Neidio i'r cynnwys

Sut Galla i Wneud Penderfyniadau Da?

Sut Galla i Wneud Penderfyniadau Da?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn llawn cyngor all ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth. (Diarhebion 4:5) Mewn rhai achosion mae’n dweud yn union beth ydy’r penderfyniad gorau, ond mewn achosion eraill mae’n rhoi egwyddor sy’n ein harwain ni at y penderfyniad gorau.

Yn yr erthygl hon

 Awgrymiadau ar sut i wneud penderfyniad da

  •   Peidiwch â rhuthro i benderfyniad. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r call yn ystyried pob cam.” (Diarhebion 14:15, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Drwy wneud penderfyniadau ar hast, efallai byddwch chi’n anghofio am ffactorau pwysig. Felly, cymerwch amser i bwyso a mesur eich opsiynau yn ofalus.—1 Thesaloniaid 5:21.

  •   Peidiwch â gwneud penderfyniadau ar sail eich emosiynau. Mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni na allwn ni drystio ein calonnau bob tro. (Diarhebion 28:26; Jeremeia 17:9) Felly, mae’n debyg na fyddwn ni’n gwneud penderfyniadau da pan ydyn ni’n flin neu’n isel, neu pan ydyn ni wedi colli amynedd neu wedi gorflino.—Diarhebion 24:10; 29:22.

  •   Gweddïwch am ddoethineb. (Iago 1:5) Mae Duw yn Dad cariadus. Mae ef eisiau ein helpu ni i osgoi problemau, felly mae’n awyddus i’n hateb ni pan ydyn ni’n gweddïo am ddoethineb. Wedi’r cwbl, “yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb; beth mae e’n ddweud sy’n rhoi gwybodaeth a deall.” (Diarhebion 2:6) Mae ef yn rhannu’r doethineb hwnnw yn bennaf drwy ei Air, y Beibl.—2 Timotheus 3:16, 17.

  •   Gwnewch ymchwil. Mae’n rhaid casglu gwybodaeth ddibynadwy er mwyn pwyso a mesur yn iawn. Mae’r Beibl yn dweud bod “y doeth yn gwrando ac eisiau dysgu mwy.” (Diarhebion 1:5) Ble gallwch chi gael hyd i wybodaeth ddibynadwy a pherthnasol?

     Ein creawdwr sy’n gwybod beth sydd orau inni, felly trowch at ei Air, y Beibl, yn gyntaf. Mae’r llyfr hwnnw yn llawn cyngor dibynadwy a all eich helpu chi. (Salm 25:12) Weithiau mae’r Beibl yn rhoi cyfraith neu gorchymyn penodol ar ryw fater all ei wneud hi’n gwbl glir inni beth i’w wneud. (Eseia 48:17, 18) Ond ar adegau eraill, mae’r Beibl yn rhoi egwyddorion all ein helpu ni i wneud penderfyniad cytbwys ar sail ein cydwybod. Er mwyn cael hyd i adnodau sy’n berthnasol i’r mater dan sylw, gwnewch ymchwil mewn erthyglau a chyhoeddiadau sydd wedi eu seilio ar y Beibl. Mae llawer o’r rheini ar gael am ddim ar y wefan hwn. a

     Weithiau bydd rhaid edrych rhywle arall am wybodaeth ddibynadwy er mwyn cyrraedd penderfyniad. Er enghraifft, cyn prynu rhywbeth—yn enwedig rhywbeth drud—byddai’n peth call i wneud ymchwil ar yr eitem a phwy sy’n ei werthu, yn ogystal â beth yw eich hawliau petai’n torri neu petasech chi eisiau ei anfon yn ôl. Ac wrth gwrs, mae’n werth ystyried a ydy’r eitem yn cyrraedd eich gofynion.

     Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori.” (Diarhebion 15:22) Yn union fel rydyn ni’n mynd at y doctor cyn gwneud penderfyniad meddygol, mae’n werth gofyn i rywun rydych chi’n ei drystio am gyngor cyn gwneud penderfyniadau. (Mathew 9:12) Weithiau gallwch chi hyd yn oed siarad â phobl sydd wedi wynebu sefyllfa debyg i’ch un chi. Ond, cofiwch mai chi fydd yn gorfod gwneud y penderfyniad a byw gyda’r canlyniadau, nid y rhai wnaethoch chi ofyn iddyn nhw am gyngor.—Galatiaid 6:4, 5.

