Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pan Fo Salwch Difrifol Arnoch

Pan Fo Salwch Difrifol Arnoch

“Pan glywais fod gen i ganser yr ysgyfaint a chanser y colon, o’n i’n teimlo fy mod i newydd gael fy nedfrydu i farwolaeth. Ond ar ôl imi gyrraedd adref o’r feddygfa, meddyliais, ‘Iawn, nid dyma o’n i’n ei ddisgwyl, ond rhaid imi feddwl am ffordd o ddelio â hyn.’”—Linda, sy’n 71 oed.

“Mae syndrom ofnadwy o boenus arna’ i sy’n effeithio ar nerfau ochr chwith fy wyneb. Ar adegau, mae’r boen ddychrynllyd wedi achosi iselder ysbryd imi. Yn aml, o’n i’n teimlo’n unig, ac mi wnes i hyd yn oed ystyried lladd fy hun.”—Elise, sy’n 49 oed.

OS OES gennych chi neu un o’ch anwyliaid salwch a all achosi marwolaeth, rydych chi’n gwybod cymaint o ofid mae’n gallu ei achosi. Ar ben y salwch ei hun, mae’n rhaid delio ag emosiynau bregus. Gall ofn a phryder ddod yn gryfach fyth oherwydd apwyntiadau meddygol, methu cael hyd i driniaeth addas neu fforddiadwy, neu sgil effeithiau’r feddyginiaeth. Mae’r boen meddwl sy’n dod gyda salwch difrifol yn gallu eich llethu.

Ond, i le gallwn ni fynd am gymorth? Mae llawer yn teimlo mai’r cysur mwyaf yw gweddïo’n daer ar Dduw a darllen adnodau cysurlon yn y Beibl. Gall cariad a chefnogaeth eich teulu a’ch ffrindiau hefyd fod o help.

AWGRYMIADAU I’CH HELPU I YMDOPI

“Rhowch eich ffydd yn Nuw,” meddai Robert, sy’n 58 oed, “ac mi fydd o’n eich helpu drwy eich salwch. Trowch at Jehofa mewn gweddi. Dywedwch wrtho sut ’dych chi’n teimlo. Gofynnwch iddo am ysbryd glân, ac am nerth i fod yn gryf er mwyn y teulu ac i ddod drwy eich salwch gydag urddas.

“Mae’n golygu cymaint pan mae’r teulu yn rhoi cymorth emosiynol ichi, pan maen nhw yno i’ch cefnogi. Dw i’n cael galwadau ffôn yn ddyddiol gan un neu ddau sy’n gofyn, ‘Sut wyt ti?’ a dw i’n cael anogaeth gan ffrindiau o bob man. Maen nhw’n bendant yn rhoi hwb imi, ac mae hynny’n fy helpu i ddal ati.”

Os ydych chi’n ymweld â ffrind sy’n sâl, sylwch ar awgrymiad Linda: “Mae’n siŵr bod y claf eisiau bywyd mor normal â phosib, ac efallai nad ydyn nhw eisiau siarad am y salwch o hyd. Felly sgwrsiwch â nhw am bethau bob dydd.”

Gyda nerth gan Dduw a chysur o’r Ysgrythurau, ynghyd â chefnogaeth teulu a ffrindiau cariadus, gallwn fod yn hyderus bod bywyd yn dal yn werth ei fyw, hyd yn oed pan ydyn ni’n wynebu salwch difrifol.