Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

alfa27/stock.adobe.com

YMGYRCH Y GOFFADWRIAETH

Bydd Iesu’n Rhoi Terfyn ar Droseddu

Bydd Iesu’n Rhoi Terfyn ar Droseddu

 Mae Iesu’n deall yn iawn sut mae trosedd ac anghyfiawnder yn effeithio ar bobl. Nid oedd Iesu erioed wedi cyflawni trosedd, ond cafodd ei gyhuddo ar gam, ei guro, ei roi ar brawf, ei gael yn euog, a’i ddienyddio mewn ffordd hynod o greulon. Er ei fod yn ddieuog, fe roddodd ei fywyd o’i wirfodd “er mwyn talu’r pris i achub llawer o bobl.” (Mathew 20:28; Ioan 15:13) Heddiw mae Iesu’n Frenin ar Deyrnas Dduw, ac yn fuan iawn fe fydd yn dod â chyfiawnder i’r byd ac yn rhoi terfyn ar droseddu unwaith ac am byth.—Eseia 42:3.

 Mae’r Beibl yn disgrifio sut le fydd y byd ar ôl i Iesu weithredu:

  •   “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig! Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Salm 37:10, 11.

 Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am bopeth mae Iesu wedi ei wneud ac y bydd yn ei wneud droston ni? Yn Luc 22:19, dywedodd Iesu y dylai ei ddilynwyr gofio ei farwolaeth. Dyna pam mae Tystion Jehofa yn dod at ei gilydd bob blwyddyn ar ben blwydd marwolaeth Iesu. Rydyn ni’n estyn gwahoddiad ichi ymuno â ni i gofio marwolaeth Iesu, nos Sul, 24 Mawrth, 2024.

Cael hyd i Goffadwriaeth