Neidio i'r cynnwys

Beth yw Rhyfel Armagedon?

Beth yw Rhyfel Armagedon?

Ateb y Beibl

 Mae Armagedon yn cyfeirio at y rhyfel terfynol rhwng Duw a’r llywodraethau dynol. Mae’r llywodraethau hyn a’r bobl sy’n eu cefnogi yn gwrthwynebu Duw drwy wrthod ufuddhau iddo. (Salm 2:2) Bydd rhyfel Armagedon yn rhoi terfyn ar bob llywodraeth ddynol.—Daniel 2:44.

 Dim ond unwaith mae’r gair “Armagedon” i’w weld yn y Beibl, yn Datguddiad 16:16. Mae’r broffwydoliaeth hon yn sôn am y “lle sy’n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon,” lle bydd brenhinoedd y ddaear yn cael eu “casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog.”​—Datguddiad 16:14.

 Pwy fydd yn rhyfela yn Armagedon? Bydd Iesu Grist yn arwain byddin nefol ac yn ennill buddugoliaeth dros elynion Duw. (Datguddiad 19:11-16, 19-21) Mae’r gelynion hyn yn cynnwys y rhai sy’n gwrthwynebu awdurdod Duw ac sy’n sarhau ei enw.—Eseciel 39:7.

 A fydd Armagedon yn digwydd yn y Dwyrain Canol? Na fydd. Bydd rhyfel Armagedon yn effeithio ar yr holl ddaear.—Jeremeia 25:32-34; Eseciel 39:17-20.

 Ystyr “Armagedon” (Hebraeg Har Meghidônʹ) yw “Mynydd Megido.” Dinas yn nhiriogaeth Israel gynt oedd Megido. Mae nifer o frwydrau pwysig wedi digwydd yng nghyffiniau Megido, gan gynnwys rhai y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl. (Barnwyr 5:19, 20; 2 Brenhinoedd 9:27; 23:29) Ond nid yw Armagedon yn cyfeirio at yr ardal ddaearyddol lle roedd Megido gynt. Nid oes mynydd mawr yno, ac ni fyddai hyd yn oed Dyffryn Jesreel cyfagos yn ddigon mawr i gynnwys y rhai a fydd yn rhyfela yn erbyn Duw. Sefyllfa fyd eang yw Armagedon, pan fydd y cenhedloedd yn dod at ei gilydd i ymladd yn erbyn Duw.

 Beth fydd yn digwydd yn ystod rhyfel Armagedon? Nid ydyn ni’n gwybod yn union sut bydd Duw yn defnyddio ei rym, ond yn y gorffennol, y mae wedi defnyddio cenllysg, daeargrynfeydd, glawogydd trymion, tân a brwmstan, mellt, a phlâu. (Job 38:22, 23; Eseciel 38:19, 22; Habacuc 3:10, 11; Sechareia 14:12) Bydd rhai o elynion Duw yn drysu ac yn lladd ei gilydd, ond yn y pen draw fe fyddan nhw’n sylweddoli mai Duw sy’n rhyfela yn eu herbyn nhw.—Eseciel 38:21, 23; Sechareia 14:13.

 A yw Armagedon yn golygu diwedd y byd? Ni fydd Armagedon yn dinistrio’r ddaear oherwydd mae Duw wedi creu’r ddaear i fod yn gartref i’r ddynolryw am byth. (Salm 37:29; 96:10; Pregethwr 1:4) Yn hytrach na dinistrio’r ddynoliaeth, bydd Armagedon yn ei hachub, oherwydd bydd tyrfa enfawr o weision Duw yn goroesi.—Datguddiad 7:9, 14; Salm 37:10, 11.

 Yn y Beibl weithiau mae’r gair “byd” yn cyfeirio at y ddaear, ond weithiau mae’n cyfeirio at y gymdeithas ddynol sy’n gwrthod ufuddhau i Dduw. (1 Ioan 2:15-17) Yn yr ystyr hwn, bydd Armagedon yn dod â “diwedd y byd.”—Mathew 24:3.

 Pryd bydd Armagedon yn digwydd? Wrth drafod y “gorthrymder mawr” sy’n dod i ben gyda rhyfel Armagedon, dywedodd Iesu: “Ond am y dydd hwnnw a’r awr ni ŵyr neb, nac angylion y nef, na’r Mab, neb ond y Tad yn unig.” (Mathew 24:21, 36, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Er hynny, mae’r Beibl yn dangos bod Armagedon yn digwydd yn ystod presenoldeb anweledig Iesu, a ddechreuodd ym 1914.—Mathew 24:37-39, New World Translation.