Neidio i'r cynnwys

EFELYCHU EU FFYDD | MAIR MAGDALEN

“Dw i Wedi Gweld yr Arglwydd!”

“Dw i Wedi Gweld yr Arglwydd!”

 Edrychodd Mair Magdalen i fyny i’r awyr, gan sychu’r dagrau o’i llygaid. Roedd ei hannwyl Arglwydd yn hongian ar stanc. Roedd hi tua chanol dydd ar ddiwrnod o wanwyn, eto “aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad”! (Luc 23:44, 45) Gorchuddiodd ei hysgwyddau â’i mantell a hel ei hun i sefyll yn nes at y merched wrth ei hymyl. Fyddai hyd yn oed eclips, sydd ond yn para am funudau, ddim wedi achosi’r fath dywyllwch am deirawr. Efallai bod Mair ac eraill oedd yn sefyll ger Iesu yn dechrau clywed anifeiliaid y nos, rhai nad oedd i’w clywed yng ngolau dydd fel arfer. O weld hyn i gyd dyma rai “yn dychryn,” ac medden nhw, “Mab Duw oedd e, reit siŵr!” (Mathew 27:54) Gallai dilynwyr Iesu ac eraill fod wedi meddwl bod Jehofa ei hun yn dangos ei dristwch a’i ddicter am gamdriniaeth gas ei Fab.

 Prin roedd Mair Magdalen yn gallu gwylio’r hyn oedd yn digwydd, ond oedd hi’n methu ymadael chwaith. (Ioan 19:25, 26) Mae’n rhaid bod Iesu wedi bod mewn poen annioddefol. Roedd mam Iesu angen cysur a chefnogaeth hefyd.

 Gan fod Iesu wedi gwneud cymaint dros Mair, roedd hi eisiau gwneud beth bynnag oedd hi’n gallu drosto. Roedd hi ar un adeg yn ddynes drist heb unrhyw barch, ond bellach roedd Iesu wedi newid hynny i gyd. Roedd wedi llenwi ei bywyd ag urddas a phwrpas. Daeth hi’n ddynes o ffydd gref. Sut? A beth gall ei ffydd ddysgu inni heddiw?

“Defnyddio Eu Harian i Helpu”

 Yn y Beibl, mae hanes Mair Magdalen yn dechrau gyda rhodd. Rhoddodd Iesu ryddid iddi, a’i rhyddhau o sefyllfa hunllefus. Yn y dyddiau hynny, roedd dylanwad y cythreuliaid yn gryf, ac roedd yr ysbrydion dieflig hynny yn ymosod ar lawer o bobl, gan hyd yn oed gymryd rheolaeth o’u cyrff. Wyddon ni ddim pa effaith gafodd y cythreuliaid ar Mair Magdalen druan; ond fe wyddon ni ei bod hi wedi cael ei meddiannu gan saith o’r bwlis milain, gwyrdroëdig hynny. A diolch i Iesu Grist, daethon nhw i gyd allan ohoni!—Luc 8:2.

 Dyna chi ryddhad oedd cael ei gollwng o’i chaethiwed, roedd gan Mair fywyd hollol newydd o’i blaen hi. Ym mha ffordd gallai hi ddangos ei gwerthfawrogiad? Daeth yn ddilynwr ffyddlon i Iesu. Hefyd, fe welodd hi angen ac ymatebodd yn syth. Roedd Iesu a’i apostolion angen bwyd, dillad, a lle i gysgu am y noson. Doedden nhw ddim yn ddynion cyfoethog, a doedd yr un ohonyn nhw’n gweithio ar y pryd. Er mwyn canolbwyntio ar bregethu a dysgu, roedden nhw angen rhywun i’w helpu gyda’u hanghenion materol.

 Helpodd Mair a nifer o wragedd eraill i lenwi’r anghenion hynny. Roedd y gwragedd yn “defnyddio eu harian i helpu.” (Luc 8:1, 3) Efallai bod rhai o’r gwragedd yn gyfoethog. Dydy’r Beibl ddim yn dweud a oedden nhw wedi paratoi bwyd, golchi dillad, neu drefnu rhywle iddyn nhw aros mewn un pentref ar ôl y llall. Ond roedden nhw’n hapus i gefnogi’r grŵp teithiol hwn, a oedd efallai’n rhifo o gwmpas 20. Roedd ymdrechion y merched hynny yn sicr o fod wedi helpu Iesu a’i apostolion i ganolbwyntio’n llawn ar y gwaith pregethu. Wrth gwrs, gwyddai Mair na allai byth dalu’n ôl am yr hyn roedd Iesu wedi ei wneud drosti—ond am bleser cafodd hi yn gwneud yr hyn a allai!

