Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyfeillgarwch?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyfeillgarwch?

Ateb y Beibl

 Gall cyfeillgarwch gyfrannu at fywyd hapus a llwyddiannus. Mae ffrindiau da yn dylanwadu’n dda ar ei gilydd, ac yn gwella cryfderau ei gilydd hefyd.—Diarhebion 27:17.

 Ond, mae’r Beibl yn pwysleisio’r pwysigrwydd o ddewis ein ffrindiau yn ofalus. Mae’n ein rhybuddio am y peryglon a all ddod o gyfeillgarwch â phobl ddrwg. (Diarhebion 13:20; 1 Corinthiaid 15:33) Gall ffrindiau o’r fath achosi rhywun i wneud penderfyniadau ffôl, neu ddifetha ei rinweddau da.

Yn yr erthygl hon

 Beth sy’n gwneud ffrind da?

 Mae’r Beibl yn dysgu y dylai cyfeillgarwch da gael ei seilio ar rywbeth dyfnach na diddordebau tebyg neu hobïau. Er enghraifft, mae Salm 119:63 yn dweud: “Dw i’n ffrind i bawb sy’n dy ddilyn di, a ac yn gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn.” Sylwch fod y salmydd yn dweud ei fod wedi dewis ffrindiau sydd eisiau plesio Jehofa b a byw yn ôl ei safonau.

 Mae’r Beibl hefyd yn dweud y dylai ffrind da ddangos y rhinweddau canlynol:

  •   “Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.”—Diarhebion 17:17.

  •   “Mae rhai ffrindiau’n gallu brifo rhywun, ond mae ffrind go iawn yn fwy ffyddlon na brawd.”—Diarhebion 18:24.

 Mae’r adnodau hyn yn dysgu bod ffrind da yn ffyddlon, yn gariadus, yn garedig, ac yn hael. Gallwn ni ddibynnu ar ffrind go iawn i’n cefnogi ni drwy dreialon bywyd. Bydd ffrind go iawn hefyd yn ddigon dewr i’n rhybuddio os ydyn ni’n gwneud rhywbeth annoeth neu ar fin gwneud penderfyniad gwael.—Diarhebion 27:6, 9.

 Esiamplau o ffrindiau da yn y Beibl

 Yn y Beibl, cawn weld esiamplau da o gyfeillgarwch rhwng pobl o oedrannau, cefndiroedd, diwylliannau, a safleoedd o awdurdod gwahanol. Ystyriwch dair enghraifft o gyfeillgarwch o’r fath.

  •   Ruth a Naomi. Merch yng nghyfraith Naomi oedd Ruth, ac mae’n bosib roedd ’na dipyn o wahaniaeth yn eu hoedran. Ar ben hynny, roedd Ruth yn dod o gefndir diwylliannol tra gwahanol i Naomi. Er hynny, daeth eu cyfeillgarwch yn un cariadus a chlòs iawn.—Ruth 1:16.

  •   Dafydd a Jonathan. Er roedd Jonathan yn 30 mlynedd yn hynach na Dafydd, mae’r Beibl yn dweud eu bod nhw’n “ffrindiau gorau.”—1 Samuel 18:1.

  •   Iesu a’i apostolion. Roedd gan Iesu safle o awdurdod dros ei apostolion am ei fod yn athro a meistr iddyn nhw. (Ioan 13:13) Ond doedd hynny ddim yn ei rwystro rhag eu hystyried yn ffrindiau. Yn hytrach, roedd gan Iesu berthynas glòs â’r rhai oedd yn dilyn ei ddysgeidiaethau. Dywedodd: “Rydw i wedi eich galw chi’n ffrindiau, oherwydd rydw i wedi rhoi gwybod ichi am yr holl bethau rydw i wedi eu clywed gan fy Nhad.”—Ioan 15:14, 15.

 Ydy’n bosib i berson fod yn ffrind i Dduw?

 Ydy, mae’n bosib i bobl fod yn ffrindiau i Dduw. Mae’r Beibl yn dweud bod gan Dduw “berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.” (Diarhebion 3:32) Mae Duw yn dewis ffrindiau sydd yn ceisio bod yn gyfiawn, yn weddus, ac yn barchus, ac sy’n gwneud ei gorau glas i fyw yn ôl ei safonau. Er enghraifft, mae’r dyn ffyddlon Abraham yn cael ei alw’n ffrind i Dduw yn yr Ysgrythurau.—2 Cronicl 20:7; Eseia 41:8; Iago 2:23.

a Mae cyd-destun y salm hon yn dangos bod y “ti” yn yr adnod hon yn cyfeirio at Dduw.