Neidio i'r cynnwys

EFELYCHU EU FFYDD | MIRIAM

‘Canwch i Jehofa’!

‘Canwch i Jehofa’!

 Roedd yr afon yn llifo’n araf deg, a’r pryfed yn hedfan yn ddiog drwy’r awyr wrth i’r oriau lusgo heibio. Ond yna, ynghanol yr heddwch, roedd merch yn sefyll yn stond, yn gwrando’n astud, ac yn cadw llygad barcud ar y fasged yn y brwyn. Roedd hi’n gwybod bod ei rhieni’n iawn—dyma’r unig ffordd roedd ei brawd am aros yn fyw. Ond roedd meddwl amdano yn y fasged ar ei ben ei hun bach yn gyllell i’w chalon.

 Roedd y ferch hon yn ddewr, ond roedd rhywbeth ar fin digwydd a fyddai’n dangos bod ffydd wedi dechrau tyfu yn ei chalon, a byddai’r rhinwedd honno yn cael effaith ddramatig ar ei bywyd hi. Byddai’n ei harwain hi yn ystod y cyfnod mwyaf gwefreiddiol yn hanes ei phobl, ac yn ei helpu i gywiro ei chamgymeriadau. Ond pwy oedd hi? A beth gallwn ni ei ddysgu o’i ffydd?

Miriam, Merch Caethweision

 Dydy hi ddim yn cael ei henwi yn yr hanesyn hwn, ond rydyn ni’n gwybod pwy oedd hi. Miriam oedd hi, plentyn hynaf Amram a Iochefed, oedd yn gaethweision yn yr Aifft. (Numeri 26:59) Dydyn ni ddim yn gwybod yn union faint oedd oed Miriam ar y pryd, ond mae’n debyg roedd hi o dan ddeg. Roedd ganddi frawd iau, Aaron, oedd tua thri. A’r babi yn y fasged? Ei brawd bach, a fyddai’n cael ei alw’n Moses.

 Roedd yr Eifftiaid yn poeni bod ’na ormod o Hebreaid, felly dyma nhw’n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision. Roedd yr Eifftiaid yn eu cam-drin nhw gymaint roedd bywyd yn chwerw iawn i’r Hebreaid. Sylwodd y Pharo fod nifer yr Hebreaid yn tyfu, a’u bod nhw’n ffynnu, felly gorchmynnodd rywbeth mwy creulon byth. Roedd pob bachgen oedd yn cael ei eni i’r Hebreaid i gael ei ladd ar unwaith. Ond roedd ’na ddwy fydwraig Hebreig o’r enw Shiffra a Pua, oedd yn cuddio’r ffaith eu bod nhw’n cadw’r babis yn fyw. Tyfodd Miriam i fyny ynghanol hyn i gyd, ac mae’n debyg gwnaeth ffydd y ddwy ddynes yma greu argraff fawr arni.—Exodus 1:8-22.

 Gwelodd Miriam ffydd ei rhieni hi hefyd. Doedd gan Amram a Iochefed ddim ofn y Pharo, a doedden nhw ddim am adael i’w babi gael ei ladd. Felly, gwnaethon nhw ei guddio am dri mis cyntaf ei fywyd. (Hebreaid 11:23) Ond doedd hynny ddim yn hawdd. Felly, roedd ganddyn nhw benderfyniad anodd iawn i’w wneud. Penderfynodd Iochefed adael y babi yn rhywle lle byddai rhywun yn dod o hyd iddo ac yn edrych ar ei ôl. Dychmygwch gymaint byddai hi wedi gweddïo wrth iddi wneud basged allan o frwyn, ei selio â thar, a gadael ei baban annwyl ar afon Nîl! Ac mae’n debyg mai hi wnaeth ofyn i Miriam aros a chadw llygad i weld beth fyddai’n digwydd.—Exodus 2:1-4.

Miriam yn Neidio i’r Adwy

 Felly dyna lle roedd Miriam yn disgwyl, nes iddi weld grŵp o ferched yn dod yn nes. Pwy oedden nhw? Merch y Pharo a’i morynion, yn dod i ymolchi yn y Nîl. Ond nid nhw roedd Miriam yn gobeithio eu gweld. Oni fyddai merch y Pharo yn gwrando ar orchymyn ei thad, a chael gwared ar y babi? Â’i chalon yn ei gwddf, mae’n sicr roedd Miriam yn gweddïo’n daer yn y foment honno.