 Hwyrach bod rhai heddiw yn edrych i lawr ar bobl sy’n gwneud gwaith gostyngedig ar ran eraill. Ond nid felly mae hi gyda Duw. Dychmygwch ei bleser wrth weld Mair yn rhoi yn hael, gan wneud yr hyn a allai i gefnogi Iesu a’i apostolion! Heddiw, hefyd, mae llawer o Gristnogion ffyddlon yn hapus i wasanaethu eraill yn ostyngedig. Weithiau mae rhywbeth ymarferol, neu air caredig hyd yn oed, yn gallu gwneud llawer o ddaioni. Mae Jehofa yn wir yn werthfawrogi pethau fel hyn.—Diarhebion 19:17; Hebreaid 13:16.

Wrth Ymyl Stanc Iesu

 Mair Magdalen oedd un o lawer o ferched a aeth gyda Iesu i Jerwsalem ar gyfer gŵyl y Pasg 33 OG. (Mathew 27:55, 56) Pan glywodd fod Iesu wedi cael ei arestio a’i roi ar brawf yn ystod y nos, mae’n rhaid ei bod hi wedi ypsetio’n llwyr. Ac aeth y newyddion yn waeth. Roedd y llywodraethwr Pontius Peilat dan ddylanwad yr arweinwyr crefyddol Iddewig a’r dorf, wedi dedfrydu Iesu i farwolaeth greulon ar stanc. Mae’n ddigon tebyg fod Mair wedi gweld ei Meistr yn waed i gyd ac wedi ymlâdd, yn stryffaglu drwy’r strydoedd, ac yn llusgo’r polyn hir ar gyfer ei ddienyddiad.—Ioan 19:6, 12, 15-17.

 Ar ôl iddi dywyllu tua hanner dydd, roedd Mair Magdalen a’r merched eraill yn dal i sefyll wrth stanc Iesu. (Ioan 19:25) Gwnaeth Mair, a oedd yno hyd y diwedd, weld a chlywed Iesu yn ymddiried gofal ei fam i’w apostol annwyl Ioan. Clywodd waedd angerddol Iesu i’w Dad. A chlywodd ei eiriau olaf buddugoliaethus cyn iddo farw, “Mae’r cwbl wedi ei wneud.” Roedd ei chalon hi’n deilchion. Ond er hyn i gyd, ar ôl i Iesu farw, arhosodd yno. Ac yn hwyrach ymlaen, arhosodd wrth ymyl y beddrod newydd lle gosododd dyn cyfoethog o’r enw Joseff o Arimathea gorff Iesu.—Ioan 19:30; Mathew 27:45, 46, 57-61.

 Mae esiampl Mair yn ein hatgoffa o’r hyn gallwn ei wneud pan mae ein brodyr a chwiorydd yn wynebu treialon anodd. Efallai na allwn ni rwystro trasiedi neu gael gwared ar eu poen. Ond, gallwn ni ddangos tosturi a dewrder. Gall cael ffrind da i’n cefnogi wneud byd o wahaniaeth mewn cyfnodau anodd. Mae glynu’n ffyddlon wrth ochr ffrind mewn angen yn dangos ffydd gref ac yn gallu bod yn gysur mawr.—Diarhebion 17:17.

Yn sicr roedd Mair Magdalen yn gysur mawr i fam Iesu

“Bydda i’n Mynd i’w Nôl”

 Ar ôl i gorff Iesu gael ei roi yn y beddrod, roedd Mair ymhlith y merched a ddaeth â sbeisys ychwanegol i’w rhoi ar ei gorff yn hwyrach ymlaen. (Marc 16:1, 2; Luc 23:54-56) Yna cododd yn gynnar yn y bore ar ôl i’r Saboth orffen. Dychmyga hi’n cerdded ar hyd y strydoedd tywyll gyda’r merched eraill, ar eu ffordd i feddrod Iesu. Wrth gerdded roedden nhw’n pendroni dros sut gallen nhw rowlio’r garreg fawr oddi ar geg y beddrod. (Mathew 28:1; Marc 16:1-3) Ond wnaethon nhw ddim troi’n ôl. Mae’n amlwg mai eu ffydd wnaeth eu cymell i wneud yr hyn oedden nhw’n gallu ac i adael y gweddill yn nwylo Jehofa.

 Efallai fod Mair wedi cyrraedd y beddrod o flaen y lleill. Safodd hi’n stond, wedi ei syfrdanu. Roedd y garreg wedi cael ei rholio i ffwrdd—ac roedd y beddrod yn wag! Doedd Mair ddim yn un am oedi, rhedodd yn ei hôl at Pedr ac Ioan i adrodd yr hyn roedd hi wedi ei weld. Dychmyga hi’n dweud â’i gwynt yn ei dwrn: “Maen nhw wedi cymryd yr Arglwydd allan o’r bedd, a dŷn ni ddim yn gwybod ble maen nhw wedi ei roi e!” Rhuthrodd Pedr ac Ioan at y beddrod, gweld ei fod yn wag, ac aethon nhw yn ôl i’w cartrefi. aIoan 20:1-10.

