Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’n ei Olygu i “Garu Eich Gelynion”?

Beth Mae’n ei Olygu i “Garu Eich Gelynion”?

Ateb y Beibl

 Mae llawer ohonon ni’n gyfarwydd â geiriau Iesu yn ei Bregeth ar y Mynydd: “Parhewch i garu eich gelynion.” (Mathew 5:44; Luc 6:27, 35) Mae hynny’n golygu dylen ni fod yn garedig tuag at y rhai sy’n ein casáu ni neu sy’n ein trin ni’n annheg.

 Dangosodd Iesu ei fod yn caru ei elynion drwy faddau i’r rhai oedd yn ei gam-drin. (Luc 23:33, 34) Mae’r hyn roedd yn ei ddysgu am garu gelynion yn cytuno â’r Ysgrythurau Hebraeg, a elwir yn aml yr Hen Destament.—Exodus 23:4, 5; Diarhebion 24:17; 25:21.

 “Parhewch i garu eich gelynion ac i weddïo dros y rhai sy’n eich erlid.”—Mathew 5:43, 44.

Yn yr erthygl hon

 Pam caru ein gelynion?

  •   Mae Duw wedi gosod yr esiampl. Mae’n “garedig tuag at y rhai anniolchgar a drwg.” (Luc 6:35) Mae’n “gwneud i’r haul godi ar y drwg.”—Mathew 5:45.

  •   Gall cariad gymell gelyn i newid ei ffyrdd. Mae’r Beibl yn awgrymu y dylen ni drin ein gelynion yn garedig oherwydd wedyn byddwn ni’n “tywallt marwor tanllyd ar ei ben.” (Diarhebion 25:22) Mae’r metaffor yma yn sôn am y broses o gynhesu mwyn er mwyn tynnu’r metel gwerthfawr ohono. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n garedig tuag at rywun sy’n ein casáu ni, efallai byddwn ni’n ei feddalu fel petai, ac yn dod â’r da allan ohono.

 Sut gallwn ni garu ein gelynion?

  •   ‘Gwnewch ddaioni i’r rhai sy’n eich casáu chi.’ (Luc 6:27) Mae’r Beibl yn dweud, “Os ydy eich gelyn yn llwgu, rhowch fwyd iddo; os ydy ef yn sychedu, rhowch ddiod iddo.” (Rhufeiniaid 12:20) Hefyd, os ydych chi’n dilyn y rheol aur, sy’n dweud “yn union fel rydych chi eisiau i ddynion eich trin chi, gwnewch yr un fath iddyn nhw,” mae’n debyg byddwch chi’n dod o hyd i ffyrdd eraill o ddangos cariad tuag at elyn.—Luc 6:31.

  •   ‘Bendithiwch y rhai sy’n eich melltithio.’ (Luc 6:28) Rydyn ni’n bendithio ein gelynion drwy siarad yn gwrtais ac yn garedig iddyn nhw hyd yn oed pan maen nhw’n gas tuag aton ni. Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch â thalu yn ôl . . . sarhad am sarhad. Yn hytrach, talwch yn ôl â bendith.” (1 Pedr 3:9) Gall y cyngor hwn ein helpu ni i dorri’r cylch o gasineb.

  •   ‘Gweddïwch dros y rhai sy’n eich sarhau.’ (Luc 6:28) Os ydy rhywun yn eich sarhau chi, peidiwch â thalu’r pwyth yn ôl. (Rhufeiniaid 12:17) Gofynnwch i Dduw faddau iddyn nhw. (Luc 23:34; Actau 7:59, 60) Yn hytrach na dial arnyn nhw, gadewch pethau yn nwylo Duw. Bydd ef yn delio â nhw yn ôl ei safonau berffaith o gyfiawnder.—Lefiticus 19:18; Rhufeiniaid 12:19.