 Fel mae’n digwydd, merch Pharo oedd y cyntaf i weld y fasged ynghanol y brwyn. Pan ddaeth un o’r caethferched â’r fasged draw ati, dyma hi’n ei agor, “a gweld y babi bach—bachgen, ac roedd yn crio.” Roedd merch y Pharo yn gwybod yn syth beth roedd wedi digwydd. Roedd un o’r Hebreaid yn trio achub ei babi. Ond roedd hi’n teimlo dros y babi bach hyfryd yma. (Exodus 2:5, 6) Roedd Miriam wedi bod yn gwylio hyn i gyd yn ofalus, ac wedi gallu darllen wyneb merch y Pharo. Roedd hi’n gwybod mai nawr oedd yr amser i weithredu, nawr oedd yr amser i ddangos ei ffydd. Felly yn benderfynol o fod yn ddewr, gwnaeth hi achub ar ei chyfle a mynd at ferch y Pharo a’i morynion.

 Pwy â ŵyr beth fyddai’r gosb petai caethferch Hebraeg yn meiddio siarad â rhywun o’r teulu brenhinol! Ond dyna’n union wnaeth Miriam, a gofynnodd: “Ga i fynd i nôl un o’r gwragedd Hebreig i fagu’r plentyn i chi?” Roedd hynny’n gwestiwn clyfar. Wedi’r cwbl, doedd merch y Pharo ddim mewn sefyllfa i fagu plentyn ar y fron. Efallai roedd y dywysoges yn teimlo y byddai’n well i’r bachgen gael ei fagu ymysg ei bobl ei hun, ac wedyn pan fyddai’n ddigon hen, byddai hi’n ei fabwysiadu, yn gofalu amdano yn ei chartref ei hun, ac yn rhoi addysg iddo. Mae’n rhaid roedd Miriam wedi gwirioni o glywed ateb merch y Pharo: “Ie, gwna hynny!”—Exodus 2:7, 8.

Yn ddewr, gwnaeth Miriam wneud yn siŵr fod ei brawd bach yn ddiogel

 Mae’n siŵr fod Miriam wedi rhedeg adref at ei rhieni nerth ei thraed, ar dân eisiau rhannu’r newyddion â’i mam. Roedd Iochefed yn hollol sicr mai Jehofa oedd y tu ôl i hyn, felly aeth hi gyda Miriam yn ôl at ferch y Pharo. Dywedodd merch y Pharo: “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a’i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” (Exodus 2:9) Dychmygwch sut roedd Iochefed yn teimlo wrth glywed hynny! Mae’n siŵr roedd hi’n anodd iddi guddio ei gwên a’i rhyddhad.

 Gwnaeth Miriam ddysgu cryn dipyn y diwrnod hwnnw. Gwnaeth hi ddysgu does dim rhaid iddi fod yn oedolyn nac yn ddyn er mwyn bod yn ddewr ac yn ffyddlon. Gwnaeth hi hefyd ddysgu bod Jehofa yn gofalu am bob un o’i weision, ac yn gwrando ar eu gweddïau. (Salm 65:2) Mae pob un ohonon ni heddiw, yn hen neu’n ifanc, yn wryw neu’n fenyw, angen cofio hyn yn y cyfnod anodd hwn.

Miriam—Chwaer Amyneddgar

 Gwnaeth Iochefed fagu’r babi a gofalu amdano. Ac yn bendant, roedd Miriam yn caru ei brawd bach roedd hi wedi ei helpu i’w achub yn fawr iawn. Efallai roedd hi wedi ei helpu i ddysgu sut i siarad. A dychmygwch sut roedd hi’n teimlo o’i glywed yn defnyddio enw ei Dduw, Jehofa, am y tro cyntaf. Felly pan ddaeth y diwrnod poenus hwnnw pan roedd y bachgen yn ddigon hen i fynd yn ôl at ferch y Pharo, mae’n siŵr roedd y teulu cyfan yn teimlo’r boen honno i’r byw. (Exodus 2:10) Rhoddodd merch y Pharo yr enw Moses i’r bachgen, a gwnaeth ef dyfu i fyny yn rhan o deulu brenhinol yr Aifft. Ond wnaeth ef erioed adael meddyliau Miriam, a oedd wastad yn ei wylio i weld sut ddyn fyddai ef wrth iddo dyfu i fyny. A fyddai’n dal i garu Jehofa?

