Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Trafod Hiliaeth â’ch Plant

Trafod Hiliaeth â’ch Plant

 Yn gynnar mewn bywyd, gall eich plentyn sylwi bod rhai pobl yn defnyddio lliw croen neu hil fel esgus i drin eraill yn wahanol. Sut gallwch chi helpu eich plentyn i osgoi cael ei ddylanwadu gan ragfarn hiliol pobl eraill? Beth gallwch chi ei wneud os bydd eich mab neu ferch yn dioddef o ragfarn hiliol?

Yn yr erthygl hon

 Sut i siarad â phlant am hil

 Gallwch chi esbonio fel hyn. Mae ’na amrywiaeth hyfryd o nodweddion corfforol ac arferion diwylliannol gan bobl o gwmpas y byd. Mae’r amrywiaeth wedi achosi rhai pobl i drin eraill yn wael ar sail y ffordd maen nhw’n edrych neu’n ymddwyn.

 Ond, mae’r Beibl yn dysgu bod bodau dynol i gyd yn tarddu o’r un teulu. Mewn geiriau eraill, rydyn ni i gyd yn perthyn i’n gilydd.

“Allan o un dyn, fe wnaeth [Duw] bob cenedl o ddynion.”—Actau 17:26.

 “Wrth i’n plant gymdeithasu â phobl o wahanol gefndiroedd ethnig, mi wnaethon ni sylwi eu bod nhw’n gallu gweld drostyn nhw eu hunain fod pob unigolyn yn haeddu cael ei drin â’r un cariad a pharch.”—Karen.

 Sut i esbonio hiliaeth i blant

 Bydd eich plentyn yn siŵr o ddod ar draws adroddiadau newyddion sy’n sôn am droseddau casineb neu bobl o hil gwahanol yn cael eu trin yn annheg, rywbryd neu’i gilydd. Sut gallwch chi esbonio beth sy’n digwydd? Gallwch chi fynd ati i’w esbonio mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar oedran y plentyn.

  •   Oed ysgol feithrin. “Mae plant bach yn effro iawn i’r hyn sy’n deg neu’n annheg,” meddai’r Dr Allison Briscoe-Smith, yn y cylchgrawn Parents. “Gall hynny agor y ffordd a’i gwneud hi’n haws i drafod anghyfiawnder â nhw.”

“Dydy Duw ddim yn dangos ffafriaeth, ond ym mhob cenedl, mae’r dyn sy’n ei ofni ac sy’n gwneud beth sy’n iawn yn dderbyniol iddo.”Actau 10:34, 35.

  •   Oed ysgol gynradd. Mae plant rhwng 6 a 12 oed yn aml yn chwilfrydig, a byddan nhw weithiau’n gofyn cwestiynau anodd. Atebwch y rhain gorau fedrwch chi. Siaradwch â’ch plant am beth maen nhw’n ei weld yn yr ysgol, ar y teledu, neu ar lein, a defnyddiwch y trafodaethau fel cyfle i esbonio bod rhagfarn hiliol yn anghywir.

“Rhaid i bob un ohonoch chi fod o’r un meddwl, yn dangos cydymdeimlad, cariad brawdol, tosturi tyner, a gostyngeiddrwydd.”—1 Pedr 3:8.

  •   Arddegau. Mae pobl ifanc wedi cyrraedd adeg yn eu bywyd pan maen nhw’n gallu deall materion mwy cymhleth. Felly pan fydd eich plentyn wedi cyrraedd ei arddegau, mae’n gyfle gwych ichi drafod adroddiadau newyddion am ragfarn hiliol.

Mae pobl aeddfed “wedi dysgu i ddefnyddio eu gallu meddyliol i wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.”Hebreaid 5:14.

 “’Dyn ni’n siarad â’n plant am hiliaeth am fod hynny’n rywbeth y byddan nhw’n sicr o ddod ar ei draws, lle bynnag y byddan nhw’n byw. Os na fyddan nhw’n clywed am y pwnc gartref, mi fyddai hi’n hawdd iddyn nhw fabwysiadu agweddau pobl eraill. Gall llawer o gamwybodaeth gael ei chyflwyno i’n plant fel ffeithiau.”—Tanya.

 Sut i osod esiampl

 Mae plant yn dysgu drwy esiampl, felly mae’n bwysig ichi feddwl yn ofalus am yr hyn rydych chi’n ei ddweud a’i wneud. Er enghraifft.

