Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

AR Y CLAWR

Ydych Chi’n Gwneud Gormod?

Ydych Chi’n Gwneud Gormod?

Ydych chi’n teimlo eich bod chi’n rhy brysur? Os ydych chi, dydych chi ddim ar eich pennau eich hunain. “Mae hi’n ymddangos bod pawb ym mhobman yn brysur,” meddai’r cylchgrawn The Economist.

YN 2015, trefnwyd arolwg o weithwyr llawn-amser mewn wyth gwlad. Dywedodd llawer ohonyn nhw ei bod hi’n anodd ymdopi â gofynion y gweithle a’r teulu. Ymhlith y rhesymau dros hyn oedd mwy o gyfrifoldebau yn y gwaith neu yn y cartref, costau byw yn codi, ac oriau gwaith hir. Yn yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mae gweithwyr llawn-amser yn dweud eu bod nhw’n gweithio, ar gyfartaledd, 47 awr yr wythnos. Roedd bron 1 o bob 5 yn honni eu bod nhw’n gweithio 60 awr neu fwy!

Mewn arolwg arall, a oedd yn cynnwys 36 o wledydd, dywedodd dros chwarter o’r rhai a holwyd eu bod nhw’n gorfod rhuthro hyd yn oed yn ystod eu hamser hamdden! Gall hyn hefyd effeithio ar blant os ydyn nhw wedi cael eu gorlwytho ag amserlen sy’n rhy dynn.

Os ydyn ni’n wastad yn ceisio gwneud mwy nag y mae amser yn ei ganiatáu, gallwn ddod o dan straen neu o dan yr hyn sy’n cael ei alw’n “bwysau amser.” Ond, ydy hi’n bosib byw bywyd mwy cytbwys? Yn hyn o beth, pa mor bwysig ydy ein daliadau, ein dewisiadau, a’n bwriadau? Yn gyntaf, ystyriwch bedair rheswm pam y mae rhai’n ceisio gwneud gormod.

1 GOFALU AM Y TEULU

“Roeddwn i’n gweithio saith diwrnod yr wythnos,” meddai tad o’r enw Gary. “Gwneud hyn roeddwn i oherwydd fy mod i’n wastad eisiau rhoi rhywbeth gwell i fy mhlant i. Roeddwn i eisiau iddyn nhw gael y pethau nad oeddwn i wedi eu cael.” Er bod eu rhesymau’n ddilys, mae’n rhaid i rieni asesu eu blaenoriaethau. Yn ôl rhai astudiaethau, mae oedolion a phlant sy’n gosod pwys mawr ar arian a phethau materol yn tueddu bod yn llai hapus, yn llai bodlon ar fywyd, ac yn llai iach na’r rhai sydd ddim yn faterol.

Mae plant sydd wedi eu magu i roi eu bryd ar bethau materol yn llai hapus

Mewn ymdrech i helpu eu plant i baratoi ar gyfer bywyd llwyddiannus, mae rhai rhieni yn llenwi pob munud o bob dydd â rhyw weithgaredd neu’i gilydd. Er bod y rhieni hyn yn llawn bwriadau da, mae’r llyfr Putting Family First yn dweud eu bod nhw’n “ymddwyn fel y rhai sy’n gyfrifol am drefnu adloniant ar longau teithio ac yn gwneud yn siŵr fod yr amserlen yn llawn dop o weithgareddau.”

2 Y GRED BOD ‘MWY YN WELL’

Mae hysbysebwyr yn ceisio ein perswadio ni i feddwl ein bod ni’n colli allan os nad ydyn ni’n prynu’r teclynnau diweddaraf. Yn ôl yr Economist: “Mae gormodedd o nwyddau di-ben-draw wedi gwneud i amser fynd yn brin,” wrth i bobl “stryffaglu i benderfynu beth i’w brynu neu i’w wylio neu i’w fwyta” yn yr ychydig amser sydd ganddyn nhw.

Yn y flwyddyn 1930, gwnaeth un economegydd blaenllaw ragfynegi y byddai datblygiadau technolegol yn rhoi mwy o amser hamdden i weithwyr. Roedd yn hollol anghywir! “Yn hytrach nag ymddeol yn gynnar,” meddai Elizabeth Kolbert yn y cylchgrawn New Yorker, mae pobl “yn dod o hyd i bethau newydd y mae arnyn nhw eu heisiau”—ac mae’r pethau hyn yn costio arian ac amser.

3 BODLONI DISGWYLIADAU

Mae rhai gweithwyr yn gweithio oriau hir iawn er mwyn plesio eu cyflogwr. Mae cyd-weithwyr hefyd yn gallu eich rhoi chi o dan bwysau drwy wneud ichi deimlo’n euog am beidio â gweithio’n hwyr. Ar ben hynny, gall yr ansicrwydd economaidd wneud i bobl weithio oriau mawr neu achosi iddyn nhw fod ar gael drwy’r amser.

Yn yr un modd, gall rhieni deimlo o dan bwysau i fod yr un mor brysur â theuluoedd eraill. Os nad ydyn nhw’n cydymffurfio, hawdd ydy iddyn nhw deimlo’n euog gan feddwl bod eu plant yn “colli allan.”

4 STATWS A BODDHAD PERSONOL

Mae Tim, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, yn dweud: “Roedd fy ngwaith yn bwysig iawn imi, ac roeddwn ni’n gweithio fel lladd nadroedd drwy’r amser. Teimlais fod gen i rywbeth i’w brofi i mi fy hun.”

