Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Ddelio â Phroblem Iechyd Annisgwyl

Sut i Ddelio â Phroblem Iechyd Annisgwyl

 Ydy eich iechyd wedi gwaethygu’n annisgwyl? Os felly, rydych chi’n gwybod gall problem iechyd achosi straen—yn feddyliol, yn emosiynol, ac yn ariannol. Beth gall eich helpu i ymdopi? Sut gallwch helpu ffrind neu rywun yn y teulu sy’n ymdopi â phroblem iechyd? Nid llawlyfr meddygol yw’r Beibl, ond mae’n cynnwys egwyddorion ymarferol am sut i wneud y gorau o sefyllfa anodd.

Awgrymiadau i’ch helpu chi i ddelio â phroblem iechyd

  •   Ceisio triniaeth feddygol

     Mae’r Beibl yn dweud: “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl.”—Mathew 9:12.

     Sut mae’n berthnasol: Ceisiwch help gan feddygon proffesiynol os oes angen.

     Triwch hyn: Ceisiwch y gofal iechyd gorau sydd ar gael ichi. Weithiau byddai’n ddoeth i gael barn mwy nag un doctor. (Diarhebion 14:15) Cyfathrebwch yn glir â meddygon, sicrhewch eich bod chi’n eu deall nhw ac eu bod nhw’n deall yn glir eich holl symptomau. (Diarhebion 15:22) Dysgwch am eich afiechyd, gan gynnwys yr holl opsiynau am driniaeth. Wrth ichi ddeall beth i’w ddisgwyl, byddwch chi’n fwy parod i ddelio gyda’ch sefyllfa yn emosiynol ac i wneud penderfyniadau doeth am eich gofal.

  •   Cadw arferion iach

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ymarfer corff yn beth da.”—1 Timotheus 4:8.

     Sut mae’n berthnasol: Cewch fuddion o gadw arferion iach, fel ymarfer corff rheolaidd.

     Triwch hyn: Dilynwch raglen ymarfer corff reolaidd, cadwch at ddeiet iach, a cheisiwch ddigon o gwsg. Efallai eich bod yn addasu i’ch problem iechyd newydd, ond mae arbenigwyr yn cytuno bod buddsoddi amser ac egni i gadw arferion iach yn werth chweil. Wrth gwrs, sicrhewch nad ydy’r hyn rydych chi’n dewis ei gwneud yn cael effaith negyddol ar eich iechyd nac ar eich triniaeth.

  •   Ceisio cefnogaeth gan eraill

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

     Sut mae’n berthnasol: Gall ffrindiau eich helpu i ddyfalbarhau.

     Triwch hyn: Siaradwch â ffrind agos sy’n barod i wrando wrth ichi fwrw eich bol. Bydd gwneud hyn yn eich helpu i ymdopi â’r straen emosiynol a feddyliol sy’n dod o achos i’r newid yn eich iechyd. Mae’n debyg bydd eich ffrindiau a’ch teulu eisiau eich helpu chi mewn ffyrdd eraill, ond efallai na fyddan nhw’n gwybod beth i’w wneud. Felly, dywedwch wrthyn nhw yn glir beth bydd yn eich helpu chi fwyaf. Byddwch yn rhesymol yn eich disgwyliadau, a byddwch yn ddiolchgar bob amser am eu help. Ond cofiwch, er bod eich ffrindiau eisiau eich helpu, weithiau byddan nhw’n gwneud pethau a all eich llethu. I osgoi hyn, efallai bydd rhaid ichi osod rheolau, er enghraifft pa mor hir a pha mor aml gall pobl ymweld â chi.

  •   Cadw agwedd bositif

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae llawenydd yn iechyd i’r corff; ond mae iselder ysbryd yn sychu’r esgyrn.”—Diarhebion 17:22.

     Sut mae’n berthnasol: Gall agwedd bositif a gobeithiol eich helpu i aros yn llonydd eich meddwl er mwyn ymdopi â phroblem iechyd sy’n achosi straen.

     Triwch hyn: Wrth ichi addasu i’ch sefyllfa newydd, canolbwyntiwch ar beth fedrwch chi ei wneud, nid ar y pethau sydd tu hwnt i’ch rheolaeth. Osgowch gymharu eich hun ag eraill, neu â’ch gallu cyn i’r broblem iechyd godi. (Galatiaid 6:4) Bydd gosod amcanion rhesymol y gallwch eu cyrraedd yn eich helpu i aros yn bositif. (Diarhebion 24:10) Gwnewch bethau dros eraill yn ôl eich amgylchiadau. Mae’r hapusrwydd sy’n dod o roi yn medru eich helpu i beidio â meddwl am eich problemau yn ormodol.—Actau 20:35.

A fydd Duw yn eich helpu i ddelio â phroblem iechyd?

 Mae’r Beibl yn dangos gall Jehofa Dduw a helpu rhywun i ddelio â phroblemau iechyd. Er dydyn ni ddim yn disgwyl i Jehofa ein hiacháu ni mewn ffordd wyrthiol, gall y rhai sy’n addoli Duw dderbyn ei help yn y ffyrdd canlynol:

 Heddwch. Gall Jehofa ddarparu’r “heddwch perffaith . . . sydd tu hwnt i bob dychymyg” (Philipiaid 4:6, 7) Gall yr heddwch hwn, neu dawelwch meddwl, helpu rhywun i osgoi cael ei lethu gan bryder. Mae Duw yn rhoi’r fath heddwch i’r rhai sy’n gweddïo arno ac sy’n lleisio eu pryderon.—1 Pedr 5:7.

 Doethineb. Gall Jehofa ddarparu’r doethineb i wneud penderfyniadau da. (Iago 1:5) Mae rhywun yn derbyn y fath ddoethineb drwy ddysgu am, a rhoi ar waith, egwyddorion Beiblaidd sy’n berthnasol i bob oes.

 Gobaith calonogol ar gyfer y dyfodol. Mae Jehofa yn addo dyfodol pan ‘Fydd neb yn dweud, “Dw i’n sâl!”’ (Eseia 33:24) Mae’r gobaith hwn yn helpu llawer i gadw’n bositif, hyd yn oed wrth wynebu’r problemau iechyd mwyaf difrifol.—Jeremeia 29:11, 12.

a Mae’r Beibl yn datgelu mai Jehofa yw enw Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.