Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ilbusca/E+ via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Pam Na All Pobl Greu Heddwch?​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Pam Na All Pobl Greu Heddwch?​—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae arweinwyr a chyfundrefnau rhyngwladol wedi methu creu heddwch yn y byd. Mae mwy o wrthdaro ffyrnig heddiw nag ar unrhyw adeg arall ers yr Ail Ryfel Byd. Mae tua dau biliwn o bobl, sef chwarter poblogaeth y byd, yn byw mewn ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan wrthdaro o’r fath.

 Pam na all pobl greu heddwch? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Tri rheswm na all pobl greu heddwch

  1.  1. Mae gan bobl agweddau sy’n eu rhwystro nhw rhag hyd yn oed ceisio gwneud heddwch. Mae’r Beibl wedi rhagweld hynny, gan ddweud y byddai “dynion yn eu caru eu hunain, yn caru arian, yn frolgar, yn ffroenuchel, . . . yn gwrthod cytuno â phobl eraill, . . . heb hunanreolaeth, yn ffyrnig, . . . yn ystyfnig, yn llawn balchder.”​—2 Timotheus 3:2-4.

  2.  2. Fel unigolion, neu fel grwpiau, nid oes gan bobl y gallu i ddatrys eu problemau heb help y Creawdwr, Jehofa a Dduw. Mae’r Beibl yn dweud nad ydyn nhw “yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.”​—Jeremeia 10:23.

  3.  3. Mae’r byd o dan ddylanwad rheolwr grymus a drwg, Satan y Diafol, “sy’n camarwain yr holl ddaear.” (Datguddiad 12:9) Tra bod y “byd cyfan yn gorwedd yng ngafael yr un drwg,” bydd rhyfel a gwrthdaro yn parhau.​—1 Ioan 5:19.

Pwy sy’n gallu creu heddwch?

 Mae’r Beibl yn addo y bydd heddwch yn dod, nid drwy ymdrechion dynol, ond drwy law Duw.

  •   “‘Oherwydd myfi sy’n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer,’ medd yr ARGLWYDD, ‘bwriadau o heddwch, nid niwed, i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.’”​—Jeremeia 29:11, (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig).

 Sut bydd Duw yn cadw’r addewid hwn? “Bydd Duw yr heddwch yn malu Satan.” (Rhufeiniaid 16:20) Bydd Duw yn defnyddio llywodraeth nefol, yr un mae’r Beibl yn ei galw yn “Deyrnas Dduw,” i ddod â heddwch i’r byd cyfan. (Luc 4:43) Iesu Grist yw Brenin y Deyrnas honno, ac o dan ei arweiniad ef bydd pobl yn dysgu sut i fod yn heddychlon.​—Eseia 9:6, 7.

a Enw personol Duw yw Jehofa.​—Salm 83:18, (Beibl Cysegr-lân).