Yn debyg i Tim, mae llawer yn teimlo bod yna gysylltiad rhwng eu hunan-ddelwedd a chyflymder eu bywyd. Y canlyniad? “Mae prysurdeb yn arwydd o statws cymdeithasol,” meddai Elizabeth Kolbert, a ddyfynnwyd yn gynharach. Mae hi’n ychwanegu: “Y mwyaf prysur wyt ti, y mwyaf pwysig wyt ti’n ymddangos.”

BOD YN GYTBWYS

Mae bod yn weithgar yn cael ei annog yn y Beibl. (Diarhebion 13:4) Ond mae hynny hefyd yn wir am gydbwysedd. “Mae un llond llaw gyda gorffwys yn well na dau lond llaw o ganlyniad i orweithio,” meddai Pregethwr 4:6.

Mae byw bywyd cytbwys yn gwneud lles i’n hiechyd meddwl a chorfforol. Ond a ydy hi’n wir bosib gwneud llai neu dynnu’n ôl? Ydy. Ystyriwch y pedwar awgrym canlynol:

1 GOSOD AMCANION CLIR

Mae dymuno rhywfaint o ddiogelwch ariannol yn gwbl naturiol. Ond faint o arian sy’n ddigon? Sut mae rhywun yn diffinio llwyddiant? A yw’n cael ei fesur yn ôl incwm neu asedau materol? I’r gwrthwyneb, gall gormod o orffwys ac amser hamdden ein rhoi ni o dan bwysau amser.

Mae Tim, a ddyfynnwyd yn gynharach, yn dweud: “Gwnaeth fy ngwraig a minnau edrych yn ofalus ar ein ffordd o fyw a phenderfynon ni symleiddio pethau. Gwnaethon ni lunio siart a oedd yn dangos ein sefyllfa bresennol a’n hamcanion newydd. Hefyd, gwnaethon ni drafod effaith penderfyniadau’r gorffennol a’r hyn y byddai’n rhaid inni ei wneud er mwyn cyflawni ein hamcanion.”

2 OSGOI’R FAGL FATEROL

Y cyngor a geir yn y Beibl yw inni reoli ein “chwant am bethau materol.” (1 Ioan 2:15-17) Gall hysbysebu roi rhagor o danwydd ar dân ein chwantau, gan wthio person i weithio oriau mawr neu i gymryd pleser mewn gweithgareddau hamdden sy’n costio’n ddrud. Yn wir, ni allwch chi osgoi pob hysbyseb ond mae hi’n bosib ichi leihau eu dylanwad. Hefyd, gallwch feddwl yn ofalus am yr hyn rydych chi yn ei wirioneddol angen.

Cofiwch hefyd am ddylanwad eich ffrindiau. Os ydyn nhw’n rhoi eu holl fryd ar bethau materol, neu’n defnyddio pethau materol i fesur llwyddiant, call fyddai ichi ffeindio ffrindiau sydd â blaenoriaethau gwell. “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth,” meddai’r Beibl.—Diarhebion 13:20.

3 GWEITHIO’N GALL

Siaradwch â’ch cyflogwr am eich blaenoriaethau. A pheidiwch â theimlo’n euog am gael bywyd y tu allan i’ch gwaith. Dywed y llyfr Work to Live: “Mae pobl sy’n gosod terfynau rhwng eu swyddi a’u bywyd teuluol neu sy’n mynd ar eu gwyliau yn dod i ddeall hyn: Dydy’r byd ddim wedi dod i ben tra oeddech chi i ffwrdd.”

Roedd Gary, a ddyfynnwyd eisoes, yn gyffyrddus yn ariannol ac felly penderfynodd leihau ei oriau gwaith. “Siaradais gyda’r teulu ac awgrymu inni symleiddio ein ffordd o fyw,” meddai. “Yna, cymeron ni’r camau angenrheidiol. Siaradais hefyd gyda fy nghyflogwr a chynnig gweithio llai o ddiwrnodau’r wythnos, a dyma’n cytuno.”

4 BLAENORIAETHU AMSER GYDA’R TEULU

Mae’n angenrheidiol i wŷr a gwragedd dreulio amser gyda’i gilydd, ac mae’n hanfodol fod rhieni’n treulio amser gyda’u plant. Felly, peidiwch â cheisio rhedeg yr un mor gyflym â theuluoedd sy’n wastad yn llawn mynd. “Rhowch amser o’r neilltu i orffwys ac ymlacio,” awgrymodd Gary, “a pheidiwch â gwneud pethau diangen.”

Pan fydd y teulu gyda’i gilydd, peidiwch â gadael i’r teledu, ffonau symudol, a theclynnau tebyg ddod rhyngoch chi. Bwytewch o leiaf un pryd o fwyd gyda’ch gilydd y diwrnod, a defnyddiwch yr amser hwnnw i drafod pethau. O ddilyn cyngor o’r fath, mae plant yn ffynnu ac yn gwneud yn well yn yr ysgol.

Siaradwch fel teulu amser bwyd

Gofynnwch i chi eich hun: ‘Pa fath o fywyd rwyf eisiau, i mi a’r teulu?’ Os ydych eisiau bywyd mwy ystyrlon, blaenoriaethwch ar sail egwyddorion doeth y Beibl.