Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Chwith: Yasser Qudaih/Anadolu via Getty Images; de: RONALDO SCHEMIDT/AFP via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Pryd Bydd Rhyfeloedd yn Dod i Ben?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Pryd Bydd Rhyfeloedd yn Dod i Ben?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 “Nawr ydy’r amser i geisio heddwch a pheidio â chynhyrfu. Nawr ydy’r amser i ddangos hunanreolaeth,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ynglŷn ag ymosodiad Iran ar Israel ar ddydd Sadwrn, Ebrill 13, 2024.

 Mae’r ymladd sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol yn un enghraifft o’r hyn sy’n digwydd ar draws y byd.

 “Ar hyn o bryd, mae mwy o ryfeloedd yn digwydd ar draws y byd nag sydd wedi digwydd ers yr Ail Ryfel Byd, ac maen nhw’n effeithio ar 2 biliwn o bobl, sef chwarter poblogaeth y byd.”—Pwyllgor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, Ionawr 26, 2023.

 Mae’r gwledydd sy’n cael eu heffeithio gan ryfeloedd ar hyn o bryd yn cynnwys Israel, Gasa, Syria, Aserbaijan, Wcráin, Y Swdan, Ethiopia, Niger, Myanmar, a Haiti. a

 Pryd bydd rhyfeloedd yn dod i ben? A fydd arweinwyr y byd yn gallu dod â heddwch? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Y byd yn rhyfela

 Mae rhyfeloedd byd-eang heddiw yn dangos bod pob rhyfel yn mynd i ddod i ben yn fuan. Mae’r rhyfeloedd hyn yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl am yr amser rydyn ni’n byw ynddo. Mae’r Beibl yn galw’r cyfnod hwn yn “gyfnod olaf y system hon.”—Mathew 24:3.

  •   “Rydych chi’n mynd i glywed am ryfeloedd a chlywed sôn am ryfeloedd. . . . Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas.”—Mathew 24:6, 7.

 Darllenwch yr erthygl “Beth Yw Arwyddion y ‘Dyddiau Diwethaf’ neu’r ‘Cyfnod Olaf’?” i weld sut mae rhyfeloedd heddiw yn dangos bod proffwydoliaethau’r Beibl yn dod yn wir.

Rhyfel i roi diwedd ar holl ryfeloedd y byd

 Mae’r Beibl yn dweud y bydd rhyfeloedd dynol yn dod i ben. Sut bydd hynny’n digwydd? Nid drwy law dyn, ond drwy ryfel Armagedon, “rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog.” (Datguddiad 16:14, 16) Bydd y rhyfel hwn yn caniatáu i Dduw gyflawni ei addewid, sef heddwch i bawb am byth.—Salm 37:10, 11, 29.

 I ddysgu mwy am sut bydd rhyfel Duw yn rhoi diwedd ar holl ryfeloedd y byd, darllenwch yr erthygl “Beth yw Rhyfel Armagedon?

a ACLED Conflict Index, “Ranking violent conflict levels across the world,” Ionawr 2024