 Pan ddychwelodd Mair at y beddrod, arhosodd am sbel yno ar ei phen ei hun. Yn oriau mân y bore, gwnaeth distawrwydd y beddrod gwag ei tharo hi, a phowliodd y dagrau i lawr ei gruddiau. Plygodd i edrych i mewn i’r beddrod, yn dal ddim yn credu bod yr Arglwydd wedi mynd, a chafodd sioc enfawr. Yn eistedd yno roedd dau angel mewn gwyn! “Pam wyt ti’n crio?” gofynnon nhw. Wedi ei drysu’n lân, dyma hi’n ailadrodd yr hyn a ddywedodd hi wrth yr apostolion: “Maen nhw wedi cymryd fy Arglwydd i ffwrdd, . . . a dw i ddim yn gwybod ble maen nhw wedi mynd ag e.”—Ioan 20:11-13.

 Dyma hi’n troi, ac yna, y tu ôl iddi, roedd dyn yn sefyll. Doedd hi ddim yn ei adnabod, felly roedd hi’n cymryd mai’r garddwr oedd ef. “Wraig annwyl,” meddai’r dyn yn garedig wrthi, “pam wyt ti’n crio? Am bwy rwyt ti’n chwilio?” Atebodd Mair, “Syr, os mai ti sydd wedi ei symud, dywed lle rwyt ti wedi ei roi e, a bydda i’n mynd i’w nôl e.” (Ioan 20:14, 15) Meddylia am yr hyn a ddywedodd hi. A fyddai hi, ar ei phen ei hun, wedi gallu codi a chario corff Iesu Grist a oedd wedi bod yn ddyn cryf a chyhyrog? Wnaeth hynny ddim hyd yn oed croesi meddwl Mair. Roedd hi ond yn gwybod bod rhaid iddi wneud yr hyn roedd hi’n gallu.

“Bydda i’n mynd i’w nôl”

 Pan wynebwn dristwch a rhwystrau sy’n teimlo’n ormod inni, a allwn ni efelychu Mair Magdalen? Os ydyn ni’n canolbwyntio ar ein gwendidau a’n cyfyngiadau yn unig, efallai cawn ein parlysu gan ofn ac ansicrwydd. Ond os ydyn ni’n benderfynol o wneud popeth a allwn a gadael y gweddill yn nwylo ein Duw, efallai byddwn ni’n cyflawni llawer mwy nag y gallwn ni ddychmygu. (2 Corinthiaid 12:10; Philipiaid 4:13, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Yn bwysicach byth, byddwn ni’n plesio Jehofa. Yn sicr dyna a wnaeth Mair, a chafodd hi ei gwobrwyo ganddo mewn ffordd hynod o annisgwyl.

“Dw i Wedi Gweld yr Arglwydd!”

 Nid garddwr oedd y dyn a safodd o flaen Mair. Roedd wedi bod yn saer ar un adeg, yna’n athro, ac yna’n Arglwydd annwyl Mair. Ond doedd hi ddim yn ei adnabod, a dechreuodd droi i ffwrdd. Fyddai Mair byth wedi dychmygu’r gwir: Roedd Iesu wedi cael ei godi’n fyw fel ysbryd nerthol. Ymddangosodd Iesu i Mair fel dyn, ond nid yn yr un corff a oedd ganddo gynt. Yn y dyddiau cyffrous ar ôl ei atgyfodiad, yn aml byddai hyd yn oed ei ffrindiau agos ddim yn ei adnabod.—Luc 24:13-16; Ioan 21:4.

 Sut gwnaeth Iesu adael i Mair wybod pwy oedd ef? Drwy’r ffordd a ddywedodd un gair: “Mair!” Trodd Mair ar ei sawdl a gweiddi’r gair Hebraeg mae’n debyg roedd hi wedi ei ddefnyddio lawer o weithiau i’w gyfarch—“Rabbwni!” Ei hathro annwyl oedd ef! Roedd hi’n llawen dros ben. Gafaelodd ynddo a doedd hi ddim eisiau gadael iddo fynd.—Ioan 20:16.

 Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd trwy ei meddwl hi. “Paid dal gafael ynof fi,” meddai. Gallwn ddychmygu ei fod wedi siarad yn garedig, efallai gyda gwên gynnes, wrth iddo ryddhau ei hun yn dyner o’i gafael gan ei sicrhau: “Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto.” Doedd hi ddim eto’n amser iddo fynd i’r nef. Roedd ganddo waith i’w wneud ar y ddaear o hyd, ac roedd eisiau help Mair. Wrth gwrs, roedd Mair yn glustiau i gyd. “Dos at fy mrodyr i,” meddai wrthi, “a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.’”—Ioan 20:17.