  •   Pwyso a mesur eich opsiynau. Efallai bydd gynnoch chi fwy nag un opsiwn ar ôl casglu’r holl wybodaeth. Mae’n bwysig pwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un. Ond byddwch yn realistig wrth ystyried yr effaith gall eich penderfyniad ei gael arnoch chi, ar eich teulu, neu ar eraill. (Deuteronomium 32:29; Diarhebion 22:3; Rhufeiniaid 14:19) Wrth ystyried pethau fel hyn, yn ogystal ag egwyddorion y Beibl, byddwch chi’n llwyddo i wneud penderfyniad doeth a chariadus.

  •   Gwnewch benderfyniad. Weithiau rydyn ni’n dal yn ôl rhag gwneud penderfyniad am ein bod ni’n teimlo’n rhy ansicr. Ond drwy wneud hynny, gallwn ni un ai colli allan ar rywbeth, neu gael ein hunain mewn sefyllfa anodd. A dweud y gwir, gall peidio â gwneud penderfyniad fod mor dwp â gwneud penderfyniad gwael. Fel mae’r Beibl yn ei ddweud: “Fydd ffermwr sy’n disgwyl tywydd perffaith byth yn hau, a’r un sy’n gwylio pob cwmwl byth yn medi cynhaeaf.” Mae hynny’n metaffor sy’n berthnasol i ni i gyd.—Pregethwr 11:4.

 Cofiwch, dydy’r penderfyniad gorau ddim bob tro yn berffaith. Yn aml pan ydyn ni’n dewis un peth bydd rhaid inni aberthu rhywbeth arall. Ar ben hynny, mae pethau annisgwyl yn digwydd i bawb. (Pregethwr 9:11) Felly, gwnewch y gorau o’r wybodaeth sydd gynnoch chi, a dewis yr opsiwn sy’n fwyaf tebygol o lwyddo.

 A ddylwn i newid penderfyniad rydw i wedi ei wneud yn barod?

 Mae hi’n bosib newid eich meddwl weithiau. Mae amgylchiadau yn gallu newid, neu gall pethau annisgwyl godi o ganlyniad i’ch penderfyniad cyntaf. Felly, weithiau y peth call i’w wneud ydy ailystyried eich opsiynau a dewis un gwell.

 Ar adegau eraill, ddylen ni ddim mynd yn ôl ar ein penderfyniad. (Salm 15:4) Er enghraifft, unwaith i gwpl wneud adduned priodas, mae Duw yn disgwyl iddyn nhw gadw at yr adduned honno. b (Malachi 2:16; Mathew 19:6) Felly, os bydd problemau yn codi yn eich priodas, dylech chi wneud pob ymdrech i’w datrys yn hytrach na cherdded i ffwrdd.

 Beth os ydw i wedi gwneud penderfyniad gwael na alla i ei newid?

 Rydyn ni i gyd wedi gwneud penderfyniad gwael rywbryd neu’i gilydd, ac mae’n ddigon naturiol i’w ddifaru, neu i deimlo’n euog dros y penderfyniad hwnnw. (Salm 69:5; Iago 3:2, troednodyn) Dydy hi ddim wastad yn ddrwg i deimlo fel ’na oherwydd mae’n gallu ein stopio ni rhag gwneud yr un camgymeriad eto! (Diarhebion 14:9) Gan ddweud hynny, mae’r Beibl yn ein rhybuddio ni rhag gadael i’r teimladau hynny ein llethu ni oherwydd byddwn ni ond yn brifo ein hunain. (2 Corinthiaid 2:7) c Cofiwch hefyd bod yr “ARGLWYDD mor drugarog a charedig.” (Salm 103:8-13) Felly, os ydych chi wedi gwneud penderfyniad gwael na allwch chi ei newid, dysgwch ohono a gwnewch beth fedrwch chi i wella’r sefyllfa.

a Gallwch chi chwilio am air neu ymadrodd sy’n berthnasol i’ch penderfyniad ar jw.org/cy. Mae’r wefan yma yn trafod llawer o bynciau ac yn rhoi cyngor ar sail y Beibl.

b Mae Duw eisiau i gyplau priod aros gyda’i gilydd am weddill eu bywydau. Mae ef ond yn caniatáu ysgariad ac ailbriodi pan mae un cymar yn euog o anfoesoldeb rhywiol. (Mathew 19:9) Os oes gynnoch chi broblemau yn eich priodas, gall y Beibl eich helpu chi i’w datrys nhw mewn ffordd ddoeth a chariadus.

c Am fwy o wybodaeth gwelwch yr erthygl, “I Feel Guilty—Can the Bible Help Me Find Relief?