Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ewthanasia?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ewthanasia?

Ateb y Beibl

 Dydy’r Beibl ddim yn trafod ewthanasia yn benodol. a Ond, mae’r hyn mae’n ei ddweud am fywyd a marwolaeth yn gytbwys. Mae achosi marwolaeth yn annerbyniol, ond dydy hi ddim yn ofynnol i ymyrryd a gwneud pob peth posib i ymestyn bywyd pan fydd hi’n amlwg bod rhywun yn marw’n naturiol.

 Yn ôl y Beibl, Duw yw ein Creawdwr, “ffynnon bywyd.” (Salm 36:9, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; Actau 17:28) Yng ngolwg Duw, mae bywyd yn werthfawr iawn. Dyna pam mae Duw yn condemnio cymryd bywyd rhywun arall a chymryd ein bywydau ein hunain. (Exodus 20:13; 1 Ioan 3:15) Yn ogystal, mae’r Beibl yn dangos y dylen ni wneud popeth o fewn rheswm i ddiogelu ein bywydau ein hunain a bywydau eraill. (Deuteronomium 22:8) Mae’n amlwg, felly, fod Duw eisiau inni werthfawrogi anrheg bywyd.

Beth os yw rhywun yn derfynol wael?

 Yn ôl y Beibl, dydy’r ffaith fod rhywun yn bendant ar fin marw ddim yn esgus dros gymryd ei fywyd. Mae hanes Saul, Brenin Israel yn ategu hyn. Pan gafodd ei glwyfo’n farwol mewn brwydr, gofynnodd i’w was ei helpu i ddod a’i fywyd i ben. (1 Samuel 31:3, 4) Gwrthododd y gwas. Ond maes o law, fe honnodd dyn arall yn gelwyddog ei fod wedi cyflawni dymuniad Saul. Cafodd y dyn hwn ei gondemnio yn waed-euog gan Dafydd—dyn a oedd yn adlewyrchu meddylfryd Duw ar y mater.—2 Samuel 1:6-16.

A oes rhaid ymestyn bywyd o dan bob amgylchiad?

 Pan fo’n amlwg bod rhywun ar fin marw, nid yw’r Beibl yn gofyn am ymestyn y broses o farw. Yn hytrach, mae’r hyn mae’r Beibl yn ei gynnig yn gytbwys. Marwolaeth yw ein gelyn mawr, canlyniad i’n cyflwr pechadurus. (Rhufeiniaid 5:12; 1 Corinthiaid 15:26) Er na ddylen ni ddyheu am farw, does dim rhaid ofni marw chwaith, gan fod Duw yn addo atgyfodi’r meirw. (Ioan 6:39, 40) Byddai rhywun sy’n parchu bywyd yn ceisio’r gofal meddygol gorau sydd ar gael. Ond dydy hyn ddim yn golygu bod rhaid dewis triniaeth feddygol sydd ond yn arafu proses o farw sydd ar fin dod i ben.

Ydy hunanladdiad yn bechod anfaddeuol?

 Nac ydy, dydy’r Beibl ddim yn nodi hunanladdiad fel pechod anfaddeuol. Er bod hunanladdiad yn bechod difrifol, b mae Duw yn deall yn llwyr ffactorau fel salwch meddwl, straen aruthrol, neu hyd yn oed tueddiadau genetig a all wneud i rywun eisiau lladd ei hun. (Salm 103:13, 14) Drwy gyfrwng y Beibl, mae Duw yn cysuro’r rhai sy’n gofidio. Yn ogystal, mae’r Beibl yn dweud “y bydd atgyfodiad i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn.” (Actau 24:15, BCND) Mae hyn yn dangos bod ’na obaith am atgyfodiad i’r rhai sydd wedi gwneud camgymeriadau difrifol, fel lladd eu hunain.

a Mae ewthanasia, neu ladd trugarog, yn cael ei ddiffinio fel “yr arfer o ladd yn drugarog rywun sy’n dioddef clefyd marwol neu niwed anadferadwy.” (Y Gweiadur) Pan fo meddyg yn helpu claf i ddod a’i fywyd i ben, gelwir hyn yn hunanladdiad â chymorth meddyg.

b Er nad yw’r Beibl yn sôn am lawer yn lladd eu hunain, yr hyn sy’n gyffredin yw doedd yr un ohonyn nhw’n gweithredu’n unol ag ewyllys Duw.—2 Samuel 17:23; 1 Brenhinoedd 16:18; Mathew 27:3-5.