Neidio i'r cynnwys

Pwy Oedd Gwraig Cain?

Pwy Oedd Gwraig Cain?

Ateb y Beibl

 Cain oedd mab hynaf y cwpl cyntaf ar y ddaear, ac fe briododd naill ai un o’i chwiorydd neu ferch arall o blith ei berthnasau. Deuwn i’r casgliad hwn drwy ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddweud am Cain a’i deulu.

Ffeithiau am Cain a’i deulu

  •   Mae’r ddynolryw i gyd yn ddisgynyddion i Adda ac Efa. Fe wnaeth Duw “greu y dyn cyntaf [Adda], a gwneud ohono yr holl genhedloedd gwahanol sy’n byw drwy’r byd i gyd.” (Actau 17:26) Gwraig Adda, Efa, oedd “mam pob person byw.” (Genesis 3:​20) Felly mae’n rhaid bod Cain wedi priodi rhywun oedd yn ddisgynnydd arall i Adda ac Efa.

  •   Cain a’i frawd Abel oedd yr hynaf o nifer o blant a aned i Efa. (Genesis 4:​1, 2) Pan gafodd Cain ei yrru i ffwrdd am ladd ei frawd, fe gwynodd: “Bydd pwy bynnag sy’n dod o hyd i mi yn fy lladd.” (Genesis 4:14) Pwy oedd Cain yn ei ofni? Mae’r Beibl yn dweud bod Adda wedi cael ‘meibion a merched eraill.’ (Genesis 5:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Roedd y bobl hynny, disgynyddion eraill i Adda ac Efa, yn fygythiad i Cain.

  •   Yn hanes cynnar y ddynoliaeth, nid peth anghyffredin oedd priodasau rhwng perthnasau agos. Er enghraifft, fe wnaeth y dyn ffyddlon Abraham briodi ei hanner chwaer. (Genesis 20:12) Cafodd priodasau rhwng perthnasau agos eu gwahardd am y tro cyntaf yng Nghyfraith Moses, a gyflwynwyd ganrifoedd ar ôl oes Cain. (Lefiticus 18:9, 12, 13) Ymddengys fod y plant a aned i berthnasau agos bryd hynny yn llai tebygol o gael namau geni nag y maen nhw heddiw.

  •   Mae’r Beibl yn cyflwyno hanes teulu Adda ac Efa fel ffaith. Ceir linachau manwl yn mynd yn ôl i Adda, nid yn unig yn llyfr Genesis a ysgrifenwyd gan Moses, ond hefyd yng ngwaith yr haneswyr Esra a Luc. (Genesis 5:3-5; 1 Cronicl 1:​1-4; Luc 3:38) Mae ysgrifenwyr y Beibl yn cyfeirio at hanes Cain fel digwyddiad hanesyddol.​—Hebreaid 11:4; 1 Ioan 3:12; Jwdas 11.