 “Parhewch i garu eich gelynion, i wneud daioni i’r rhai sy’n eich casáu chi, i fendithio’r rhai sy’n eich melltithio, i weddïo dros y rhai sy’n eich sarhau.”—Luc 6:27, 28.

  •   Byddwch yn “amyneddgar a charedig.” (1 Corinthiaid 13:4) Mae disgrifiad yr apostol Paul o gariad yn gyfarwydd iawn. Ynddo, mae’n defnyddio yr un gair Groeg am gariad (agape) ag sydd yn Mathew 5:44 a Luc 6:27, 35. Rydyn ni’n dangos y math yna o gariad at ein gelynion drwy fod yn amyneddgar ac yn garedig, nid yn genfigennus, yn ffroenuchel, neu’n ddigywilydd.

 “Mae cariad yn amyneddgar a charedig. Nid yw cariad yn genfigennus. Nid yw’n brolio, nac yn cael ei chwyddo gan falchder, nid yw’n ymddwyn yn anweddus, nid yw’n hunanol, nid yw’n gwylltio. Nid yw’n cadw cyfri o gam. Nid yw’n llawenhau oherwydd anghyfiawnder, ond mae’n llawenhau yn y gwir. Mae’n goddef pob peth, yn credu pob peth, yn gobeithio pob peth, yn dal ati o dan bob peth. Dydy cariad byth yn siomi.”—1 Corinthiaid 13:4-8.

 A ddylen ni ryfela yn erbyn ein gelynion?

 Na ddylen. Dysgodd Iesu i’w ddilynwyr, na ddylen nhw ryfela yn erbyn eu gelynion. Er enghraifft, pan rybuddiodd Iesu ei ddilynwyr am ymosodiad yn erbyn Jerwsalem, dywedodd y dylen nhw ffoi, nid brwydro. (Luc 21:20, 21) Gwnaeth Iesu hefyd ddweud wrth yr apostol Pedr: “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n defnyddio’r cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.” (Mathew 26:52) Mae hanes a’r Beibl yn dangos nad oedd dilynwyr Iesu yn y ganrif gyntaf yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion. a2 Timotheus 2:24.

 Camsyniadau am garu ein gelynion

 Camsyniad: Yn ôl cyfraith Duw, roedd rhaid i’r Israeliaid gasáu eu gelynion.

 Ffaith: Doedd y gyfraith ddim yn cynnwys gorchymyn o’r fath. Roedd yr Israeliaid i fod i garu eu cymydog. (Lefiticus 19:18) Roedd y term “cymydog” yn cyfeirio at bobl eraill, ni waeth pwy oedden nhw. Ond roedd rhai Iddewon wedi cyfyngu ar yr ystyr i gynnwys dim ond Iddewon eraill. Felly, roedden nhw’n trin y rhai doedd ddim yn Iddewon yn elynion, ac yn eu casáu nhw. (Mathew 5:43, 44) Cywirodd Iesu eu hagwedd anghywir drwy adrodd y ddameg am y Samariad trugarog.—Luc 10:29-37.

 Camsyniad: Mae caru eich gelynion yn golygu eich bod yn cytuno â’u drygioni.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn dangos eich bod chi’n gallu caru rhywun heb gytuno â’i ddrygioni. Er enghraifft, roedd Iesu yn erbyn trais ond gweddïodd dros y rhai wnaeth ei ladd. (Luc 23:34) Roedd hefyd yn casáu pechod, ond rhoddodd ei fywyd dros bechaduriaid.—Ioan 3:16; Rhufeiniaid 6:23.

a Mae’r llyfr The Rise of Christianity gan E. W. Barnes yn dweud: “O edrych ar yr holl wybodaeth sydd ar gael inni am y cyfnod hyd at Marcus Aurelius [ymerawdwr Rhufain o 161 i 180 OG], mae’n ymddangos ni wnaeth yr un Gristion ddod yn filwr, a ni wnaeth yr un filwr aros yn y fyddin ar ôl dod yn Gristion.”