  •   Ydych chi’n dweud jôcs am bobl o hiliau eraill neu’n eu bychanu nhw? “Mae eich plant yn eich gwylio ac yn gwrando arnoch chi ac yn naturiol ddigon y byddan nhw’n modelu eu hymddygiad ar y ffordd y byddwch chi’n ymddwyn,” meddai Academi Americanaidd Seicoleg Plant a’r Glasoed.

  •   Ydych chi’n mwynhau bod gyda phobl o rannau eraill o’r byd? Dywedodd y paediatregydd Alanna Nzoma: “Os ydych chi eisiau i’ch plant wneud ffrindiau â phobl o wahanol gefndiroedd, fe ddylen nhw eich gweld chi yn gwneud hyn.”

“Anrhydeddwch ddynion o bob math.”1 Pedr 2:17.

 “Dros y blynyddoedd, cawson ni westeion o bob ran o’r byd. Mi wnaethon ni ddysgu am eu bwyd a cherddoriaeth a hyd yn oed gwisgo eu dillad traddodiadol. Siaradon ni â’n plant am bobl, heb ganolbwyntio ar eu hil. A wnaethon ni ddim brolio am ein diwylliant ein hunain.”—Katarina.

 Os ydy eich plentyn wedi dioddef rhagfarn

 Er cymaint o sôn am gydraddoldeb, mae hiliaeth yn dal yn rhemp. Gall eich plentyn gael ei drin yn angharedig, yn enwedig os bydd ef neu hi yn cael ei hystyried yn rhan o grŵp lleiafrifol. Os bydd hynny’n digwydd . . .

 Beth yw’r ffeithiau? Oedd y person yn bwriadu bod yn angharedig, neu oedd yn siarad heb feddwl? (Iago 3:2) A oes angen i rywun siarad â’r unigolyn, neu ydy hi’n bosib ichi anghofio am y peth?

 Mae’n bwysig fod yn rhesymol. Mae gan y Beibl gyngor doeth am orymateb: “Paid â rhuthro i ddangos dig.” (Pregethwr 7:9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae rhaid cydnabod bod hiliaeth yn broblem ddifrifol. Ond os bydd rhywun yn eich sarhau neu eich trin yn annheg, dydy hynny ddim bob tro yn meddwl ei fod yn casáu eich cenedl.

 Wrth gwrs, mae pob sefyllfa yn wahanol, felly ceisiwch ddarganfod beth ddigwyddodd go iawn cyn penderfynu a fyddwch chi’n gwneud rhywbeth yn ei gylch.

“Y mae’r un sy’n ateb cyn gwrando yn dangos ffolineb ac amarch.”Diarhebion 18:13, BCND.

 Ar ôl dysgu’r ffeithiau, gofynnwch i chi’ch hun:

  •   ‘A fydd yn helpu fy mhlentyn os bydd yn cymryd bod gan bawb ragfarn yn ei erbyn a phob tro mae rhywun yn ei sarhau, mae hyn oherwydd ei hil?’

  •   ‘A allai fy mhlentyn elwa o ddilyn cyngor y Beibl: “Paid cymryd sylw o bopeth sy’n cael ei ddweud”?’—Pregethwr 7:21.

“Gadewch i bawb weld eich bod chi’n rhesymol.”Philipiaid 4:5.

 Beth os yw’r sarhad yn ymddangos yn fwriadol? Helpwch eich plentyn i sylweddoli y gall pethau fynd yn well neu’n waeth. Bydd hynny’n dibynnu ar sut bydd ef neu hi’n ymateb. Weithiau bydd person sy’n gwneud hwyl am ben rhywun arall, ac yn ei fwlio, neu yn ei sarhau, dim ond yn gwneud hynny i gael ryw fath o ymateb ganddo. Mewn achosion o’r fath, efallai’r ymateb gorau yw peidio ag ymateb.

“Mae tân yn diffodd os nad oes coed i’w llosgi.”Diarhebion 26:20.

 Ar y llaw arall, os bydd yn ddiogel i wneud hynny, gallai ef neu hi siarad â’r un sy’n sarhau. Efallai bydd eich plentyn yn gallu dweud (mewn ffordd heddychlon sydd ddim yn codi ei wrychyn), “Dw i ddim yn meddwl bod yr hyn wnaethoch chi ddweud (neu ei wneud) yn garedig o gwbl.”

 Beth os ydych chi eisiau hysbysu rhywun am y digwyddiad? Os mae diogelwch y plentyn o dan fygythiad neu am ryw reswm arall, rydych chi’n teimlo na ddylai’r sefyllfa gael ei anwybyddu, cofiwch bod gynnoch chi’r hawl i siarad â swyddogion yr ysgol neu hyd yn oed â’r heddlu os bydd angen.