 Dyna chi aseiniad gan ei Meistr! Mair oedd un o’r disgyblion cyntaf i gael y fraint o weld Iesu ar ôl iddo gael ei atgyfodi a nawr roedd ganddi’r fraint o rannu’r newyddion da ag eraill. Dychmygwch ei llawenydd, roedd hi’n ysu cael hyd i’r disgyblion. Dychmygwch hi bron allan o wynt yn dweud y geiriau oedd yn atsain yn ei meddwl hi, a meddyliau eraill am yn hir wedyn: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A hithau wedi ei chyffroi’n lân, roedd y geiriau’n byrlymu allan wrth iddi adrodd popeth roedd Iesu wedi ei ddweud wrthi hi. (Ioan 20:18) Roedd ei hadroddiad hi yn ychwanegu at yr hyn roedd y disgyblion wedi ei glywed gan y merched eraill oedd wedi bod i feddrod gwag Iesu.—Luc 24:1-3, 10.

“Dw i wedi gweld yr Arglwydd!”

“Doedd yr Apostolion Ddim yn eu Credu Nhw”

 Sut gwnaeth y dynion ymateb? Ddim yn dda iawn ar y cychwyn. “Doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw—roedden nhw’n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr.” (Luc 24:11) Roedd gan y dynion bob cymhelliad da ond roedden nhw wedi cael eu magu mewn cymdeithas oedd yn tueddu i beidio ag ymddiried mewn merched; yn ôl traddodiad rabinaidd, doedd merch ddim yn cael rhoi tystiolaeth yn y llys. Efallai bod yr apostolion wedi cael eu dylanwadu gan eu diwylliant yn fwy nag oedden nhw’n sylweddoli. Ond mae Iesu a’i Dad y tu hwnt i’r fath ragfarn. Am fraint cafodd y ddynes ffyddlon honno ganddyn nhw!

 Yn bendant, wnaeth Mair ddim gadael i ymateb y dynion ei hypsetio hi. Roedd hi’n gwybod bod ei Meistr yn ei thrystio hi, ac roedd hynny’n ddigon. Yn debyg i hyn, mae Iesu wedi rhoi neges i bob un o’i ddilynwyr ei rhannu. Mae’r Beibl yn galw’r neges honno’n “newyddion da am Dduw yn teyrnasu.” (Luc 8:1) Wnaeth Iesu ddim addo i’w ddilynwyr y byddai pawb yn eu credu nac yn gwerthfawrogi eu gwaith. I’r gwrthwyneb. (Ioan 15:20, 21) Felly mae’n beth da i Gristnogion gofio Mair Magdalen. Ni allai hyd yn oed amheuaeth ei brodyr ysbrydol ei hun dywallt dŵr oer dros y llawenydd a gafodd o rannu’r newyddion da am atgyfodiad Iesu!

 Ymhen amser, ymddangosodd Iesu i’w apostolion ac yna i fwy a mwy o’i ddilynwyr. Ar un achlysur ymddangosodd i fwy na 500 ar yr un pryd! (1 Corinthiaid 15:3-8) Mae’n sicr fod ffydd Mair wedi tyfu bob tro ymddangosodd Iesu, p’un a wnaeth hi ei weld â’i llygaid ei hun neu glywed adroddiadau. Efallai mai Mair Magdalen oedd un o’r merched a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn Jerwsalem ar ddydd y Pentecost pan gafodd yr ysbryd glân ei dywallt ar ddilynwyr Iesu.—Actau 1:14, 15; 2:1-4.

 Fodd bynnag, mae gynnon ni ddigon o reswm dros ddweud bod Mair Magdalen wedi aros yn ffyddlon hyd y diwedd. Gadewch i bob un ohonon ni fod yn benderfynol o wneud yr un fath! Byddwn ni’n efelychu ffydd Mair Magdalen os dangoswn werthfawrogiad am bopeth mae Iesu wedi ei wneud droston ni a gwasanaethu eraill yn ostyngedig tra’n bod ni’n ymddiried yn Nuw am ei help.

a Mae’n amlwg roedd Mair wedi gadael y beddrod cyn i’r merched eraill yn ei grŵp ddod ar draws angel a ddywedodd wrthyn nhw am atgyfodiad Crist. Fel arall, byddai Mair wedi adrodd i Pedr ac Ioan ei bod hi wedi gweld angel a esboniodd pam roedd y corff ar goll.—Mathew 28:2-4; Marc 16:1-8.