Neidio i'r cynnwys

Heddwch Byd-Eang—Pam Mae Wastad yn Llithro o’n Gafael?

Heddwch Byd-Eang—Pam Mae Wastad yn Llithro o’n Gafael?

Ateb y Beibl

 Mae ymdrechion dynion i ddod â heddwch i’r byd wedi methu ac y byddan nhw’n parhau i fethu am sawl reswm:

  •   Mae’r Beibl yn dweud “na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.” (Jeremeia 10:23) Chafodd bodau dynol mo’u creu gyda’r gallu na’r hawl i reoli eu hunain, felly mae heddwch parhaol y tu hwnt i’w cyrraedd.

  •   “Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu—dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub. Mae’r anadl yn mynd allan ohono, ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd; a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!” (Salm 146:3, 4) Er bod gan rai arweinwyr llywodraeth gymhellion diffuant, hyd yn oed wedyn, maen nhw’n methu’n lân â chael ateb hirdymor i ddatrys y problemau sy’n achosi rhyfeloedd.

  •   “Bydd adegau ofnadwy o anodd yn y cyfnod olaf hwn. Bydd pobl yn . . . anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain.” (2 Timotheus 3:1-4) Rydyn ni’n byw yn “y cyfnod olaf” o’r hen fyd drygionus hwn. Mae agweddau llawer o bobl yn y cyfnod hwn yn ei gwneud hi’n anodd cael heddwch.

  •   “Gwae chi’r ddaear a’r môr, oherwydd mae’r diafol wedi dod i lawr atat, ac wedi gwylltio’n gandryll, am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.” (Datguddiad 12:12) Mae’r Diafol, gelyn Duw, wedi cael ei gyfyngu i gyffiniau’r ddaear ac mae wrthi’n cymell pobl i feithrin ysbryd ffyrnig. Cyn belled ag y caiff y diafol “sy’n rheoli’r byd hwn,” barhau mewn grym, fyddwn ni byth yn cael heddwch.—Ioan 12:31.

  •   “Bydd [Teyrnas Dduw] yn chwalu’r teyrnasoedd eraill [sy’n gwrthwynebu Duw], ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.” (Daniel 2:44) Teyrnas Dduw, ac nid unrhyw lywodraeth ddynol, fydd yn diwallu ein dymuniad am heddwch byd-eang.—Salm 145:16.