 Ymhen amser, daeth yr ateb yn glir. Gwnaeth Moses benderfynu gwasanaethu ei Dduw, yn hytrach na chymryd mantais o bopeth oedd ar gael iddo yn nhŷ’r Pharo. Meddyliwch pa mor falch roedd Miriam o’i brawd bach am wneud hynny. Ymhen amser, pan oedd Moses yn 40, gwnaeth ef amddiffyn ei bobl, ond wnaeth ef ddim gwneud hynny yn y ffordd gywir, nac ar yr amser cywir. Roedd wedi lladd Eifftiwr am gam-drin un o’r caethweision Hebreig. Nawr ei fod ef ei hun yn wynebu marwolaeth, gwnaeth ef ddianc o’r Aifft.—Exodus 2:11-15; Actau 7:23-29; Hebreaid 11:24-26.

 Roedd Moses wedi dianc yn bell i ffwrdd i Midian, ac roedd yn gweithio yno fel bugail, felly mae’n ddigon posib wnaeth Miriam ddim clywed gan ei brawd am y 40 mlynedd nesaf. (Exodus 3:1; Actau 7:29, 30) Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, gwelodd Miriam ei phobl yn dioddef yn fwy ac yn fwy.

Miriam y Broffwydes

 Mae’n debyg roedd Miriam yn ei 80au pan ddaeth Moses yn ôl. Roedd Duw wedi dweud wrtho i fynd at y Pharo i ofyn a fyddai’n gadael i bobl Dduw fynd. Aeth Aaron gyda Moses i siarad drosto. Er bod y Pharo wedi gwrthod eu cais, mae’n siŵr roedd Miriam yn gefn i’w dau frawd ac yn eu calonogi nhw, yn enwedig pan aethon nhw yn ôl dro ar ôl tro tra oedd Jehofa’n anfon y deg pla i rybuddio’r Eifftiaid. Y pla olaf oedd marwolaeth pob mab cyntaf-anedig yn yr Aifft. A gyda hynny, daeth yr amser i Israel adael yr Aifft o’r diwedd! Dychmygwch Miriam yn brysur yn helpu ei phobl wrth i Moses eu harwain nhw allan o’r Aifft.—Exodus 4:14-16, 27-31; 7:1–12:51.

 Ar un adeg, roedd yr Israeliaid wedi eu cornelu. Roedd y Môr Coch ar un ochr, a byddin yr Eifftiaid ar yr ochr arall. Felly beth wnaeth Moses? Wrth sefyll ar lan y môr, cododd Moses ei ffon i’r awyr, a gwahanodd y Môr Coch! Gwelodd Miriam hyn i gyd yn digwydd, ac wrth i Moses arwain y bobl ar hyd gwely sych y môr, mae’n siŵr roedd ei ffydd yn Jehofa yn gryfach nag erioed. Roedd ei Duw yn gallu gwneud unrhyw beth, ac yn gallu cyflawni unrhyw addewid!—Exodus 14:1-31.

 Unwaith i’r bobl gyrraedd yr ochr arall yn ddiogel, daeth y môr i lawr ar ben Pharo a’i fyddin. Gwnaeth hynny brofi i Miriam bod Jehofa’n gryfach na’r fyddin fwyaf yn y byd. Roedd y bobl newydd weld cyfres o bethau mor rhyfeddol, gwnaethon nhw ddechrau canu clod i Jehofa, a Miriam oedd yn arwain y merched, gan ganu “Canwch i’r ARGLWYDD i ddathlu ei fuddugoliaeth! Mae wedi taflu’r ceffylau a’u marchogion i’r môr!”—Exodus 15:20, 21; Salm 136:15.

Cafodd Miriam ei hysbrydoli i arwain merched Israel mewn cân o fuddugoliaeth wrth ymyl y Môr Coch

 Roedd honno’n foment fythgofiadwy ym mywyd Miriam. Ond mae ’na fanylyn bach arall yn yr hanesyn. Dyma’r tro cyntaf i’r Beibl alw Miriam, ac unrhyw ddynes arall o ran hynny, yn broffwydes. Dim ond ychydig o ferched yn hanes y Beibl wnaeth wasanaethu Jehofa fel hyn, felly roedd yn fraint arbennig iawn.—Barnwyr 4:4; 2 Brenhinoedd 22:14; Eseia 8:3, Beibl Cymraeg Diwygiedig; Luc 2:36.

