaen anghenion eu priodas. O ganlyniad, maen nhw mor gyfarwydd â bod yn dad ac yn fam nes iddyn nhw golli cysylltiad fel gŵr a gwraig—rhywbeth sy’n dod i’r amlwg pan fydd y plant yn symud allan. “Pan oedd y plant yn dal yma, o leiaf roedden ni’n gwneud pethau gyda’n gilydd,” meddai gwraig 59 mlwydd oed. “Ond ar ôl i’r plant adael,” meddai, “roedden ni ar lwybrau gwahanol.” Gwnaeth hi hyd yn oed ddweud wrth ei gŵr: “Rydyn ni’n baglu dros ein gilydd.”

Dydy rhai cyplau priod ddim yn fodlon addasu i’r cyfnod newydd hwn yn eu bywydau. “I lawer o gyplau, mae fel petasen nhw newydd briodi unwaith eto,” meddai’r llyfr Empty Nesting. Yn meddwl fod ganddyn nhw fawr ddim yn gyffredin, mae llawer o wŷr a gwragedd yn mynd eu ffordd eu hunain, ac yn dod yn fwy fel pobl sy’n rhannu ystafell yn hytrach na phriodas.

Y newyddion da yw eich bod chi’n gallu osgoi’r maglau a fydd yn codi yn ystod y cyfnod newydd hwn yn eich bywyd, a hyd yn oed mwynhau’r buddion. Gall y Beibl eich helpu yn hyn o beth. Gadewch inni weld sut.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Penderfynwch dderbyn y newid. Ynglŷn â phlant sydd wedi tyfu i fyny, mae’r Beibl yn dweud y bydd “dyn yn gadael ei dad a’i fam.” (Genesis 2:24) Fel rhieni, eich nod yw hyfforddi eich plant ar gyfer y foment honno a’u helpu i feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer bywyd oedolyn. O’i weld yn y goleuni hwn, bydd gweld eich plant yn gadael y cartref yn rhywbeth y gallwch chi fod yn falch iawn ohono.—Egwyddor o’r Beibl: Marc 10:7.

Wrth gwrs, byddwch chi’n dal yn rhiant i’ch plant. Ond, erbyn hyn, rydych chi’n fwy o ymgynghorwr nag o arolygwr. Mae’r berthynas newydd hon yn caniatáu ichi aros yn agos at eich plant tra eich bod chi’n rhoi eich sylw yn bennaf i’ch cymar. *Egwyddor o’r Beibl: Mathew 19:6.

Rhannwch eich pryderon. Siaradwch â’ch cymar am sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio arnoch, a byddwch yn barod i wrando ar eich cymar hefyd. Byddwch yn amyneddgar ac yn ystyrlon. Efallai y bydd yn cymryd amser ichi gryfhau eich perthynas fel gŵr a gwraig, ond mae gwneud hynny yn werth yr ymdrech.— Egwyddor o’r Beibl: 1 Corinthiaid 13:4.

Edrychwch am bethau newydd i’w gwneud gyda’ch gilydd. Siaradwch am yr amcanion rydych chi eisiau anelu atyn nhw gyda’ch gilydd neu’r diddordebau rydych chi eisiau eu mwynhau fel cwpl. Drwy fagu plant, rydych chi wedi ennill llawer o ddoethineb. Beth am ei ddefnyddio i helpu pobl eraill?—Egwyddor o’r Beibl: Job 12:12.

Ailafael yn eich perthynas. Meddyliwch am y rhinweddau a wnaeth eich denu at eich gilydd. Fel cwpl, meddyliwch yn ôl dros eich bywyd priodasol a’r problemau rydych chi wedi eu hwynebu gyda’ch gilydd. Yn y pen draw, gall y bennod newydd hon fod yn gyffrous. Mewn gwirionedd, mae gennych chi gyfle i gydweithio a gwella eich priodas ac i aildanio’r cariad a wnaeth eich denu at eich gilydd yn y lle cyntaf.

^ Par. 4 O’r llyfr Emotional Infidelity.

^ Par. 12 Os ydych chi’n dal yn magu eich plant, cofiwch eich bod chi a’ch cymar “yn un” o hyd. (Marc 10:8) Bydd plant yn teimlo’n ddiogel o weld bod y berthynas rhwng eu rhieni yn un gryf.