 P’un a ydyn ni’n hen neu’n ifanc, yn wryw neu’n fenyw, gall pob un ohonon ni efelychu Miriam a dangos bod gynnon ni ffydd yn Jehofa. Mae ei hanes yn ein hatgoffa ni bod Jehofa yn ein gwylio ni, a’i fod yn awyddus i wobrwyo popeth rydyn ni’n ei wneud, mawr neu fach, yn ogystal â’n hamynedd a’n dymuniad i’w foli. Dydy Jehofa byth yn anghofio ffydd o’r fath. Mae’n ei blesio’n fawr, ac mae’n ein bendithio ni’n hael am hynny.—Hebreaid 6:10; 11:6.

Miriam yn Troi’n Falch

 Ar ôl i Israel gael ei ryddhau, mae’n debyg mai Miriam oedd dynes bwysicaf y genedl. Roedd hynny’n fraint ynddo’i hun. Ond fel sy’n wir am bob braint, mae’n dod â bendithion a pheryglon. Roedd ’na beryg y byddai hi’n troi’n falch oherwydd ei statws. (Diarhebion 16:18) Ac yn anffodus, dyna ddigwyddodd am gyfnod.

 Roedd Moses wedi priodi Seffora tra oedd ef yn byw ym Midian. Ond nawr, ychydig o fisoedd ar ôl yr Exodus, roedd tad Seffora, Jethro, yn dod â hi a’i meibion at wersyll yr Israeliaid ar ôl iddi ymweld â’i theulu ym Midian. (Exodus 18:1-5) Dyma wraig y dyn roedd Jehofa wedi ei ddewis i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft. Felly dychmygwch y cyffro ymhlith yr Hebreaid wrth iddyn nhw groesawu’r bobl yma oedd wedi dod o bell!

 Ond sut roedd Miriam yn teimlo? Efallai roedd hi’n hapus i weld ei chwaer yng nghyfraith i gychwyn, ond mae’n ymddangos wnaeth hynny ddim para’n rhy hir. Efallai roedd hi’n poeni y byddai Seffora yn cymryd ei lle fel dynes bwysicaf y genedl. Beth bynnag oedd yr achos, gwnaeth Miriam adael i falchder gael y gorau ohoni. Dechreuodd hi ac Aaron siarad yn negyddol am Seffora. Roedden nhw’n cwyno ei bod hi’n ddynes estron, nid yn Israeliad. Ond y peryg gyda siarad yn negyddol ydy ei fod fel arfer yn troi’n chwerw ac yn sbeitlyd. A dyna’n union a ddigwyddodd yn yr achos hwn. Gwnaethon nhw hyd yn oed ddechrau cwyno am Moses, gan ddweud: “Ai dim ond trwy Moses mae’r ARGLWYDD yn siarad? . . . Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?”—Numeri 12:1, 2.

Miriam y Gwahanglwyfus

 Yn amlwg, doedd Miriam ac Aaron ddim yn hapus â’r ffordd roedd Jehofa yn defnyddio Moses. Roedden nhw eisiau mwy o awdurdod dros y genedl. Ond beth oedd y tu ôl i hyn? A oedd Moses yn camddefnyddio ei awdurdod, ac yn trio bob sut i fwydo ei falchder? Nac oedd. Wrth gwrs, doedd Moses ddim yn berffaith, ond sylwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud amdano: “Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy’r byd i gyd.” Felly Miriam ac Aaron oedd gyda’r agwedd anghywir, nid Moses. Roedd balchder wedi lledaenu fel gwenwyn yn eu calonnau, ac wedi eu rhoi nhw mewn sefyllfa beryglus, oherwydd “roedd yr ARGLWYDD wedi eu clywed nhw.”—Numeri 12:2, 3.

 Beth ddigwyddodd nesaf? Gwnaeth Jehofa alw’r tri ohonyn nhw draw i babell y cyfarfod. Disgynnodd y golofn o niwl oedd yn cynrychioli Jehofa, ac aros o flaen y fynedfa. A dyma Jehofa’n dechrau siarad. Gwnaeth ef ddwrdio Miriam ac Aaron, a’u hatgoffa nhw fod Moses yn ffrind iddo, a’i fod yn ei drystio’n llwyr. Meddyliwch yr ofn fyddai wedi dod dros Miriam ac Aaron pan ofynnodd Jehofa: “Pam roeddech chi mor barod i’w feirniadu?” Roedd Jehofa wedi gwneud ei bwynt yn glir. Roedd amharchu Moses cystal ag amharchu Jehofa ei hun.—Numeri 12:4-8.

 Gwnaeth Jehofa gosbi Miriam—roedd ei chroen “wedi troi’n wyn gan wahanglwyf.” Pam mai dim ond Miriam gafodd ei chosbi? Mae’n ymddangos mai hi oedd wedi perswadio ei brawd i gymryd ei hochr hi yn erbyn ei chwaer yng nghyfraith. Hi oedd wedi sbarduno’r agwedd negyddol oedd wedi cael gafael ar y ddau ohonyn nhw. Ond er gwaethaf ei chamgymeriadau, mae’n amlwg roedd ei brodyr yn ei charu hi’n fawr iawn. Pan welodd Aaron groen Miriam, gwnaeth ef erfyn ar Moses ar unwaith am faddeuant Jehofa, gan ddweud: “Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu!” A dyma Moses yn troi at Jehofa’n syth gan ofyn: “O Dduw, plîs wnei di ei hiacháu hi?”—Numeri 12:9-13.

Duw yn Maddau i Miriam

 Gwelodd Jehofa fod Miriam yn wir edifar, felly yn ei drugaredd, gwnaeth ef ei hiacháu hi, o dan un amod—roedd rhaid iddi aros mewn cwarantîn am saith diwrnod y tu allan i wersyll Israel. Byddai pawb yn y gwersyll yn gwybod lle roedd hi’n mynd a pham. Ac ar ben hynny, byddai’n rhaid iddyn nhw ddisgwyl nes iddi ddod yn ei hôl cyn iddyn nhw allu symud yn eu blaenau. Dychmyga’r cywilydd byddai Miriam wedi teimlo wrth adael y gwersyll! Ond yn ei chalon, roedd hi’n gwybod bod ei Thad, Jehofa, yn gyfiawn, a’i fod ond yn ei chosbi hi am ei fod yn ei charu. Felly yn ei ffydd, gwnaeth hi beth roedd rhaid iddi ei wneud. Ar ôl y saith diwrnod cywilyddus hynny, roedd Miriam yn cael mynd yn ôl i’r gwersyll. Byddai hynny wedi gofyn am ostyngeiddrwydd, ond roedd hefyd yn gyfle arall iddi ddangos ei ffydd.—Numeri 12:14, 15.

 Y ffaith amdani yw, mae Jehofa’n disgyblu’r rhai mae’n eu caru. (Hebreaid 12:5, 6) Felly doedd ef ddim am wylio balchder Miriam yn tyfu heb wneud dim. Er bod y ddisgyblaeth wedi brifo, gwnaeth hi ei derbyn yn ostyngedig, ac ennill ffafr Duw unwaith eto. Dyna, yn y diwedd, wnaeth ei hachub hi. Flynyddoedd wedyn, tuag at ddiwedd eu taith, cyrhaeddodd yr Israeliaid Cadesh yn anialwch Sin. A dyna lle buodd Miriam farw, pan oedd hi bron yn 130 mlwydd oed mae’n debyg. a (Numeri 20:1) Ganrifoedd wedyn, gwnaeth Jehofa atgoffa ei bobl drwy ei broffwyd Micha: “Fi wnaeth eich . . . rhyddhau o fod yn gaethweision. Anfonais Moses i’ch arwain, ac Aaron a Miriam gydag e.” (Micha 6:4) Felly yn amlwg, roedd gan Jehofa feddwl uchel o Miriam, ac yn cofio ei gwasanaeth ffyddlon.

Ffydd Miriam wnaeth ei helpu hi i aros yn ostyngedig pan wnaeth Jehofa ei disgyblu

 Mae ’na lawer gallwn ni ei ddysgu o fywyd Miriam. Mae’n rhaid inni amddiffyn y rhai sydd ddim yn gallu amddiffyn eu hunain, a bod yn ddigon dewr i ddweud rhywbeth pan fydd rhaid, fel gwnaeth hi pan oedd hi’n blentyn. (Iago 1:27) Fel Miriam, rydyn ni angen rhannu neges Duw ag eraill yn llawen. (Rhufeiniaid 10:15) Fel Miriam, mae’n rhaid inni osgoi’r gwenwyn o fod yn falch ac yn chwerw. (Diarhebion 14:30) Ac fel Miriam, rydyn ni angen bod yn ddigon gostyngedig i adael i Jehofa ein cywiro ni. (Hebreaid 12:5) Wrth inni wneud y pethau hyn, byddwn ni’n llwyddo i efelychu ffydd Miriam.

a Mae’n ymddangos bod Miriam, Aaron, a Moses wedi marw o fewn blwyddyn o’i gilydd, ac yn y drefn cawson nhw eu geni.